GWEINIDOGION Y DU SY'N GWEITHIO MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG
|
|
137 - Rheoliadau’r Gyfarwyddeb Masnach Electronig (Mabwysiadu a Phlant) (Diwygio etc) (Ymadael â’r UE) 2019 Gosodwyd yn Senedd y DU: 20 Mehefin 2019[1] |
|
Sifftio |
|
A fydd angen eu sifftio yn Senedd y DU? |
Bydd |
Gweithdrefn: |
Negyddol arfaethedig |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ’r Cyffredin |
02 Gorffennaf 2019 |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ’r Arglwyddi |
Anhysbys |
Y dyddiad y daw’r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU |
09 Gorffennaf 2019 |
Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: |
Papur 18 |
Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd ei fod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol) |
Papur 14 |
Gweithdrefn graffu |
|
Canlyniad y broses sifftio |
Anhysbys |
Gweithdrefn |
Negyddol neu gadarnhaol |
Dyddiad trafod gan y Cyd-bwyllgor ar Offerynnau Statudol |
Anhysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Tŷ'r Cyffredin |
Anhysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ’r Arglwyddi |
Anhysbys |
Sylwadau
Cynigir bod y Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud gan Lywodraeth y DU yn unol ag adran 8(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio dau ddarn o ddeddfwriaeth, sy’n deillio o Gyfarwyddeb 2000/31/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar 8 Mehefin 2000 ar rai agweddau cyfreithiol ar wasanaethau cymdeithas wybodaeth, yn enwedig masnach electronig, yn y Farchnad Fewnol, a gyfeirir yn gyffredin fel y Gyfarwyddeb Masnach Electronig (“y Gyfarwyddeb”). Y darnau o ddeddfwriaeth a ddiwygiwyd gan y Rheoliadau hyn yw Atodlen 11B i Ddeddf Addysg 2002 (“Deddf 2002”), a Rheoliadau’r Gyfarwyddeb Masnach Electronig (Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002) 2005 (“Rheoliadau 2005”).
Mae’r Gyfarwyddeb yn ceisio cyfrannu at weithrediad priodol y farchnad fewnol drwy sicrhau bod gwasanaethau cymdeithas wybodaeth (“ISS”) yn cael symud yn rhydd rhwng gwladwriaethau’r AEE a chymharu cyfreithiau gwladwriaethau’r AEE sy’n ymwneud â rheoleiddio a darparu ISS.
Mae Erthygl 3 o’r Gyfarwyddeb yn nodi’r egwyddor gwlad tarddiad (“CoO”) mewn perthynas â rheoleiddio ISS. Yn gyffredinol, mae'r egwyddor hon yn darparu bod yn rhaid i ISS gael ei reoleiddio gan gyfraith gwladwriaeth yr AEE lle mae darparwr y gwasanaethau wedi’i sefydlu, yn hytrach na chyfraith gwladwriaeth yr AEE lle y derbynnir y gwasanaethau. Mae’r egwyddor CoO yn drefniant dwyochrog rhwng gwladwriaethau’r AEE, na fydd y DU yn gallu cael budd ohono mwyach os bydd yn gadael heb gytundeb. Mae’r Rheoliadau hyn yn datgymhwyso’r egwyddor honno gan ei bod yn ymwneud â phwnc Rheoliadau 2005 ac Atodlen 11B i Ddeddf 2002.
Rhoddodd Rheoliadau 2005 ac Atodlen 11B i Ddeddf 2002 effaith ar egwyddor CoO mewn dau gyd-destun penodol. Yn benodol, gwnaethant ddarpariaeth yn ymwneud ag erlyn rhai troseddau penodol (“troseddau perthnasol”) a grëwyd gan Ddeddf 2002 ac, yn dilyn addasiadau a wnaed gan Reoliadau 2005, Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (“ACA 2002”).
Bydd y diwygiadau’n golygu na fydd ISS domestig (h.y. y rhai sydd wedi'u lleoli yng Nghymru a Lloegr) bellach yn cael eu trin yn awtomatig fel rhai sydd wedi cyflawni trosedd gyhoeddi berthnasol yng Nghymru a Lloegr/y DU os byddant yn cyhoeddi gwybodaeth waharddedig mewn gwladwriaeth AEE. Yn hytrach, byddant yn ddarostyngedig i ddeddfau’r wladwriaeth AEE y maent yn gweithredu ynddi. Yn yr un modd, bydd yn golygu na fydd unrhyw ISS AEE yn awtomatig yn cael ei eithrio rhag cael ei erlyn yng Nghymru a Lloegr/y DU.
Mae'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn cytuno â'r datganiad a osodwyd gan Lywodraeth Cymru dyddiedig 26 Mehefin 2019 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn.
Mae'r crynodeb uchod a chynnwys y Memorandwm Esboniadol i'r Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith ac i ba raddau y byddai'r Rheoliadau hyn yn deddfu polisi newydd mewn meysydd datganoledig. |
[1] Cafodd y rheoliadau a gyflwynwyd ar 20 Mehefin 2019 eu tynnu yn ôl a chyflwynwyd fersiwn ddiwygiedig gerbron Senedd y DU ar 25 Mehefin 2019, gyda’r cyfnod sifftio yn dod i ben ar 11 Gorffennaf 2019. Mae datganiad Llywodraeth Cymru yn cynnwys linc i’r rheoliadau diwygiedig. (Troednodyn wedi'i ychwanegu, 18 Gorffennaf 2019)