Cyflwyniad

 

1.        Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) yn cynrychioli’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru. Mae’r tri awdurdod parc cenedlaethol a’r tri awdurdod tân ac achub yn aelodau cysylltiol.  

 

2.        Ei nod yw cynrychioli awdurdodau lleol o fewn fframwaith polisi datblygol sy'n bodloni blaenoriaethau ei aelodau ac yn darparu amrywiaeth eang o wasanaethau sy'n ychwanegu gwerth at Lywodraeth Leol Cymru a’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.

 

3.        Mae CLlLC yn falch o allu ymateb i Ymchwiliad y Pwyllgor i Ffynonellau Cyllid Cyfalaf Llywodraeth Cymru, ac mae Clerc y Pwyllgor wedi gofyn i ni wneud sylwadau’n benodol ar y Model Buddsoddiad Cydfuddiannol (MIM).    Rydym wedi ymgynghori â Chymdeithas Trysoryddion Cymru a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru fel rhan o’n hymateb.  Gall awdurdodau lleol unigol hefyd gyflwyno eu hymatebion eu hunain sy’n adlewyrchu eu safbwyntiau eu hunain.

 

Trosolwg o gyllid cyfalaf a gwariant llywodraeth leol

 

4.        Hoffem gyfeirio’r pwyllgor at y dystiolaeth a gyflwynwyd i ymchwiliad blaenorol a lansiwyd yn 2012 mewn perthynas â chyllid cyfalaf.  Un pwynt a godwn dro ar ôl tro yw bod llywodraeth leol yn mwynhau cryn ryddid i fenthyca ac y gellid gwneud mwy o hyn i ariannu seilwaith lleol.  

 

5.        Mantais y math hwn o weithio mewn partneriaeth yw y gwelwyd buddsoddiad llwyddiannus a chyson drwy'r Fenter Benthyca Priffyrdd a Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif ill dau.  Mae’r ddau gynllun hyn wedi gweld Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid (o ran grant cyfalaf ac/neu gyllid i ariannu dyledion) ochr yn ochr â chyfraniadau llywodraeth leol.  

 

6.        Os oes rhaid benthyca o gwbl, mae llywodraeth leol wedi gwneud hynny mewn un o ddwy ffordd:  mae wedi benthyca’n fewnol (o falensau) neu mae wedi benthyca’n allanol (gan y bwrdd benthyca gwaith cyhoeddus – PWLB).

7.        Mae cyllid ychwanegol parhaus wedi bod yn bosib, yn enwedig yn y sector addysg, er gwaethaf gostyngiad mewn gwariant cyfalaf cyffredinol gan lywodraeth leol.  Mae Ffigur 1 isod yn dangos bod gwariant cyfalaf Llywodraeth Leol wedi gostwng 14% dros gyfnod o ddeng mlynedd, o £1.36bn i £1.74bn  

Ffigur 1 Gwariant Cyfalaf Llywodraeth Leol yn ôl ffynhonnell gyllid, 2007-08 i 2017-18, £

Ffynhonnell: StatsCymru a Thrysolys Ei Mawrhydi (Datchwyddwyr Cynnyrch Domestig Gros)

 

8.        Gwelir darlun cymysg yn dibynnu ar ffynhonnell y cyllid.  Mae’r cyllid o ffynonellau grant yn gostwng tua 40% mewn termau real.  Mae’r un raddfa ostyngol i’w gweld ar gyfer derbyniadau cyfalaf gan fod gwerth y gwarediadau wedi plymio dros y cyfnod cyni.  Gwariant cyfalaf a ariannwyd gan refeniw yw’r unig ffynhonnell cyllid sydd wedi cynyddu, gan godi bron i 140% mewn gwerth dros gyfnod o ddeng mlynedd.  

 

9.        Arhosodd cyllid o ffynonellau ‘eraill’ yr un fath mwy na heb ar ôl addasu ar gyfer chwyddiant.  Mae hyn yn cynnwys benthyca â chymorth a benthyca digymorth yn bennaf, yn ogystal â’r Lwfans Atgyweiriadau Mawr ar gyfer gwariant tai. O safbwynt llywodraeth leol, golyga ‘digymorth’ bod rhaid i’r awdurdod lleol ddod o hyd i’r cyllid.  Er fod benthyca â chymorth allanol wedi gostwng 49%, mae benthyca digymorth wedi codi tua 72% mewn termau real dros yr un cyfnod.

10.      Er bod ffynonellau cyllid cyfalaf yn gymhleth, un o’r casgliadau mwyaf arwyddocaol o ddadansoddi’r data yw bod gwariant ar gyfalaf addysg bron â bod wedi dyblu.  Hyd yn oed o ystyried chwyddiant, mae gwariant wedi cynyddu 90%.  Mae band cyntaf Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif wedi bod yn bartneriaeth llwyddiannus, yn enwedig o'i gymharu â bron i 10 mlynedd o gwtogi cyllidebau.

 

11.      Fodd bynnag, mae gofyn i gynghorau ddatblygu a chymeradwyo strategaethau cyfalaf hirdymor. Gydag elfen sylweddol o gyllid grant ar ffurf grantiau LlC,  barn nifer o’r swyddogion sy’n rhan o gynllunio cyfalaf yw nad yw’r dull presennol o ddyrannu’n flynyddol yn ffafriol i gynlluniau tymor hwy a sicrhau gwerth am arian.  Er y croesawir grantiau ar gyfer gwariant megis ffyrdd ac adeiladau ysgolion, mae cyflwr dirywiol asedau’n galw am lefelau parhaus o fuddsoddiad (yn hytrach na symiau untro cyfnodol yn hwyr yn y flwyddyn).  Mae hyn hefyd yn berthnasol i’r polisi rhenti o ran benthyca’r Cyfrif Refeniw Tai.  Mae swyddogion llywodraeth leol sy’n eistedd ar Gyd-grŵp Buddsoddiadau a Chyllid Cyfalaf Llywodraeth Cymru-Llywodraeth Leol wedi gofyn am ddull mwy strategol.

 

Cyllid Cyfalaf a’r Model Buddsoddiad Cydfuddiannol (MIM)

 

12.      Fel y corff sy’n cynrychioli llywodraeth leol, rydym wedi croesawu cyhoeddiad cam nesaf rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, y bydd cyfran fawr o’r cyllid ar ei chyfer yn dod o’r model MIM.  Mae’r fframwaith sylfaenol yn debyg i Gytundeb Prosiect Ffurf Model “Nad yw’n Dosbarthu Elw” yr Alban, sydd ei hun wedi’i seilio ar fodel yr Adran Iechyd sy’n dyddio o ddiwedd y 2000au.  

 

13.      Er bod y MIM yn rhan fawr o’r Rhaglen Ysgolion, mae hefyd yn cael ei ddefnyddio i ariannu gwaith deuoli’r A465 o Ddowlais Top i Hirwaun a Chanolfan Ganser newydd Felindre yng Nghaerdydd, yn ogystal âchyfran sylweddol o gam nesaf Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif.  

 

14.      Er nad oes gennym wybodaeth benodol am faint o awdurdodau sydd wrthi’n ystyried cyllid MIM fel rhan o’u cyflwyniadau Band B Ysgolion yr 21ain Ganrif, mae’n sicr fod nifer yn ystyried hyn o ddifrif. Mae'r cynnydd yn y gyfradd ymyrraeth o 75% i 81% hefyd yn helpu i’w wneud yn fwy deniadol.

 

15.      Mae’n anochel fod cymhariaethau’n cael eu gwneud â threfniadau cynlluniau ariannu preifat ac rydym yn bendant yn clywed pryderon gan nifer o aelodau etholedig ac uwch swyddogion ynglŷn â hyn.  Maent yn ymwybodol y gall llywodraeth leol fenthyca ar gyfraddau sylweddol is nag unrhyw sefydliad mewn amgylchedd fasnachol.  Mae Llywodraeth Cymru’n awgrymu y bydd gwersi a ddysgwyd o gynlluniau ariannu preifat hanesyddol yn cael eu cymhwyso i MIM er mwyn sicrhau yr ymdrinnir â holl broblemau a phryderon posib Awdurdodau ar gam cynnar iawn ym mhrosiect MIM.  Nodwyd y sicrwydd diweddaraf gan y Gweinidog Cyllid presennol yng Nghyfarfod Llawn y Cynulliad Cenedlaethol ym mis Chwefror eleni:

 

Ein bwriad o’r cychwyn cyntaf oedd sicrhau bod y Model Buddsoddiad Cydfuddiannol yn hyrwyddo budd y cyhoedd yn niffiniad ehangaf posib y term hwnnw. I’r diben hwnnw, bydd y model yn darparu canlyniadau cadarnhaol ychwanegol mewn perthynas â lles, gwerth am arian a thryloywder; ac wrth wneud hynny, bydd yn osgoi nifer o’r beirniadaethau a gyfeirir at ffurfiau hanesyddol o bartneriaeth cyhoeddus-preifat – mewn rhai achosion, beirniadaethau yr oedd Llywodraeth Cymru ymysg y cyntaf i’w codi.”

 

16.      Ymhellach, mae rheoli contractau a’r lefel o arbenigrwydd sydd ei angen ar draws nifer o feysydd wedi bod yn her yn y gorffennol.  Fel y bydd Aelodau’r Pwyllogr yn gwybod, mae’r cynllun MIM yn cynnig tîm rheoli contractau o fewn Llywodraeth Cymru i gefnogi awdurdodau lleol gyda’r swyddogaeth hon.  

 

17.      Mae un o’r prif anfanteision yn debyg i’r pryder mwy cyffredinol a nodir ym mharagraff 11.  Mae Llywodraeth Leol yn ymrwymo adnoddau refeniw’r dyfodol i wariant cyfalaf presennol, heb unrhyw sicrwydd o ran y trefniadau cyllido tymor hwy.  Mae’n codi sefyllfa bosib lle gallai awdurdodau lleol fod yn cael trafferth dod o hyd i’r arian i’w cynnal, gan y bydd talu’r ffioedd cyfalaf (neu gyfwerth ar gyfer MIM) yn cael blaenoriaeth.

 

18.      Ar y cyfan, cafwyd ymgysylltiad da â Chyfarwyddwyr y Rhaglen ac uwch weision sifil eraill sy’n gyfrifol am Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif.  Cafwyd cynigion i roi cyflwyniadau i’r aelodau etholedig am fanteision MIM, y gwahaniaethau i gynlluniau ariannu preifat ac ymgysylltiad mwy technegol gyda Chymdeithas Trysoryddion Cymru.  Mae’r ymgysylltiad parhaus drwy aelodaeth CLlLC ar Fwrdd Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif wedi bod yn dda.

 

 

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:

 

Jon Rae, Cyfarwyddwr Adnoddau CLlLC

jon.rae@wlga.gov.uk

 

Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Tŷ Llywodraeth Leol

Rhodfa Drake

Caerdydd

CF10 4LG

Ffôn:  029 2046 8610