GWEINIDOGION Y DU SY'N GWEITHIO MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG
|
|
104 - Rheoliadau Mesurau'r Farchnad (Safonau Marchnata) (Diwygio Deddfwriaeth Uniongyrchol yr UE) (Ymadael â’r UE) 2019 Dyddiad gosod yn Senedd y DU: 13 Chwefror 2019 |
|
Sifftio |
|
A fydd angen eu sifftio yn Senedd y DU? |
Na fydd |
Gweithdrefn: |
Cadarnhaol |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin |
Amherthnasol |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi |
Wythnos yn dechrau 25/02/2019 |
Y dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU |
Amherthnasol |
Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: |
Papur 30 |
Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd ei fod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol) |
Dim angen |
Gweithdrefn graffu |
|
Canlyniad y broses sifftio |
Amherthnasol |
Y weithdrefn |
Cadarnhaol |
Dyddiad trafod gan y Cyd-bwyllgor ar Offerynnau Statudol |
Anhysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Tŷ'r Cyffredin |
Anhysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi |
Anhysbys |
Sylwadau
Bwriedir i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU yn unol ag adran 8(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, a pharagraff 21 o Atodlen 7 iddi.
Y Trefniant Cyffredin ar gyfer Marchnadoedd yw'r fframwaith ar gyfer mesurau'r farchnad y darperir ar eu cyfer o dan y Polisi Amaethyddol Cyffredin (“PAC”), gan ddarparu'r fframwaith ar gyfer cynlluniau cymorth y farchnad sydd wedi'u sefydlu yn y gwahanol sectorau amaethyddol. Sefydlwyd y Trefniant Cyffredin ar gyfer Marchnadoedd fel modd o gyflawni amcanion y PAC ac yn arbennig i sefydlogi marchnadoedd, sicrhau safon deg o fyw ar gyfer cynhyrchwyr amaethyddol a chynyddu cynhyrchiant amaethyddol. Dros amser, mae wedi ymestyn i ddarparu pecyn cymorth sy'n galluogi'r UE i reoli anwadalrwydd y farchnad, cymell cydweithrediad rhwng cynhyrchwyr amaethyddol a'u cystadleurwydd, a hwyluso masnach.
Mae Rheoliadau 2019 yn gwneud diwygiadau i amrywiol ddeddfwriaeth bresennol yr UE sy'n ffurfio rhan o gyfraith y DU yn ymwneud â'r Trefniant Cyffredin ar gyfer Marchnadoedd. Mae Rheoliadau 2019 yn gwneud diwygiadau i ddeddfwriaeth yr UE a ddargedwir ac sy'n uniongyrchol gymwys mewn perthynas â safonau marchnata bwyd. Bydd Rheoliadau 2019 yn sicrhau y bydd safonau marchnata yn y sector bwyd yn weithredadwy ar ôl i'r DU ymadael â'r UE. Ar ôl ymadael â'r UE a heb ei diwygio, byddai deddfwriaeth yr UE a ddargedwir yn cynnwys darpariaethau anweithredadwy a fyddai'n atal cynlluniau cymorth y farchnad i'r sector amaethyddol.
Mae'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn cytuno â'r datganiad a osodwyd gan Lywodraeth Cymru dyddiedig 15 Chwefror 2019 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn. Mae'r datganiad yn nodi bod yr offeryn hwn yn cynnwys darpariaethau sydd:
Gallai swyddogaethau a drosglwyddir i'r Ysgrifennydd Gwladol yn unig neu â chydsyniad Gweinidogion Cymru fod yn gyfystyr â swyddogaethau un o Weinidogion y Goron at ddibenion Atodlen 7B i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Pe bai'r Cynulliad yn cyflwyno Bil yn y dyfodol i geisio dileu neu addasu'r swyddogaethau hyn, gallai hynny olygu y bydd gofyn ymgynghori â Llywodraeth y DU.
Mae'r crynodeb uchod a chynnwys Memorandwm Esboniadol y Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith.
|