GWEINIDOGION Y DU YN GWEITHREDU MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG 

 

 

115 - Rheoliadau Amaethyddiaeth (Swyddogaethau Deddfwriaethol) (Ymadael â’r UE) (Rhif 2) 2019

Wedi'u gosod yn Senedd y DU: 14 Chwefror 2019

Sifftio

Yn destun gwaith sifftio yn Senedd y DU?

Na

Y weithdrefn:

Cadarnhaol

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin

Dd/B

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

Nid yw’n hysbys

Dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU

Dd/B

Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: 

Papur 52

Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol (SICM) o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd eu bod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol)

Dd/B

Gweithdrefn graffu

Canlyniad y broses sifftio  

Dd/B

Y weithdrefn:

Cadarnhaol

Dyddiad trafod gan y Cydbwyllgor ar Offerynnau Statudol

Nid yw'n hysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin

Nid yw'n hysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

Nid yw'n hysbys

Sylwadau

 

Bwriedir i’r Rheoliadau hyn gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU yn unol ag adran 8(1) a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.

 

Mae’r offeryn hwn yn newid hunaniaeth yr awdurdod cyhoeddus sy’n cyflawni’r swyddogaethau penodol o dan Reoliadau’r UE a nodir yn natganiad Llywodraeth Cymru.  Mae hefyd yn trosi gweithdrefnau’r UE i weithdrefnau’r DU, fel sy’n briodol.  Rhoddir y swyddogaethau i’r Ysgrifennydd Gwladol, Gweinidogion yr Alban, Gweinidogion Cymru a DAERA yng Ngogledd Iwerddon i’w harfer yn eu hardaloedd priodol fel y manylir arnynt yn adran 6.1-6.2 o’r memorandwm esboniadol hwn.  Gall yr Ysgrifennydd Gwladol hefyd arfer y swyddogaethau ar ran gweinyddiaeth ddatganoledig, ond dim ond gyda ei chaniatâd.

Mae’r rheoliadau yn ddarostyngedig i’r weithdrefn gadarnhaol yn San Steffan.

 

Mae’r Cynghorwyr Cyfreithiol yn gwneud y sylwadau a ganlyn mewn perthynas â datganiad Llywodraeth Cymru dyddiedig 19 Chwefror 2019 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn:

 

A    Dywed y datganiad:

 

“Mae Rheoliadau 2019 yn cynnwys darpariaeth sy’n galluogi Gweinidogion Cymru i arfer swyddogaethau o ran Cymru yn ddilyffethair ac i Weinidogion Cymru roi cydsyniad i’r Ysgrifennydd Gwladol arfer y swyddogaethau hynny o ran Cymru. 

 

Gallai swyddogaethau a drosglwyddir i’r Ysgrifennydd Gwladol i’w harfer ochr yn ochr â chydsyniad Gweinidogion Cymru fod yn gyfystyr â swyddogaethau un o Weinidogion y Goron at ddibenion Atodlen 7B i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Mae’n bosibl, felly, bod hynny’n ystyriaeth berthnasol yng nghyd-destun cymhwysedd y Cynulliad i ddeddfu yn y meysydd hyn yn y dyfodol.  [Ein pwyslais ni]

 

Mae swyddogaethau a drosglwyddir fel eu bod yn arferadwy gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn unig, neu a drosglwyddir i’r Ysgrifennydd Gwladol ond sy’n arferadwy gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru mewn perthynas â Chymru, yn swyddogaethau un o Weinidogion y Goron at ddibenion Atodlen 7B i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Pe bai’r Cynulliad yn cyflwyno Bil yn y dyfodol i geisio dileu neu addasu’r swyddogaethau hyn, gallai hynny olygu y bydd gofyn ymgynghori â Llywodraeth y DU.” [Ein pwyslais ni]

 

Mae Rheol Sefydlog 30C.3(ii) yn ei gwneud yn ofynnol i’r datganiad ysgrifenedig "nodi unrhyw effaith y caiff yr offeryn statudol ar gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad a / neu gymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru". Mae’r datganiad hwn (ac yn benodol y brawddegau a amlygir uchod) yn awgrymu yn hytrach na nodi’n fanwl.

  

Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ar bwynt tebyg mewn perthynas â Rheoliadau Maeth (Diwygio etc.) (Ymadael â’r UE) 2019.  Yn ei hymateb dyddiedig 7 Chwefror 2019 i lythyr y Pwyllgor dyddiedig 31 Ionawr 2019, cyfeiriodd y Gweinidog at ei hymateb i gwestiynau a godwyd mewn perthynas â Rheoliadau Hawliau Bridwyr Planhigion (Diwygio etc.) (Ymadael â’r UE) 2018. Yma, dywed y Gweinidog:

 

“Welsh Government officials are in contact with the Wales Office about the unintended restrictions on the Assembly’s competence created by powers conferred in EU Exit SIs and other legislation, which engages paragraphs 8, 10 and 11 of Schedule 7B of the Government of Wales Act. Officials are examining the issue in detail and considering how it can best be resolved. The Welsh Government will keep the National Assembly, including the Constitutional and Legislative Affairs Committee, informed about the progress of these discussions."

 

B Mae paragraff 6.1 o’r Memorandwm Esboniadol yn nodi fel a ganlyn:

 

"The corrections made by this instrument relate will create regimes for the UK that will respect the UK devolution settlements. In most instances, where regimes are devolved, the powers will be transferred to the relevant Ministers or department of Scotland, Wales and Northern Ireland, but with provision for the Secretary of State to act on behalf of Scottish Ministers, Welsh Ministers or the Department of Agriculture, Environment and Rural Affairs (“DAERA”) in Northern Ireland, with consent.  The ability of the Secretary of State to be able to act for one or more of the devolved administrations will allow for powers to be exercised uniformly across the UK or across certain constituent nations, where it is convenient to do so.  In certain cases, the ability of the Secretary of State to act with the consent of Ministers does not apply to Wales." [Ein pwyslais ni]

 

Nid yw’r Memorandwm Esboniadol yn egluro beth yw’r achosion hynny.  Nid yw datganiad Llywodraeth Cymru yn cyfeirio at y pwynt hwn, heb sôn am egluro pryd y mae’n gymwys, neu pam y defnyddiwyd dull gwahanol yn yr achosion hynny. Efallai y bydd y Pwyllgor yn dymuno gofyn am eglurhad gan y Gweinidog.

 

C     Mae drafftio rhai gwelliannau, fel y rhai a wneir gan reoliad 88, yn peri pryder arbennig.  Fel y digwydd yn gyffredinol yn rheoliadau Ymadael â’r UE, rhoddir pwerau i "yr awdurdod priodol".  Yn y Rheoliadau hyn, fodd bynnag, yr Ysgrifennydd Gwladol yw’r awdurdod priodol os yw Gweinidogion Cymru yn cydsynio. Mewn rheoliadau eraill, mae’r gweinyddiaethau datganoledig yn parhau’n awdurdod priodol neu gymwys, ond gallant gydsynio i’r Ysgrifennydd Gwladol wneud rheoliadau.  Mae’r drafftio a welir yma yn caniatáu trosglwyddiad awdurdod mwy ffurfiol i’r Ysgrifennydd Gwladol.  Nid yw datganiad Llywodraeth Cymru na’r Memorandwm Esboniadol yn cyfeirio at hyn. Efallai y bydd y Pwyllgor yn dymuno gofyn am eglurhad gan y Gweinidog.

 

Yn amodol ar yr uchod, mae’r datganiad a’r Memorandwm Esboniadol i’r Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith, ac i ba raddau y byddai’r Rheoliadau hyn yn deddfu polisi newydd mewn meysydd datganoledig.

 

Nid yw Cynghorwyr Cyfreithiol o’r farn bod unrhyw faterion sylweddol yn codi o dan baragraff 8 o’r Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn.  Fodd bynnag, nid yw’n glir o ddatganiad Llywodraeth Cymru dyddiedig 19 Chwefror 2019 pa effaith y gallai’r Rheoliadau ei chael ar gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad.