GWEINIDOGION Y DU SY'N GWEITHIO MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG
|
|
111 - Rheoliadau Bwyd, Diod, Meddyginiaethau a Gweddillion Milfeddygol (Diwygio etc.) (Ymadael â’r UE) 2019 Dyddiad gosod yn Senedd y DU: 13 Chwefror 2019 |
|
Sifftio |
|
A fydd angen eu sifftio yn Senedd y DU? |
Na fydd |
Gweithdrefn: |
Cadarnhaol |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin |
Amherthnasol |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi |
W/C 25/02/2019 |
Y dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU |
Amherthnasol |
Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: |
Papur 44 |
Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd ei fod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol) |
Dim angen |
Gweithdrefn graffu |
|
Canlyniad y broses sifftio |
Amherthnasol |
Gweithdrefn |
Cadarnhaol |
Dyddiad trafod gan y Cyd-bwyllgor ar Offerynnau Statudol |
Anhysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Tŷ'r Cyffredin |
Anhysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi |
Anhysbys |
Sylwadau
Bwriedir i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU yn unol ag adran 8 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, a pharagraff 1 o Atodlen 4 a pharagraff 21 o Atodlen 7 iddi.
Mae'r rhan fwyaf o'r offeryn hwn yn cywiro cyfraith yr UE a ddargedwir ynghylch cynlluniau Dynodiad Daearyddol. Mae'r gweddill yn gwneud nifer fechan o ddarpariaethau nad ydynt yn ymwneud â Dynodiad Daearyddol ynghylch safonau'r sector ar gyfer gwinoedd a gwirodydd ac ynghylch meddyginiaethau milfeddygol.
Mae Dynodiadau Daerdyddol yn ffurf ar ddiogelu eiddo deallusol ar gyfer enwau cynhyrchion amaethyddol, bwyd a diod, y gellir priodoli eu rhinweddau neu eu nodweddion i'r rhanbarth neu'r ardal lle y cânt eu cynhyrchu a/neu'r dulliau traddodiadol a ddefnyddir i'w cynhyrchu. Mae'r enghreifftiau'n cynnwys cig oen Cymru, chwisgi'r Alban, cwrw Swydd Gaint a llysywod Lough Neagh. Mae'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn gwneud y sylwadau a ganlyn mewn perthynas â datganiad Llywodraeth Cymru dyddiedig 18 Chwefror 2019 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn:
"Mae'r offeryn hwn yn trosglwyddo swyddogaethau i'r Ysgrifennydd Gwladol. Mae swyddogaethau a drosglwyddir i'r Ysgrifennydd Gwladol yn gyfystyr â swyddogaethau un o Weinidogion y Goron at ddibenion Atodlen 7B i [Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006]. Gallai Bil Cynulliad yn y dyfodol sy’n ceisio gwaredu neu addasu'r swyddogaethau hyn sbarduno gofyniad i ymgynghori â Llywodraeth y DU.” [ychwanegwyd pwyslais]
Mae'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn tynnu sylw at baragraffau 3 a 4 yn y sylwadau uchod ynghylch datganiad Llywodraeth Cymru mewn perthynas â pharagraff 8 o'r Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin.
|