GWEINIDOGION Y DU YN GWEITHREDU MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG 

 

 

101 - Rheoliadau Caffael Cyhoeddus (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2019

Wedi'u gosod yn Senedd y DU: 11 Chwefror 2019

Sifftio

Yn destun gwaith sifftio yn Senedd y DU?

Na

Y weithdrefn:

Cadarnhaol

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin

Dd/B

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

Nid yw’n hysbys

Dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU

Dd/B

Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: 

Papur 27

Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol (SICM) o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd eu bod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol)

Dd/B

Gweithdrefn graffu

Canlyniad y broses sifftio  

Dd/B

Y weithdrefn:

Cadarnhaol

Dyddiad trafod gan y Cydbwyllgor ar Offerynnau Statudol

Nid yw'n hysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin

Nid yw'n hysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

Nid yw'n hysbys

Sylwadau

 

Bwriedir i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU yn unol ag adran 8(1) a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.

 

Mae'r Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud er mwyn diwygio Rheoliadau Caffael Cyhoeddus (Diwygio etc) (Ymadael â’r UE) 2019 cyn iddynt ddod i rym. Cânt eu diwygio er mwyn cadw mewn cyfraith domestig, am gyfnod cyfyngedig o 18 mis, y dyletswyddau sydd gan awdurdodau contractio ac endidiau contractio eraill yn y Deyrnas Unedig (DU) tuag at weithredwyr economaidd o wledydd y mae’r Undeb Ewropeaidd wedi cwblhau cytundebau masnach cyfrwymol â hwy cyn y diwrnod ymadael.

 

Wrth wneud hynny, mae'r DU am ddangos ei bod yn gallu cydymffurfio â'r rhwymedigaethau caffael sy'n deillio o’r cytundebau masnach hynny rhwng yr UE a thrydydd gwledydd y mae'r DU yn bwriadu iddynt barhau i fod yn gymwys i’r DU fel corff annibynnol wedi iddi ymadael â’r UE.

 

Nid yw'r Rheoliadau hyn yn cael unrhyw effaith ar gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad na chymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru. Nid yw'r Rheoliadau hyn yn creu unrhyw rwymedigaethau rhyngwladol newydd.

 

Mae'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn cytuno â'r datganiad a osodwyd gan Lywodraeth Cymru dyddiedig 13 Chwefror 2019 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn.

 

Mae’r crynodeb uchod a chynnwys y Memorandwm Esboniadol sy’n cyd-fynd â’r Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith.

 

Nid yw’r Cynghorwyr Cyfreithiol o'r farn bod unrhyw faterion sylweddol yn codi o dan baragraff 8 o'r Memorandwm sy’n cyd-fynd â Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.

 

Nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol wedi nodi unrhyw reswm cyfreithiol i geisio cynnig cydsyniad o dan Reol Sefydlog 30A.10 mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.