GWEINIDOGION Y DU SY'N GWEITHIO MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG
|
|
78 - Rheoliadau Mewnforio a Masnachu Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Diwygio etc.) (Ymadael â'r UE) 2019 Gosodwyd yn Senedd y DU: 17 Ionawr 2019 |
|
Sifftio |
|
A fydd angen eu sifftio yn Senedd y DU? |
Na fydd |
Gweithdrefn: |
Cadarnhaol |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin |
Amh. |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi |
21/01/2019 |
Dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU |
Amh. |
Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: |
Papur 12 |
Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd ei fod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol) |
Ddim yn ofynnol |
Gweithdrefn graffu |
|
Canlyniad y broses sifftio |
Amh. |
Y weithdrefn |
Cadarnhaol |
Dyddiad trafod gan y Cyd-bwyllgor ar Offerynnau Statudol |
Ddim yn hysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Tŷ'r Cyffredin |
Ddim yn hysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi |
Ddim yn hysbys |
Sylwadau
Bwriedir i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU yn unol ag adran 8(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, a pharagraff 7 o Atodlen 4 a pharagraff 21(b) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau technegol i gyfres o Reoliadau a Phenderfyniadau'r Undeb Ewropeaidd sy'n ymwneud â mewnforio a chludo anifeiliaid byw, cynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid, plasm cenhedlu a symud anifeiliaid anwes, ceffylau ac anifeiliaid syrcas. Pwrpas y Rheoliadau yw mynd i'r afael â methiannau deddfwriaeth ddomestig a diffygion eraill sy'n deillio o ymadawiad y DU â'r UE. Mae'r Rheoliadau yn diwygio cyfeiriadau diangen at ddeddfau a systemau'r UE a fydd yn amherthnasol pan fydd y DU yn ymadael â'r UE, ac maent yn dirymu deddfau diangen yr UE ac yn trosglwyddo cyfres o swyddogaethau o'r Comisiwn Ewropeaidd i'r "awdurdod priodol" yn y DU, sy'n golygu, mewn perthynas â Chymru, Weinidogion Cymru neu (gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru) yr Ysgrifennydd Gwladol. Mae'r Rheoliadau'n gymwys ar draws y Deyrnas Unedig gyfan ac yn darparu fframwaith cyfreithiol sy'n ymwneud â mewnforio, symud a masnachu anifeiliaid a chynhyrchion anifeiliaid, ac yn cynnwys trefniadau ar gyfer awdurdodi busnesau, dogfennau teithio anifeiliaid anwes, tystysgrifau iechyd anifeiliaid ac iechyd cyhoeddus ac amodau cludiant. Mae'r Rheoliadau hefyd yn galluogi awdurdodau yn y DU i gymryd camau mewn achosion o ddiffyg cydymffurfio neu achosion o glefydau. Dim ond os bydd senario ‘dim bargen’ y bydd y diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn dod i rym.
Mae'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn gwneud y sylwadau a ganlyn mewn perthynas â datganiad Llywodraeth Cymru dyddiedig 21 Ionawr 2019 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn:
Mae'r datganiad gan Lywodraeth Cymru yn cyfeirio at y cyfeirnod anghywir yn ei restr o ddeddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir sy'n cael ei dirymu, ond mae hefyd yn cynnwys cyfeiriad dyblyg at Benderfyniad y Comisiwn hwn (gyda'r cyfeirnod cywir) yn yr adran o'r enw "Offerynnau Ewropeaidd sy'n Uniongyrchol Gymwys".
Fodd bynnag, nid yw'r datganiad yn nodi'r effaith y gallai'r Rheoliadau hyn ei chael ar gymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru neu ar gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad, fel sy'n ofynnol o dan Reol Sefydlog 30C.3(ii). Mae cynghorwyr cyfreithiol yn argymell y dylid ceisio eglurhad ynghylch pa bwerau datganoledig yr effeithir arnynt.
Mae’r crynodeb uchod a chynnwys y Memorandwm Esboniadol i’r Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith. Gan ei bod yn aneglur o ddatganiad Llywodraeth Cymru dyddiedig 21 Ionawer 2019 ba effaith y gall y Rheoliadau ei chael ar gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad a/neu gymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru, nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol wedi gallu asesu a oes unrhyw faterion arwyddocaol yn codi o dan baragraff 8 y Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.
|