GWEINIDOGION Y DU SY'N GWEITHIO MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG 

 

 

81 - Rheoliadau Cymorth Gwladwriaethol (Ymadael â'r UE) 2019

Gosodwyd yn Senedd y DU: 21 Ionawr 2019

Sifftio

A fydd angen eu sifftio yn Senedd y DU?

Na fydd

Gweithdrefn:

Cadarnhaol

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin

Amh. 

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

04/02/2019

Dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU

Amh.

Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: 

Papur 20

Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd ei fod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol)

Ddim yn ofynnol 

Gweithdrefn graffu

Canlyniad y broses sifftio  

Amh. 

Y weithdrefn

Cadarnhaol

Dyddiad trafod gan y Cyd-bwyllgor ar Offerynnau Statudol

Ddim yn hysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Tŷ'r Cyffredin

Ddim yn hysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

Ddim yn hysbys

Sylwadau

 

Bwriedir i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU yn unol ag adran 8(1) a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.

Maent yn addasu'r hawliau, y pwerau, yr atebolrwydd, y rhwymedigaethau, y cyfyngiadau, y rhwymedïau a'r gweithdrefnau a ddargedwir gan adran 4 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (y Ddeddf) sy'n ymwneud â chymorth gwladwriaethol (hawliau cymorth gwladwriaethol) ac yn diwygio ac yn ailddatgan y weithdrefn sy'n yn berthnasol i achosion o gymorth Gwladwriaethol.

Yr effaith gyffredinol yw trosi cyfundrefn cymorth gwladwriaethol yr UE fel y'i nodir yn Erthyglau 107 a 108 o'r Cytuniad ar Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd (TFEU) i gyfraith ddomestig a rhoddi i'r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA) y swyddogaeth o reoleiddio'r gyfundrefn yn lle Comisiwn yr UE (Comisiwn).

Yn ei lythyr at Gadeirydd y Pwyllgor dyddiedig 25 Ionawr 2019, dywedodd y Cwnsler Cyffredinol:

The Welsh Government’s position is that State aid is a devolved matter and not a reserved matter under any heading of the Reserved Matters Schedule in the Government of Wales Act 2006. However, the UK Government do not consider it as such (as was noted in the Intergovernmental Agreement) and therefore they have not requested Welsh Ministerial consent).  The Welsh Government has requested from the UK Government, an explanation of their legal position but there has been no response.”

O gofio effaith arwyddocaol y Rheoliadau hyn, efallai y bydd yr Aelodau am ystyried ysgrifennu at y Pwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth yn Nhŷ'r Arglwyddi i wneud sylwadau yn cymeradwyo dadleuon y Cwnsler Cyffredinol.  Efallai y bydd hefyd am dynnu sylw Pwyllgor Cyfansoddiad y Tŷ hwnnw at y mater hwn.

Mae'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn gwneud y sylwadau a ganlyn mewn perthynas â datganiad Llywodraeth Cymru dyddiedig 25 Ionawr 2019 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn:

Mae'r Pwyllgor hwn yn croesawu'r dadansoddiad manwl, ac yn cymeradwyo'r dull hwn i'r Llywodraeth.  Mae'n hwyluso gwaith y Pwyllgor a dealltwriaeth yr Aelodau pan fo'r datganiad yn cynnwys esboniad llawn o safbwynt Llywodraeth Cymru.

Mae llythyr a datganiad y Cwnsler Cyffredinol, a chynnwys y Memorandwm Esboniadol i'r Rheoliadau hyn, yn cadarnhau eu heffaith.  Mae'r llythyr a'r datganiad hefyd yn egluro i ba raddau y byddai'r Rheoliadau hyn yn deddfu polisi newydd mewn meysydd datganoledig.

Mae'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn ystyried bod materion arwyddocaol yn codi o dan baragraff 8 o'r Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.  Mae'r paragraff hwnnw'n datgan:

“Under this agreement, the UK Government has committed to ensure that clause 11 regulations will not affect the operation of the Sewel convention and that related practices and conventions in relation to future primary legislation, including legislation giving effect to common frameworks, will continue to apply. Accordingly, those established practices and conventions will operate as if clause 11 regulations had not been made.”

Mae llythyr a datganiad y Cwnsler Cyffredinol yn dangos bod swyddogaethau yn yr achos hwn yn cael eu trosglwyddo i awdurdod cyhoeddus nas datganolwyd, a hynny mewn ffordd sy'n effeithio ar gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad heb ofyn am gydsyniad y Cynulliad.  Ymddengys fod hynny'n achos clir o dorri amodau paragraff 8.

Gan na osodwyd memorandwm cydsyniad, ni ellir cyflwyno cynnig cydsyniad o dan Reol Sefydlog 30A.10 mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.