GWEINIDOGION Y DU YN GWEITHREDU MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG 

 

 

98 - Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Diwygiad) (Ymadael â'r UE) 2019

Wedi'u gosod yn Senedd y DU: 5 Chwefror 2019

Sifftio

Yn destun gwaith sifftio yn Senedd y DU?

Na

Y weithdrefn:

Cadarnhaol

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin

Dd/B

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

Nid yw’n hysbys

Dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU

Dd/B

Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: 

Papur 27

Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol (SICM) o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd eu bod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol)

Nid yw’n ofynnol

Gweithdrefn graffu

Canlyniad y broses sifftio  

Dd/B

Y weithdrefn

Cadarnhaol

Dyddiad trafod gan y Cydbwyllgor ar Offerynnau Statudol

Nid yw'n hysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin

Nid yw'n hysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

Nid yw'n hysbys

Sylwadau

 

Cynigir bod y Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud gan Lywodraeth y DU o dan adran 8(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.

Pwrpas y Rheoliadau hyn yw sicrhau y bydd llyfr statud yn parhau i fod yn weithredol ar y diwrnod gadael, sy'n cynnal parhad mewn perthynas â pholisi a deddfwriaeth bwyd a bwyd anifeiliaid.

Mae'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn cytuno â'r datganiad a osodwyd gan Lywodraeth Cymru dyddiedig 6 Chwefror 2019 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn.

Mae hefyd yn werth nodi pa mor glir a defnyddiol yw datganiad Llywodraeth Cymru, a pha mor ddefnyddiol yw hynny i'r Pwyllgor.

Mae'r crynodeb uchod a chynnwys y Memorandwm Esboniadol i'r Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith ac i ba raddau y byddai'r Rheoliadau hyn yn deddfu polisi newydd mewn meysydd datganoledig.

Mae Cynghorwyr Cyfreithiol yn tynnu sylw'r Pwyllgor at y materion canlynol mewn perthynas â pharagraff 8 o'r Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin. Dywed paragraff 8 (pwyslais wedi'i ychwanegu):

“The UK Government will be able to use powers under clauses 7, 8 and 9 to amend                 domestic legislation in devolved areas but, as part of this agreement, reiterates the             commitment it has previously given that it will not normally do so without the agreement of the devolved administrations. In any event, the powers will not be used to enact new                policy in devolved areas; the primary purpose of using such powers will be             administrative efficiency.”

Mae datganiad Llywodraeth Cymru yn nodi bod y Rheoliadau'n gwneud rhai newidiadau technegol ond eu bod hefyd yn gwneud “newid mwy sylweddol” (h.y. maent yn trosglwyddo swyddogaethau diogelwch bwyd pwysig gan Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop (EFSA) i'r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB)).

Ymddengys bod hyn yn torri'r Cytundeb Rhynglywodraethol gan fod Llywodraeth y DU yn defnyddio ei phwerau dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 i ddeddfu polisi newydd. Mae trosglwyddo swyddogaethau pwysig o'r EFSA i'r ASB, ni waeth pa mor annadleuol, yn sicr yn ymddangos yn fwy na sicrhau “effeithlonrwydd gweinyddol”.