GWEINIDOGION Y DU SY'N GWEITHIO MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG
|
|
63 - Rheoliadau Plaleiddiaid a Gwrteithiau (Diwygiadau Amrywiol) (Ymadael â'r UE) 2019 Gosodwyd yn Senedd y DU: 18 Rhagfyr 2018 |
|
Sifftio |
|
A fydd angen eu sifftio yn Senedd y DU? |
Bydd |
Gweithdrefn: |
Negyddol arfaethedig |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin |
8 Ionawr 2019 |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi |
Wythnos yn cychwyn 7 Ionawr 2019 |
Dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU |
15 Ionawr 2019 |
Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: |
Papur 48 |
Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd ei fod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol) |
Ddim yn ofynnol |
Gweithdrefn graffu |
|
Canlyniad y broses sifftio |
Ddim yn hysbys |
Gweithdrefn |
Negyddol neu Gadarnhaol |
Dyddiad trafod gan y Cyd-bwyllgor ar Offerynnau Statudol |
Ddim yn hysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Tŷ'r Cyffredin |
Ddim yn hysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi |
Ddim yn hysbys |
Sylwadau
Bwriedir i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU o dan adran 8(1), a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.
Er mwyn sicrhau y bydd cynhyrchion diogelu planhigion yn parhau i gael eu rheoli'n effeithiol ar ôl ymadael â’r UE, a hefyd i sicrhau y bydd gan y DU fframwaith rheoleiddio gweithredol ar ôl ymadael â'r UE, mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r canlynol drwy wneud mân gywiriadau iddynt: Rheoliadau Diogelwch Deunydd Amoniwm Nitrad (Cynnwys Nitrogen Uchel) 2003 Rheoliadau Plaleiddiaid (Lefelau Uchaf Gweddillion) (Cymru a Lloegr) 2008 Rheoliadau Cynhyrchion Diogelu Planhigion 2011 Rheoliadau Cynhyrchion Diogelu Planhigion (Ffioedd a Thaliadau) 2011 Rheoliadau Cynhyrchion Diogelu Planhigion (Defnydd Cynaliadwy) 2012 Mae'r offeryn hwn hefyd yn trosglwyddo swyddogaethau o dan ddeddfwriaeth plaleiddiaid yr UE i Weinidogion Cymru.
Mae'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn gwneud y sylwadau a ganlyn mewn perthynas â datganiad Llywodraeth Cymru dyddiedig 18 Rhagfyr 2018 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn: Mae datganiad Llywodraeth Cymru ym mharagraff 4 yn dweud, "Mae'r Rheoliadau hyn yn cynnwys darpariaethau sy'n galluogi Gweinidogion Cymru i arfer swyddogaethau ar y cyd â phartïon gan gynnwys yr Ysgrifennydd Gwladol." Fodd bynnag, o ganlyniad i'r gwelliannau a wneir gan yr offeryn hwn, bydd Gweinidogion Cymru eu hunain yn gallu arfer swyddogaethau mewn perthynas â phlaleiddiaid. Yn ogystal, mae paragraff 7:10 o Femorandwm Esboniadol Llywodraeth y DU yn datgan: “Currently, the Secretary of State is the competent authority in respect of both England and Wales for Regulation (EC) No 1107/2009 and Directive 2009/128/EC, and the designated national authority for Regulation (EC) No 396/2005. Pesticides is a devolved matter under the Government of Wales Act 2006. Therefore in preparation for exit day, the instrument makes amendments to domestic legislation to designate Welsh Ministers as the competent authority in relation to Wales for the purposes of Regulation (EC) No 1107/2009 and Directive 2009/128/EC, and as designated national authority for the purposes of Regulation (EC) No 396/2005. It also amends the Plant Protection Products (Fees and Charges) Regulations 2011 to allow the Welsh Ministers to charge fees in respect of their functions as competent authority and designated national authority. This is in line with the government’s approach to EU exit and devolution, and in order to facilitate both UK-wide decision making with consent and independent exercise of powers as necessary.”
Mae’r crynodeb uchod a chynnwys y Memorandwm Esboniadol i’r Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith.
Nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn ystyried bod unrhyw faterion arwyddocaol yn codi o dan baragraff 8 o'r Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.
Nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol wedi nodi unrhyw reswm cyfreithiol i geisio cynnig cydsyniad o dan Reol Sefydlog 30A.10 mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.
|