GWEINIDOGION Y DU SY'N GWEITHIO MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG
|
|
55 - Rheoliadau Ymbelydredd Ïoneiddio (Diogelu’r Amgylchedd a’r Cyhoedd) (Diwygiadau Amrywiol) (Ymadael â’r DU) 2018 Dyddiad gosod yn Senedd y DU: |
|
Sifftio |
|
A fydd angen eu sifftio yn Senedd y DU? |
Ydy |
Gweithdrefn: |
Negyddol arfaethedig |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin |
18 Rhagfyr 2018 |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi |
Wythnos yn dechrau 17 Rhagfyr 2018 |
Y dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU |
20 Rhagfyr 2018 |
Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: |
Papur 47 |
Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd ei fod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol) |
Nid yw'n ofynnol |
Gweithdrefn graffu |
|
Canlyniad y broses sifftio |
Ddim yn hysbys |
Y weithdrefn |
Negyddol neu Gadarnhaol |
Dyddiad trafod gan y Cyd-bwyllgor ar Offerynnau Statudol |
Ddim yn hysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Tŷ'r Cyffredin |
Ddim yn hysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi |
Ddim yn hysbys |
Sylwadau
Mae'r Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud er mwyn mynd i'r afael â methiannau cyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu'n effeithiol a diffygion eraill sy'n deillio o'r Deyrnas Unedig yn ymadael â'r Undeb Ewropeaidd.
Mae'r Rheoliadau yn diwygio deddfwriaeth ddomestig sy'n gweithredu deddfwriaeth ymbelydredd ïoneiddio yr UE i sicrhau ei bod yn parhau i fod yn weithredol ar ôl i'r DU ymadael â'r UE. Mae'r Deyrnas Unedig yn gadael y Cytuniad sy'n sefydlu'r Gymuned Ynni Atomig Ewropeaidd (Cytuniad Euratom) ar yr un pryd ag y mae'n ymadael â'r UE.
Mae'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn gwneud y sylwadau a ganlyn mewn perthynas â datganiad Llywodraeth Cymru dyddiedig 7 Rhagfyr 2018 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn. Nid yw'r datganiad yn cyfeirio at Reoliadau Adweithyddion Niwclear (Asesiad Effaith Amgylcheddol ar gyfer Datgomisiynu) 1999, y cyfeirir atynt yn y Memorandwm Esboniadol ac sy'n ymestyn i'r Deyrnas Unedig.
Mae'r crynodeb uchod a chynnwys y Memorandwm Esboniadol i'r Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith.
Nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn ystyried bod unrhyw faterion arwyddocaol yn codi o dan baragraff 8 y Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.
Nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol wedi nodi unrhyw reswm cyfreithiol i geisio cynnig cydsyniad o dan Reol Sefydlog 30A.10 mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.
|