GWEINIDOGION Y DU SY'N GWEITHIO MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG 

 

Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2018

Dyddiad gosod yn Senedd y DU:

Sifftio

A fydd angen eu sifftio yn Senedd y DU?

Ydy

Gweithdrefn:

Negyddol arfaethedig

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin

11 Rhagfyr 2018

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

Wythnos yn dechrau 10 Rhagfyr 2018

Y dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU

17 Rhagfyr 2018

Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: 

Papur 39

Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd ei fod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol)

Nid yw'n ofynnol

Gweithdrefn graffu

Canlyniad y broses sifftio  

Ddim yn hysbys 

Y weithdrefn

Negyddol neu Gadarnhaol

Dyddiad trafod gan y Cyd-bwyllgor ar Offerynnau Statudol

Ddim yn hysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Tŷ'r Cyffredin

Ddim yn hysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

Ddim yn hysbys

Sylwadau

 

Bwriedir i'r Rheoliadau gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU yn unol ag adran 8(1) a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.

 

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016 ("Rheoliadau 2016"). Sefydlodd Rheoliadau 2016 system drwyddedu a chydymffurfiad amgylcheddol drawsbynciol yng Nghymru a Lloegr, ac mae'n cynnwys fframwaith y gweithredir gofynion trwyddedu cyfres o Gyfarwyddebau'r UE, a rhywfaint o ddeddfwriaeth ddomestig yng Nghymru a Lloegr. Yn unol â hynny, mae Rheoliadau 2016 yn cynnwys nifer o gyfeiriadau at Gyfarwyddebau'r UE ac at rwymedigaethau'r DU fel Aelod-wladwriaeth, na fyddai'n gweithredu ar ôl i'r DU ymadael â'r Undeb Ewropeaidd.

 

Mae'r Rheoliadau hyn yn mewnosod Atodlen 1A newydd yn Rheoliadau 2016, sy'n cynnwys addasiadau i Gyfarwyddebau'r UE a drosglwyddwyd gan Reoliadau 2016. Mae'r addasiadau hynny ond yn gymwys at ddibenion dehongli Rheoliadau 2016.

 

Felly, effaith y Rheoliadau hyn yw cywiro diffygion yn Rheoliadau 2016 sy'n deillio o'r DU yn ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. Nid yw'r Rheoliadau'n gweithredu polisi newydd.

 

Mae'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn cytuno â'r datganiad a osodwyd gan Lywodraeth Cymru dyddiedig 3 Rhagfyr 2018 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn.

Mae'r crynodeb uchod a chynnwys y Memorandwm Esboniadol i'r Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith.

 

Nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn ystyried bod unrhyw faterion arwyddocaol yn codi o dan baragraff 8 y Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.

 

Nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol wedi nodi unrhyw reswm cyfreithiol i geisio cynnig cydsyniad o dan Reol Sefydlog 30A.10 mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.