GWEINIDOGION Y DU SY'N GWEITHIO MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG 

 

Rheoliadau Datblygu Gwledig (Ymadael â'r UE) (Diwygio)2018

Dyddiad gosod yn Senedd y DU:

Sifftio

A fydd angen eu sifftio yn Senedd y DU?

Ydy

Gweithdrefn:

Negyddol arfaethedig

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin

11 Rhagfyr 2018

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

Wythnos yn dechrau 10 Rhagfyr 2018

Y dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU

18 Rhagfyr 2018

Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: 

Papur 35

Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd ei fod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol)

Nid yw'n ofynnol

Gweithdrefn graffu

Canlyniad y broses sifftio  

Ddim yn hysbys 

Y weithdrefn

Negyddol neu Gadarnhaol

Dyddiad trafod gan y Cyd-bwyllgor ar Offerynnau Statudol

Ddim yn hysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Tŷ'r Cyffredin

Ddim yn hysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

Ddim yn hysbys

Sylwadau

 

Bwriedir i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU yn unol ag adran 8(1) a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.

 

Mae'r Rheoliadau hyn (ynghyd â Rheoliadau Datblygu Gwledig (Rheolau a Phenderfyniadau) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2018) yn diwygio cyfres o reoliadau'r UE ac yn gweithredu penderfyniadau sy'n berthnasol i raglenni a ariennir ar hyn o bryd gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig (EAFRD), er mwyn galluogi Rhaglenni Datblygu Gwledig y DU ar gyfer 2014-2020 i barhau i weithredu os bydd senario dim bargen ar ôl i'r DU ymadael â'r Undeb Ewropeaidd.

 

Bydd y gwelliannau'n cywiro diffygion yng nghyfraith yr UE a ddargedwir sy'n deillio o'r DU yn ymadael â'r UE ac yn sicrhau y gellir parhau i wneud taliadau i fuddiolwyr o dan y rhaglenni hyn gan ddefnyddio cyllid domestig.

Mae'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn gwneud y sylwadau a ganlyn mewn perthynas â datganiad Llywodraeth Cymru dyddiedig 3 Rhagfyr 2018 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn.

  1. Mae'r datganiad yn cadarnhau mai teitl y Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Datblygu Gwledig (Ymadael â’r UE) (Diwygio) 2018. Teitl cywir y Rheoliadau yw "Rheoliadau Datblygu Gwledig (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2018”.
  2. Mae'r datganiad yn nodi bod y Rheoliadau hyn yn diwygio Cyfarwyddeb y Cyngor 129/2007. Fodd bynnag, ymddengys nad yw'r Rheoliadau na'r memorandwm esboniadol i'r Rheoliadau yn cyfeirio at y Gyfarwyddeb hon (ac nid ydym wedi gallu olrhain Cyfarwyddeb sy'n cynnwys y cyfeiriad hwn). Felly, byddem yn croesawu eglurhad gan Lywodraeth Cymru ar y pwynt hwn.

 

Mae'r crynodeb uchod a chynnwys y Memorandwm Esboniadol i'r Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith ac i ba raddau y byddai'r Rheoliadau hyn yn creu polisi newydd mewn meysydd datganoledig.

 

Nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn ystyried bod unrhyw faterion arwyddocaol yn codi o dan baragraff 8 y Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.

 

Nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol wedi nodi unrhyw reswm cyfreithiol i geisio cynnig cydsyniad o dan Reol Sefydlog 30A.10 mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.