GWEINIDOGION Y DU SY'N GWEITHIO MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG
|
|
38 - Rheoliadau Meddyginiaethau Milfeddygol ac Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Archwilio Gweddillion a Therfynau Uchaf Gweddillion) (Diwygio etc.) (Ymadael â’r UE) 2018 Dyddiad gosod yn Senedd y DU: 26 Tachwedd 2018 |
|
Sifftio |
|
A fydd angen eu sifftio yn Senedd y DU? |
Bydd |
Gweithdrefn: |
Negyddol arfaethedig |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin |
11 Rhagfyr 2018 |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi |
wythnos yn dechrau 10 Rhagfyr 2018 |
Y dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU |
12 Rhagfyr 2018 |
Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: |
Papur 39 |
Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd ei fod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol) |
Nid yw'n ofynnol |
Gweithdrefn graffu |
|
Canlyniad y broses sifftio |
Anhysbys |
Y weithdrefn |
Negyddol neu Gadarnhaol |
Dyddiad trafod gan y Cyd-bwyllgor ar Offerynnau Statudol |
Anhysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Tŷ'r Cyffredin |
Anhysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi |
Anhysbys |
Sylwadau
Bwriedir i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU yn unol ag adran 8 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, a pharagraff 21 o Atodlen 7 i'r Ddeddf.
Mae'r Rheoliadau hyn yn helpu i sicrhau bod y fframwaith meddyginiaethau milfeddygol yn parhau i weithredu'n effeithiol ar ôl i ni adael yr UE, ac y gall y DU barhau i weithredu rhaglen goruchwylio gweddillion sy'n cwmpasu'r un amcanion. Gwneir i'r newidiadau a wneir gan y Rheoliadau sicrhau bod deddfwriaeth yr UE a gedwir a'r ddeddfwriaeth ddomestig sy'n ei gorfodi'n parhau i weithredu'n effeithiol.
Mae'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn cytuno â'r datganiad a osodwyd gan Lywodraeth Cymru dyddiedig 28 Tachwedd 2018 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn. Mae'r crynodeb uchod a chynnwys y Memorandwm Esboniadol i'r Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith.
Nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn ystyried bod unrhyw faterion arwyddocaol yn codi o dan baragraff 8 o'r Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.
Nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol wedi nodi unrhyw reswm cyfreithiol i geisio cynnig cydsyniad o dan Reol Sefydlog 30A.10 mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.
|