GWEINIDOGION Y DU SY'N GWEITHIO MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG
|
|
Rheoliadau Ansawdd a Diogelwch Organau y Bwriedir eu Trawsblannu (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019 Dyddiad gosod yn Senedd y DU: 19 Tachwedd 2018 |
|
Sifftio |
|
A fydd angen eu sifftio yn Senedd y DU? |
Na fydd |
Gweithdrefn: |
Cadarnhaol |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin |
Amherthnasol |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi |
Anhysbys |
Y dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU |
Amherthnasol |
Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C |
Papur 11 |
Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd ei fod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol) |
Papur 10 |
Gweithdrefn graffu |
|
Canlyniad y broses sifftio |
Anhysbys |
Y weithdrefn |
Cadarnhaol |
Dyddiad trafod gan y Cyd-bwyllgor ar Offerynnau Statudol |
Anhysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Tŷ'r Cyffredin |
Anhysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi |
Anhysbys |
Sylwadau
Bwriedir i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU yn unol ag adran 8(1), a pharagraff 21(b) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 er mwyn galluogi cyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu'n effeithiol ar ôl i'r Deyrnas Unedig ymadael â'r Undeb Ewropeaidd.
Caiff y Rheoliadau hyn hefyd eu gwneud o dan adran 23(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) er mwyn gwneud diwygiad canlyniadol i reoliad 24 o Reoliadau Ansawdd a Diogelwch Organau y Bwriedir eu Trawsblannu 2012. Mae hyn yn ei gwneud yn ofynnol i'r Ysgrifennydd Gwladol ystyried sut y mae'r Cyfarwyddebau Rhoi Organau wedi'u gweithredu yn aelod-wladwriaethau'r UE wrth adolygu'r rheoliadau. Diben y rheoliadau hyn yw gwneud diwygiadau i gywiro diffygion mewn deddfwriaeth sy'n ymwneud â rhoi organau ac sy'n deillio o ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd.
Mae'r Rheoliadau yn caniatáu i'r Ysgrifennydd Gwladol a/neu Weinidogion Cymru (o fewn cymhwysedd datganoledig) sydd â phwerau a ddaliwyd yn flaenorol gan Gomisiwn yr UE i ddiweddaru deddfwriaeth ar organau mewn ymateb i fygythiadau sy'n dod i'r amlwg a safonau diogelwch ac ansawdd sy'n newid.
Mae'r Rheoliadau hyn yn rhan o gyfres o offerynnau statudol sy'n ymwneud â diogelwch organau, meinweoedd a chelloedd a chelloedd atgenhedlu ar gyfer trin cleifion. Maent i gyd yn Offerynnau Statudol 'dim bargen' sydd wedi'u datblygu fel rhan o gynlluniau wrth gefn ac y bydd eu hangen os bydd y DU yn ymadael â'r UE heb gytundeb ar waith. Mae'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn cytuno â'r datganiad a osodwyd gan Lywodraeth Cymru dyddiedig 22 Tachwedd 2018 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn.
Mae'r crynodeb uchod a chynnwys y Memorandwm Esboniadol i'r Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith ac i ba raddau y byddai'r Rheoliadau hyn yn creu polisi newydd mewn meysydd datganoledig. Nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn ystyried bod unrhyw faterion arwyddocaol yn codi o dan baragraff 8 y Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.
Nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol wedi nodi unrhyw reswm cyfreithiol i geisio cynnig cydsyniad o dan Reol Sefydlog 30A.10 mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.
|