GWEINIDOGION Y DU YN GWEITHREDU MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG
|
|
Rheoliadau Dileu a Rheoli Milheintiau (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2018 Dyddiad gosod yn Senedd y DU: 20 Tachwedd 2018 |
|
Sifftio |
|
A fydd angen eu sifftio yn Senedd y DU? |
Bydd |
Gweithdrefn: |
Negyddol arfaethedig |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin |
Anhysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi |
wythnos yn dechrau 3 Rhagfyr 2018 |
Y dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU |
5 Rhagfyr 2018 |
Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: |
Papur 23 |
Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd ei fod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol) |
Dim angen |
Gweithdrefn graffu |
|
Canlyniad y broses sifftio |
Anhysbys |
Y weithdrefn |
Negyddol neu Gadarnhaol |
Dyddiad trafod gan y Cyd-bwyllgor ar Offerynnau Statudol |
Anhysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Tŷ'r Cyffredin |
Anhysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi |
Anhysbys |
Sylwadau
Bwriedir i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU yn unol ag adran 8(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, a pharagraff 21(b) o Atodlen 7 i'r Ddeddf honno.
Mae Rheoliadau Dileu a Rheoli Milheintiau (Newidiad) (Ymadael â’r UE) 2018 yn diwygio ac, i raddau llai, yn dirymu cyfraith yr UE a ddargedwir sy'n diogelu iechyd dynol rhag milheintiau (salmonela’n benodol) er mwyn iddi barhau i fod yn weithredol wedi i’r DU ymadael â’r EU. Heintiau sy’n gallu trosglwyddo o anifeiliaid i bobl yw milheintiau.
Bwriedir i’r mân newidiadau technegol a wneir gan yr offeryn sicrhau bod cyfraith yr UE a ddargedwir yn parhau i weithredu'n effeithiol. Mae'r newidiadau’n cynnwys dileu neu ddiwygio unrhyw gyfeiriad at sefydliadau'r UE fel "labordai cyfeirio Cymunedol" a’r "Comisiwn" na fyddant yn berthnasol ar ôl i’r DU ymadael. Bydd y trefniadau presennol ar gyfer mewnforio dofednod byw ac wyau deor o'r UE yn parhau ar ôl i’r DU ymadael.
Mae deddfwriaeth bresennol yr UE yn cynnwys mesurau rheoli sy'n diogelu iechyd y cyhoedd rhag milheintiau, a salmonela’n benodol. Mae Llywodraeth y DU wedi dweud ei bod yn dymuno cadw’r safonau diogelu iechyd hynny ar ôl ymadael â’r UE ac mae'n diwygio deddfwriaeth yr UE a ddargedwir at y diben hwn.
Mae Cynghorwyr Cyfreithiol yn cytuno â'r datganiad a osodwyd gan Lywodraeth Cymru dyddiedig 23 Tachwedd 2018 am effaith y Rheoliadau hyn.
Mae'r crynodeb uchod a chynnwys y Memorandwm Esboniadol sy’n mynd gyda’r Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith ac i ba raddau y byddai'r Rheoliadau hyn yn rhoi polisi newydd ar waith mewn meysydd datganoledig.
Nid yw Cynghorwyr Cyfreithiol yn ystyried bod unrhyw faterion arwyddocaol yn codi o dan baragraff 8 o’r Memorandwm sy’n mynd gyda’r Bil Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.
Nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol wedi nodi unrhyw reswm cyfreithiol i geisio cynnig cydsyniad o dan Reol Sefydlog 30A.10 mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.
|