GWEINIDOGION Y DU SY'N GWEITHIO MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG 

 

 

Rheoliadau Darparu Gwasanaethau (Diwygio etc.) (Ymadael â’r UE) 2018

Dyddiad gosod yn Senedd y DU: 12 Tachwedd 2018

Sifftio

A fydd angen eu sifftio yn Senedd y DU?

Bydd

Gweithdrefn:

Negyddol arfaethedig

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin

27 Tachwedd 2018

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

Yr wythnos yn dechrau 26 Tachwedd 2018

Y dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU

27 Tachwedd 2018

Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: 

Papur 16

Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd ei fod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol)

Dim angen 

Gweithdrefn graffu

Canlyniad y broses sifftio  

Anhysbys 

Y weithdrefn

Negyddol neu Gadarnhaol

Dyddiad trafod gan y Cyd-bwyllgor ar Offerynnau Statudol

Anhysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Tŷ'r Cyffredin

Anhysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

Anhysbys

Sylwadau

 

Cynigir bod y Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud gan Lywodraeth y DU yn unol ag adran 8(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.

 

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud cyfres o newidiadau i ddeddfwriaeth ym maes darparu gwasanaethau i sicrhau bod y gyfraith yn y maes hwn yn parhau i weithredu ar ôl i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd. Yn benodol, mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Darparu Gwasanaethau 2009 (“Rheoliadau 2009”), deddfwriaeth ansolfedd domestig benodol (rhai yn ymwneud â Gogledd Iwerddon yn unig) a Deddf Asiantaethau Cyflogi 1973, ac yn dirymu Penderfyniad y Comisiwn 2009/793/EC yn ymwneud â chyfnewid gwybodaeth rhwng aelod-wladwriaethau.

Mae Cyfarwyddeb Gwasanaethau'r UE (2006/123/EC) (“y Gyfarwyddeb”), a weithredir yn bennaf i gyfraith y DU gan Reoliadau 2009, yn nodi egwyddorion cyffredinol ar reoleiddio darpariaeth gwasanaeth yn y Farchnad Sengl ac yn ceisio ei gwneud hi'n haws i fusnesau sefydlu a darparu gwasanaethau mewn aelod-wladwriaethau eraill yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (“AEE”). Mae'n berthnasol i ystod eang o wasanaethau anariannol.

Yn dilyn ymadawiad y DU o'r Undeb Ewropeaidd ym mis Mawrth 2019, ni fydd y Gyfarwyddeb yn gymwys mwyach i'r DU na busnesau neu unigolion yr AEE sy'n darparu gwasanaethau yn y DU. Mae'r Rheoliadau hyn yn sicrhau bod yr egwyddorion rheoleiddio sy'n gymwys i ddarparu gwasanaethau yn parhau i weithredu'n effeithiol ar ôl y diwrnod gadael.

Mae'r dull a gymerir gan y Rheoliadau hyn wedi'i gynllunio i sicrhau bod y DU yn rheoleiddio busnesau aelod-wladwriaethau yr AEE yn yr un ffordd ag y byddai'n rheoleiddio darparwyr gwasanaeth trydydd gwlad. Bydd dileu rhai amddiffyniadau ar gyfer darparwyr gwasanaeth yr AEE yn galluogi'r DU i gyflawni ymrwymiadau o dan reolau Sefydliad Masnach y Byd (“WTO”); yn benodol, egwyddor “cenedl fwyaf ffafriol” yr WTO, sy'n atal gwledydd rhag gwahaniaethu rhwng eu partneriaid masnachu y tu allan i gytundebau masnachu. Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn dirymu rhwymedigaethau rhannu gwybodaeth diangen rhwng y DU ac aelod-wladwriaethau'r AEE.

 

Mae Cynghorwyr Cyfreithiol yn gwneud y sylwadau canlynol mewn perthynas â datganiad Llywodraeth Cymru dyddiedig 13 Tachwedd 2018 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn:

Mae'r datganiad yn cynnwys mân wallau cyfeirio wrth gyfeirio at Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau'r UE “(2006/723/EC)”, a ddylai nodi “(2006/123/EC)” yn lle hynny.

 

Mae'r crynodeb uchod a chynnwys y Memorandwm Esboniadol i'r Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith ac i ba raddau y byddai'r Rheoliadau hyn yn deddfu polisi newydd mewn meysydd datganoledig.

Nid yw Cynghorwyr Cyfreithiol o'r farn bod unrhyw faterion sylweddol yn codi o dan baragraff 8 o'r Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.

 

Nid yw Cynghorwyr Cyfreithiol wedi nodi unrhyw reswm cyfreithiol i geisio am gynnig cydsyniad o dan Reol Sefydlog 30A.10 mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.