Lansiodd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ymchwiliad i Amrywiaeth mewn Llywodraeth Leol ar 25 Mai 2018. Fel rhan o’i ymchwiliad, cynhaliodd y Pwyllgor ddau arolwg – un wedi’i anelu at y cyhoedd a’r llall wedi’i anelu at gynghorwyr lleol sydd yn y swydd ar hyn o bryd. Mae’r dadansoddiad canlynol yn ymwneud â’r arolwg sydd wedi’i anelu at gynghorwyr yn unig.

Hyrwyddo a dadansoddi’r arolwg

Nod yr arolwg oedd deall profiad.

Anfonwyd yr arolwg yn uniongyrchol at gynghorwyr gweithredol yn ogystal â Phennaeth Gwasanaethau Democrataidd (neu gyfatebol) ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru, a oedd yn eu tro yn annog y cynghorwyr lleol yn eu hardal i ymateb.

Er mwyn llunio’r crynodeb hwn, cynhaliwyd dadansoddiad manwl o set ddata cyflawn; gellir priodoli’r holl ddata i ymatebion unigol a gellir dadansoddi ymhellach ar gais. Ymdrinnir â phob cwestiwn yn yr arolwg yn ei dro.

Caiff y canlyniadau eu cyfrifo yn ôl nifer y bobl a ymatebodd i’r cwestiwn penodol, nid nifer y bobl a ymatebodd i’r arolwg yn gyffredinol, a chafwyd 528 o ymatebion i gyd.

1. Pa mor hir yr ydych wedi bod yn gynghorydd lleol?

Roedd 44.1% o ymatebwyr i’r cwestiwn hwn wedi bod yn gwasanaethu fel cynghorydd lleol am 1-5 mlynedd. Roedd 25.3% o ymatebwyr wedi bod yn gynghorydd lleol am 6-10 mlynedd, gyda 12.7% o ymatebwyr wedi gwasanaethu rhwng 11-15 mlynedd. Roedd 7.2% wedi bod yn gynghorydd lleol am 16-20 mlynedd a 10.7% am 21 mlynedd a mwy.

 

2. Pam wnaethoch chi benderfynu bod yn gynghorydd lleol?*

Roedd 40.2% o’r ymatebion i’r cwestiwn hwn wedi dewis ‘i wasanaethu’r gymuned’ fel eu rheswm dros fod yn gynghorydd lleol. Yna roedd ‘i newid pethau’ (23.7%) ac ‘oherwydd credoau a gwerthoedd gwleidyddol’ (18.6%).

Dewisodd 8.6% o ymatebwyr ‘oherwydd gofynnwyd imi wneud hynny’, gyda 6.0% yn dewis ‘i ddatrys problem’ a 0.4% yn dewis ‘lwfansau aelodau’. Dewisodd 2.4% o ymatebwyr yn ‘Arall (nodwch)’. Dyma rai o’r atebion a roddwyd (sampl o’r ymatebion a gafwyd yw’r canlynol. Mae’r holl ymatebion ar gael ar gais.):-

“I helpu’r rhai na allent helpu eu hunain”

“Gan fod yr ymgeiswyr eraill o safon isel”

“Roedd fy nhad yn gynghorydd am 40 mlynedd”

“I gynrychioli pobl sy’n teimlo nad oes ganddynt lais, y rhai sydd â llai o adnoddau, y rhai ag anableddau”

“I geisio newid y rhagolwg plwyfol sydd wedi treiddio yn fy ardal yn llawer rhy hir”

*Roedd ymatebwyr yn gallu dewis mwy nag un opsiwn.

3. Pa rwystrau neu heriau, os o gwbl, y gwnaethoch eu hwynebu wrth sefyll mewn etholiad?

Daeth y themâu canlynol i’r amlwg o’r atebion a gyflwynwyd i’r cwestiwn hwn. Sampl o’r ymatebion a gafwyd yw’r canlynol. Mae’r holl ymatebion ar gael ar gais.

Thema

Dyfyniadau

Ymrwymiad o ran amser

“Ceisio ymgyrchu tra’n dal i fod mewn gwaith llawn amser”

“Amser. Ymgyrchu a chynnal swydd llawn amser. Fel dyn o oed gweithio, mae dod o hyd i amser i ymgyrchu ac wedyn bod yn gynghorydd yn anodd.”

“Gallu cymryd amser i ffwrdd o’r gwaith i ganfasio ar gyfer pleidleisiau/cnocio drysau/dosbarthu taflenni”

Dim rhwystrau

 

“Dim mewn gwirionedd, efallai bod rhai wedi codi eu haeliau ar fy ieuenctid (honedig!)”

“Dim rhwystrau ond y brif her oedd sicrhau bod y pleidleisiwr nad yw’n wleidyddol yn cymryd rhan yn yr etholiad”

“ Dim, gan fod gan fy mhlaid system sy’n helpu pawb”

Ymosodiadau personol/bwlio

“Ymosodiadau personol gan aelodau pleidiau a chefnogwyr eraill a wnaeth effeithio ar fy nheulu a’m busnes”

“Gelyniaeth gan gyn-Gynghorwyr oedd yn teimlo fy mod wedi eu dadethol. Rhwystrau o fewn y blaid ei hun yn bennaf. Ffyrnigrwydd y cyfryngau cymdeithasol a chynyddu tactegau casineb. Ofn i’r teulu”

“Daeth y cyfryngau cymdeithasol yn rhwystr ac yn her am eu bod yn cael eu defnyddio ar gyfer ymosodiadau personol a thynnu sylw pleidleiswyr i ffwrdd o brif faterion fy maniffesto”

Oedran

“Roedd pobl yn credu fy mod yn rhy ifanc”

“ Nid oedd llawer o bleidleiswyr am bleidleisio drostaf gan fy mod yn ifanc ac yn amhrofiadol. Rwy’n credu bod disgwyliad bod cynghorwyr yn hen a gwyn, ond rwy’n credu bod hynny’n newid”

“Buddiannau personol a gwleidyddiaeth fewnol. Aelodau presennol yn ystyried wardiau eraill fel eu perfeddwlad. Amseroedd cyfarfodydd a disgwyliadau o ran llwyth gwaith yn fwy addas ar gyfer rhai sydd wedi ymddeol neu aelodau cabinet ac nid i ymgeiswyr iau”

Cost

“Fel aelod annibynnol, cost deunydd darllen yr ymgyrch. Mynediad i gofrestr etholiadol”

•”Yr her fwyaf oedd fy mod i’n sefyll fel annibynnol yn erbyn dau ymgeisydd plaid oedd â’r peiriant pleidiau llawn y tu ôl iddyn nhw. Ac yn ariannol, nid oedd gen i gyllideb fawr”

“Sefais mewn etholiad ychydig flynyddoedd yn gynt ac wedi dysgu mai’r rhwystr mwyaf yw talu am y deunydd hyrwyddo”

Diffyg gwybodaeth

“Diffyg gwybodaeth ar ôl cael fy ethol”

“Gwybod sut i drefnu ymgyrch. Dod o hyd i lais ‘cyhoeddus’”

“Fel ymgeisydd annibynnol, nid oedd neb i ddysgu ganddynt na rhwydwaith cymorth, dim ond gorfod gweithio pethau allan o’r egwyddorion cyntaf”

4. Pa mor hawdd yw hi i symud ymlaen mewn llywodraeth leol? Rhannwch unrhyw brofiadau perthnasol gyda ni isod:

Thema

Dyfyniadau

Hawdd gyda gwaith caled

“Os ydych chi’n barod i roi’r gwaith i mewn ac yn gweithio’n galed, rwy’n credu bod cyfle yno ar gyfer dilyniant”

“Hawdd iawn os ydych chi’n barod i ymrwymo amser ac ymdrech”

“Gyda gwaith caled ac amynedd mae’n eithaf hawdd”

Anodd

 

“gan fy mod i’n gweithio’n llawn amser, mae’n anodd iawn”

“Nid yw’n hawdd symud ymlaen oherwydd mae gwleidyddiaeth fewnol sy’n dylanwadu ar ddilyniant”

“ Mae’n anodd. Mae gen i gefnogaeth aelodau eraill ond nid yw’n hawdd gwneud cynnydd o hyd”

Rhyw

“Fel arfer, mae’n well gan ddynion arwain. Mae system cabinet yn amhriodol ar gyfer llywodraeth leol. Penderfyniadau’n cael eu gwneud gan ychydig, craffu yn cael ei weld fel “ci heb ddannedd”

“Anodd os ydych yn fenyw. Dim cyfleusterau/cymorth gofal plant. Anodd bod yn gyflogedig ac yn gynghorydd, ac yn fwy felly mewn awdurdod gwledig mawr heb unrhyw gysylltiadau bws uniongyrchol i Neuadd y Sir na chysylltiadau trên”

“Mae menywod bob amser yn cael y fargen waethaf yn y llywodraeth gan fod yna fwy o ymgeiswyr gwrywaidd bob amser”

Yn ddibynnol ar blaid wleidyddol

“Mae hyn yn dibynnu gyda pha blaid ydych chi, os ydych chi gyda’r blaid sy’n rheoli ac yn synhwyrol ac yn agos atoch, gallwch fynd yn bell”

“Mae dilyniant hawdd yn bennaf yn sgil cyfansoddiad gwleidyddol yr awdurdod a sut rydych chi’n rhan o hynny”

“I raddau helaeth mae’n dibynnu a ydych chi’n aelod o’r grŵp rheoli ai peidio”

5. A ydych yn bwriadu sefyll i gael eich ailethol ar ddiwedd eich cyfnod fel cynghorydd?

Dywedodd 47.3% o ymatebwyr i’r cwestiwn hwn eu bod nhw’n bwriadu sefyll i gael eu hailethol ar ddiwedd eu cyfnod. Dywedodd 13.2% nad ydynt am wneud tra bod 39.5% yn dweud nad ydynt yn gwybod.

6. Os nad ydych chi’n bwriadu sefyll ar gyfer cael eich ailethol, beth yw’r rhesymau dros y penderfyniad hwnnw? (Ticiwch bob un sy’n berthnasol)

Dewisodd 25.7% o ymatebwyr i’r cwestiwn hwn ‘ymddeoliad’ fel y rheswm nad ydynt yn bwriadu sefyll i’w hailethol. Yna ‘pwysau’r rôl’ (20.7%) a ‘Dim cymorth o fewn y swyddogaeth’ (8.1%).

Dewisodd 7.2% o ymatebwyr ‘Patrwm gweithio anhyblyg’ a dewisodd 5.0% ‘cyflog/lwfans’.

Dewisodd 33.3% o ymatebwyr i’r cwestiwn hwn ‘Arall (nodwch)’. Sampl o’r ymatebion a gafwyd yw’r canlynol. Mae’r holl ymatebion ar gael ar gais.

 

Thema

Dyfyniadau

Bwlio

“Bwlio ac agwedd aelodau’r cabinet”

“Camddefnyddio cyfryngau cymdeithasol, diffyg system genedlaethol o gefnogaeth i Gynghorwyr a’r agwedd gyhoeddus barhaus ein bod ni i gyd yn ddiegwyddor a digydwybod”

“ Bwlis a natur ddim digon agored. Dim ffordd i symud ymhellach gyda’r rôl os nad yw’ch wyneb yn ffitio, mae’n lle unig i fod gyda’ch cyd-Gynghorwyr. Mae’r cyhoedd yn wych ac yn gwerthfawrogi beth rydyn ni’n ei wneud”

Cyfleoedd eraill

 

“Dilyn diddordebau eraill”

“Chwilio am gyfleoedd eraill”

“Pethau eraill i’w cyflawni mewn bywyd, achosion i ymladd y tu allan i siambr y cyngor, yr oedran y byddwn yn parhau i fod yn gynghorydd, yn ddyletswydd i blaid ac etholwyr, nad yw’r swydd byth yn cael ei chwblhau’n llawn, mae popeth yn y glorian felly ddim yn gwybod”

Cyni

“ oherwydd Cyni, mae’n fwyfwy anodd i wasanaethu’r gymuned. Llai o staff, mwy o waith a dim arian ar gyfer unrhyw beth heblaw gwasanaethau hanfodol”

“Ddim yn argyhoeddedig bod bod yn Gynghorydd yn werth chweil, yn enwedig o ystyried cyfyngiadau ariannol a chyni presennol”

“cyfyngiadau cyllideb enfawr, toriadau difrifol”

Amser

“Faint o amser sydd ei angen i gyflawni’r rôl”

“Rwy’n gweithio’n llawn amser ac weithiau bydd rhaid i mi fynychu nifer o oriau o gyfarfodydd ar ôl gwaith. Hefyd, mae angen i ni lusgo llywodraeth leol i’r 21ain ganrif a galluogi TGCh i gael ei ddefnyddio fel y gall cynghorwyr gymryd rhan drwy e-bost, testun ac ati yn hytrach na gorfod mynychu cyfarfodydd yn bersonol. Weithiau, rydym yn llusgo pobl o bob rhan o’n hardal ar gyfer cyfarfod a allai bara 10 munud neu lai”

“Mae’r oriau gwaith yn 24/7 gyda chynghorwyr eraill yn gweithio ychydig iawn, mae pwysau rhai wardiau o’u cymharu ag eraill yn heriol iawn, mae’r cyflog yn gweithio allan ar gyfartaledd yn £ 1 yr awr heb gydbwysedd rhwng gwaith a bywyd teuluol, mae’r swyddogion i weld yn rhoi eu hunain ar bedestal yn aml gan roi’r Cynghorwyr ar lawr gwlad i redeg o’i gwmpas, mae’n eithriadol o rwystredig i unrhyw gynghorydd heddiw ac mae’n ychwanegu at y rhwystredigaeth gyffredinol gan y cyhoedd”

Oedran

“Byddaf yn 70 oed, efallai dylai’r cynghorwyr gael oed ymddeol?”

“Dwi ddim yn meddwl mai ymddeol yw’r broblem. Mae’n fwy tebygol gyda thirlun sy’n newid yn gyflym - yn economaidd, yn gymdeithasol ac yn wleidyddol, y dylid annog pobl iau i sefyll. Yn absenoldeb cystadleuwyr, mi fyddwn i’n parhau”

“Byddwn yn gobeithio y bydd pobl iau yn dod ymlaen, gan y byddaf yn 64 oed ar ddiwedd y tymor hwn”

7. Sut y gellid gwella prosesau dethol ymgeiswyr i annog mwy o amrywiaeth ymgeiswyr i sefyll mewn etholiadau cynghorau lleol?

Sampl o’r ymatebion a gafwyd yw’r canlynol. Mae’r holl ymatebion ar gael ar gais.

Thema

Dyfyniadau

Dim angen gwelliant.

“Roedd y broses ddethol es i drwyddi yn agored iawn ac yn galluogi ymgeiswyr o bob cefndir i gyflwyno eu cais”

“Rwy’n credu ei fod yn gweithio yn fy marn i”

“Dwi ddim yn gweld unrhyw beth o’i le gyda’r hyn sydd gennym”

Rhagor o wybodaeth

 

“Rhagor o wybodaeth. Ond ni fyddai hyn yn mynd i’r afael â’r apathi ymysg yr etholaeth”

“Rhoi mwy o wybodaeth am rôl cynghorwyr ond hefyd i fid yn fwy gonest am y pwysau y mae cynghorwyr yn eu hwynebu yn enwedig toriadau yn y gyllideb”

“Mwy o wybodaeth yn cael ei dosbarthu drwy’r awdurdod mewn gwahanol ffyrdd o hysbysebu’r cyfle a’r broses”

Addysg

“Addysg a gwybodaeth i’r genhedlaeth iau”

“Mwy o addysg mewn ysgolion ynghylch rôl Cynghorwyr”

“Dysgu am Wleidyddiaeth Leol mewn ysgolion. Annog profiad gwaith i ddisgyblion chweched dosbarth gyda Chynghorwyr. Cyfarfodydd/trafodaethau agored i gynnwys pobl ifanc yn eu cymunedau - efallai heb ragfarn wleidyddol”

Hyrwyddo

“ Hyrwyddo uniongyrchol ehangach y broses i sefydliadau lleol sy’n cefnogi amrywiaeth - pobl ifanc, pobl anabl, grwpiau ethnig”

“Rwy’n credu bod angen mwy o hyrwyddo o ran gall unrhyw un fod yn Gynghorydd os ydynt yn dymuno hynny”

“Codi ymwybyddiaeth yn lleol ac yn genedlaethol drwy’r cyfryngau cymdeithasol”

Oriau hyblyg

“Mae angen amlygu manylion gwaith rhan-amser, oriau hyblyg ac mae angen annog grwpiau o bobl o’r grwpiau amrywiol hyn i sefyll”

“Gweithio gyda chyflogwyr i ganiatáu i ymgeiswyr ifanc da sefyll i gael eu hethol drwy ganiatáu amser i ffwrdd o’r gwaith i fynychu cyfarfodydd”

“Rwy’n credu y byddai’n dda cael aelodau iau. Fodd bynnag, yr anhawster fyddai yw nad yw’n realistig i fod yn gynghorydd effeithiol a gweithio’n llawn amser. Efallai y byddai’n bosib gweithio rhan amser a bod yn gynghorydd”

Rhyw

“Rhestrau byr menywod i gyd ym mhob plaid a grŵp”

“Gwahaniaethu cadarnhaol e.e. rhestr fer menywod yn unig”

“Cyfle cyfartal i ddynion a menywod. Dim rhestr fer menywod yn unig”

Cydnabyddiaeth ariannol

“Naill ai mae’n rhaid i’r lwfans fod yn briodol i berson ifanc â chyfrifoldebau teuluol neu, yn yr hinsawdd ariannol hon ni fyddwn yn annog unrhyw un, byddwn yn parhau i ddenu pobl obsesiynol gwleidyddol a phobl oedrannus sydd wedi ymddeol”

“Mae angen i’r lwfans fod yn fwy”

“Yn anffodus, mae’n dod i lawr i gydnabyddiaeth i bobl iau. Mae’r rôl yn ansicr ac mae cyflogaeth arall yn cymryd blaenoriaeth. Mae cynghorwyr yn destun beirniadaeth ddiangen pan fydd angen cyllid ar flaenoriaethau eraill ar draul rhestr ddymuno preswylwyr”

8. Y tu allan i’r broses dethol ymgeiswyr, a oes unrhyw gamau eraill y dylid eu cymryd i annog mwy o amrywiaeth ymgeiswyr i sefyll mewn etholiadau cynghorau lleol?

Sampl o’r ymatebion a gafwyd yw’r canlynol. Mae’r holl ymatebion ar gael ar gais.

Thema

Disgrifiad

Addysg

“gwell addysg o’r hyn y mae’r rôl yn ei olygu mewn gwirionedd”

“Addysgu pobl ynghylch beth mae cynghorydd da yn ei wneud a’r effaith y gallai ei chael ar y gymuned leol”

“Rwy’n credu y dylai gwleidyddiaeth ac ati gael ei haddysgu mewn ysgolion a cholegau er mwyn rhoi cipolwg i bobl ifanc ar wleidyddiaeth ac efallai y bydd yn annog pobl iau i sefyll i fod yn Gynghorwyr”

Hyrwyddo / cyhoeddusrwydd

“Mwy o hyrwyddo cyhoeddus o fanteision amrywiaeth a pheidio â bod ofn pwyntio’r bys ar gynrychiolaeth dynion gwyn hŷn”

“Gwell cyhoeddusrwydd ynghylch rôl cynghorau lleol a phwysigrwydd cynwysoldeb i hwyluso newid”

“Annog drwy hysbysebu a chynghori sut y gall ymgeiswyr mwy amrywiol gymryd rhan yn llwyddiannus mewn llywodraeth leol”

Cydnabyddiaeth ariannol

 

“Nid yw’r lwfans yn adlewyrchu ymrwymiad amser na chyfrifoldebau’r rôl. Anodd jyglo swydd llawn amser gyda’r rôl. Oni bai eich bod yn gyfoethog neu wedi ymddeol heb anhawster ariannol”

“Mae lwfansau’n isel pan fyddwch chi’n sylweddoli pa mor galed yw cadw’ch swydd neu ddod o hyd i un newydd”

“Talu, ni all llawer fforddio ddod yn gynghorydd lleol. Mae angen ail swydd ar y mwyafrif, nid yw’n ddigon hyblyg i ganiatáu hynny”

Oriau hyblyg

“Arferion gweithio mwy hyblyg, amseroedd cyfarfod ddim yn dechrau am 5pm neu yn ystod y diwrnod gwaith. Nid yw gofal plant yn cael ei ystyried yn draul i’w hawlio, gan fod amharodrwydd i hawlio treuliau. Nid yw’r lwfans mewn gwirionedd yn ddigon i ddisgwyl i unrhyw un nad yw wedi cwblhau eu gyrfa i godi teulu”

“Mwy o hyblygrwydd ee gyda Threuliau Gofalwyr”

“Oes, cael cyfarfodydd Cyngor ar amseroedd pan fydd y rhai sy’n gweithio yn gallu cymryd rhan lawn”

9. Ac eithrio eich gwaith fel cynghorydd lleol, ticiwch y bocsys sy’n berthnasol i’ch sefyllfa bresennol

Roedd 28.2% o ymatebwyr i’r cwestiwn hwn wedi ymddeol. Roedd 16.9% yn hunangyflogedig neu’n llawrydd, tra bod 15.7% mewn cyflogaeth llawn amser â thâl. Nid oedd 14.0% mewn gwaith cyflogedig, roedd gan 12.3% gyfrifoldebau gofalu, roedd 11.3% mewn gwaith cyflog rhan-amser a 1.7% mewn addysg amser llawn.

10. Os oes gennych gyfrifoldebau gofalu, pwy ydych chi’n gyfrifol amdanynt?

Atebodd 34% ‘plentyn/plant’, atebodd 18% ‘partner’, atebodd 26% ‘perthynas’. Dewisodd 22% ‘Arall (nodwch)’. I’r rhai a ddewisodd ‘arall’, dyma rai o’r atebion a ddarparwyd. Sampl o’r ymatebion a gafwyd yw’r canlynol. Mae’r holl ymatebion ar gael ar gais.

“llys-fab nad yw’n perthyn i fi sydd ag anabledd dysgu”

“plant maeth anabl”

“Mam a thad oedrannus a chwaer sydd ag anabledd difrifol felly’n deall yr anhawster y mae’r toriadau hyn yn ei gael ar bobl gyffredin”

“1 dibynnydd oed ysgol ac 1 oedolyn ifanc anabl”

11. Ydych chi wedi profi unrhyw gam-drin, bwlio, gwahaniaethu neu aflonyddu yn ystod eich amser fel cynghorydd? (Ticiwch bob un sy’n berthnasol)

Atebodd 25.4%  ‘ydw, o’r gymuned’ tra bod 19.2% yn dweud ‘ydw, oddi fewn i’r Cyngor’, dywedodd 11.8% ‘ydw oddi fewn i’r grŵp/plaid wleidyddol, dewisodd 10.1% ‘ydw, arall’ a dywedodd 33.6% ‘na, dim un o’r uchod.

12. Os ydych chi wedi profi unrhyw gam-drin, bwlio, gwahaniaethu neu aflonyddu yn ystod eich amser fel cynghorydd, rhowch ragor o wybodaeth am eich profiad

Thema

Disgrifiad

Cyfryngau cymdeithasol

“O bryd i’w gilydd wrth ddelio â materion dadleuol neu ddiffyg gweithredu gyda materion lleol (yn enwedig sbwriel) yn bennaf ar gyfryngau cymdeithasol”

• Bwlio cyfryngau cymdeithasol gan wrthwynebwyr gwleidyddol a dicter gan y gymuned leol ar faterion cynllunio.

• Ymosodiadau llafar a chorfforol, ymosodiadau ar gyfryngau cymdeithasol

 

Gan gydweithwyr/Aelodau eraill y grŵp plaid wleidyddol

“ Bwlio gan gydweithiwr”

“Ydw, gan aelodau eraill y grŵp gwleidyddol. Sylwadau nawddoglyd ac sy’n tanseilio gan gynnwys rhannu sïon maleisus”

“Ydw gan rai cydweithwyr”

Ymosodiadau gan bleidiau gwleidyddol eraill

 

“Datganiadau ffug gan wrthblaid”

“Yn bennaf gan gefnogwyr y gwrthbleidiau”

“pan mewn pŵer, camdriniaeth gan yr wrthblaid a phan yn yr wrthblaid, camdriniaeth gan y blaid mewn pŵer”

Ymosodiadau gan y cyhoedd

“Wedi cael camdriniaeth oherwydd penderfyniadau ar gyfarfodydd cynllunio ddim yn bodloni disgwyliadau preswylwyr lleol”

“ Camdriniaeth eiriol gan y gymuned ac aelodau’r blaid leol”

“Camdriniaeth gyffredinol ar lafar yn y gymuned ac ardaloedd ehangach”

 

Rhyw

“Mae bod yn fenyw yn ymddangos fel bod dynion yn meddwl ein bod ni’n ddwl”

“ Menywod yn cael eu cyfeirio fel merched. Llai o bwys yn cael eu rhoi i syniadau menywod na dynion. Ymdrechion i fod yn fygythiol drwy ymddygiad sy’n bychanu a bwlio, ddim wedi’u cyfeirio ataf ond ar eraill o’m cwmpas, gyda’r bwriad o roi cynghorwyr newydd yn eu lle”

“ Galw enwau personol; newyddion anweddus neu ffug, yn enwedig o’r cyfryngau. Ond rwyf wedi tystio eraill yn profi gwaeth yn enwedig menywod ar gam-drin menywod”

 

Demograffeg yr ymatebwyr

Lleoliad

Roedd 54.8% o’r ymatebwyr i’r arolwg yn dod o Dde Cymru, gyda 21.3% yn dod o Ganolbarth a Gorllewin Cymru a 23.7% o Ogledd Cymru.

Oedran

Roedd 2.2% o ymatebwyr i’r arolwg yn 25 oed ac iau, 19.1% rhwng 26-44 oed, 47.3% rhwng 45-64 oed a 31.4% yn 65 oed a throsodd.

Rhyw

Roedd 34.8% o ymatebwyr yr arolwg yn nodi eu hunain yn ferched, gyda 62.2% yn nodi eu hunain yn ddynion. Roedd yn well gan 2.2% beidio â dweud gyda 0.9% arall yn dweud byddai’n well ganddynt ddefnyddio eu term eu hunain. I’r rhai fyddai’n well ganddynt ddefnyddio term eu hunain, rhoddwyd yr atebion canlynol:-

“Fy musnes i yw hynny”

“Ddim yn berthnasol i’r cwestiwn”

“Abimegender”

Roedd 0.6% o ymatebwyr yr arolwg o’r farn eu bod yn drawsryweddol, gyda 4.0% yn well ganddynt beidio â dweud. Nid oedd 95.3% yn ystyried eu hunain yn drawsryweddol.

Rhywioldeb

Roedd 81.0% yn ystyried eu hunain yn heterorywiol, 3.9% yn ddeurywiol, 5.2% yn hoyw/lesbiaidd (neu gyfunrywiol). Roedd yn well gan 6.9% beidio â dweud tra bod 3.0% arall yn dewis ‘Arall (nodwch)’. I’r rhai a ddewisodd Arall, dyma rai o’r atebion a roddwyd (sampl yw hyn o’r atebion a gafwyd. Mae’r holl ymatebion ar gael ar gais):-

“Normal”

“Does dim gwahaniaeth beth rwy’n ystyried fy hun”

Ethnigrwydd

Roedd96.1%11. Ydych chi wedi profi unrhyw gam-drin, bwlio, gwahaniaethu neu aflonyddu yn ystod eich amser fel cynghorydd? (Ticiwch bob un sy’n berthnasol)

Atebodd 25.4%  ‘ydw, o’r gymuned’ tra bod 19.2% yn dweud ‘ydw, oddi fewn i’r Cyngor’, dywedodd 11.8% ‘ydw oddi fewn i’r grŵp/plaid wleidyddol, dewisodd 10.1% ‘ydw, arall’ a dywedodd 33.6% ‘na, dim un o’r uchod.

12. Os ydych chi wedi profi unrhyw gam-drin, bwlio, gwahaniaethu neu aflonyddu yn ystod eich amser fel cynghorydd, rhowch ragor o wybodaeth am eich profiad

Thema

Disgrifiad

Cyfryngau cymdeithasol

“O bryd i’w gilydd wrth ddelio â materion dadleuol neu ddiffyg gweithredu gyda materion lleol (yn enwedig sbwriel) yn bennaf ar gyfryngau cymdeithasol”

• Bwlio cyfryngau cymdeithasol gan wrthwynebwyr gwleidyddol a dicter gan y gymuned leol ar faterion cynllunio.

• Ymosodiadau llafar a chorfforol, ymosodiadau ar gyfryngau cymdeithasol

 

Gan gydweithwyr/Aelodau eraill y grŵp plaid wleidyddol

“ Bwlio gan gydweithiwr”

“Ydw, gan aelodau eraill y grŵp gwleidyddol. Sylwadau nawddoglyd ac sy’n tanseilio gan gynnwys rhannu sïon maleisus”

“Ydw gan rai cydweithwyr”

Ymosodiadau gan bleidiau gwleidyddol eraill

 

“Datganiadau ffug gan wrthblaid”

“Yn bennaf gan gefnogwyr y gwrthbleidiau”

“pan mewn pŵer, camdriniaeth gan yr wrthblaid a phan yn yr wrthblaid, camdriniaeth gan y blaid mewn pŵer”

Ymosodiadau gan y cyhoedd

“Wedi cael camdriniaeth oherwydd penderfyniadau ar gyfarfodydd cynllunio ddim yn bodloni disgwyliadau preswylwyr lleol”

“ Camdriniaeth eiriol gan y gymuned ac aelodau’r blaid leol”

“Camdriniaeth gyffredinol ar lafar yn y gymuned ac ardaloedd ehangach”

 

Rhyw

“Mae bod yn fenyw yn ymddangos fel bod dynion yn meddwl ein bod ni’n ddwl”

“ Menywod yn cael eu cyfeirio fel merched. Llai o bwys yn cael eu rhoi i syniadau menywod na dynion. Ymdrechion i fod yn fygythiol drwy ymddygiad sy’n bychanu a bwlio, ddim wedi’u cyfeirio ataf ond ar eraill o’m cwmpas, gyda’r bwriad o roi cynghorwyr newydd yn eu lle”

“ Galw enwau personol; newyddion anweddus neu ffug, yn enwedig o’r cyfryngau. Ond rwyf wedi tystio eraill yn profi gwaeth yn enwedig menywod ar gam-drin menywod”

 

Demograffeg yr ymatebwyr

Lleoliad

Roedd 54.8% o’r ymatebwyr i’r arolwg yn dod o Dde Cymru, gyda 21.3% yn dod o Ganolbarth a Gorllewin Cymru a 23.7% o Ogledd Cymru.

Oedran

Roedd 2.2% o ymatebwyr i’r arolwg yn 25 oed ac iau, 19.1% rhwng 26-44 oed, 47.3% rhwng 45-64 oed a 31.4% yn 65 oed a throsodd.

Rhyw

Roedd 34.8% o ymatebwyr yr arolwg yn nodi eu hunain yn ferched, gyda 62.2% yn nodi eu hunain yn ddynion. Roedd yn well gan 2.2% beidio â dweud gyda 0.9% arall yn dweud byddai’n well ganddynt ddefnyddio eu term eu hunain. I’r rhai fyddai’n well ganddynt ddefnyddio term eu hunain, rhoddwyd yr atebion canlynol:-

“Fy musnes i yw hynny”

“Ddim yn berthnasol i’r cwestiwn”

“Abimegender”

Roedd 0.6% o ymatebwyr yr arolwg o’r farn eu bod yn drawsryweddol, gyda 4.0% yn well ganddynt beidio â dweud. Nid oedd 95.3% yn ystyried eu hunain yn drawsryweddol.

Rhywioldeb

Roedd 81.0% yn ystyried eu hunain yn heterorywiol, 3.9% yn ddeurywiol, 5.2% yn hoyw/lesbiaidd (neu gyfunrywiol). Roedd yn well gan 6.9% beidio â dweud tra bod 3.0% arall yn dewis ‘Arall (nodwch)’. I’r rhai a ddewisodd Arall, dyma rai o’r atebion a roddwyd (sampl yw hyn o’r atebion a gafwyd. Mae’r holl ymatebion ar gael ar gais):-

“Normal”

“Does dim gwahaniaeth beth rwy’n ystyried fy hun”

Ethnigrwydd

Roedd96.1% o ymatebwyr yr arolwg yn nodi eu hunain yn wyn. 1.0% yn Asiaidd, 0.6% yn Gymysg/Aml-Ethnig, 0.3% yn Ddu/Affricanaidd/Caribïaidd ac 1.9% yn nodi eu hunain o darddiad ethnig arall.

Anabledd

Roedd 70.5% o ymatebwyr i’r cwestiwn hwn yn dweud nad oedd ganddynt gyflwr neu anabledd iechyd corfforol neu feddyliol hirsefydlog (unrhyw beth sydd wedi para o leiaf 12 mis neu sy’n debygol o bara o leiaf 12 mis). Dywedodd23.6% fod ganddynt gyflwr neu anabledd iechyd corfforol neu feddyliol hirsefydlog, gyda 5.9% yn well ganddynt beidio â dweud.

Dywedodd 37.6% fod ganddynt anabledd corfforol, 26.9% yn dweud bod ganddynt gyflwr meddygol (e.e. canser) a 17.2% ag anableddau iechyd meddwl. Dywedodd 11.8% fod ganddynt anabledd synhwyraidd, 3.2%  ag anabledd dysgu a 3.2% yn well ganddynt beidio â dweud.