Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar
25/01/2018 i'w hateb ar 30/01/2018
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
Prif Weinidog Cymru
Vikki Howells Cwm Cynon
A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i fynd i'r afael â chyflog isel yng Nghymru?
Sian Gwenllian Arfon
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael a'r broblem o ddigartrefedd yn Arfon?
Adam Price Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr
Pa ganllawiau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u darparu i fyrddau iechyd lleol ynghylch trawsnewid gwasanaethau clinigol?
Janet Finch-Saunders Aberconwy
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y ddarpariaeth o wasanaethau iechyd meddwl yng ngogledd Cymru?
David Melding Canol De Cymru
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cymorth sydd ar gael ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol yng Nghymru?
Mandy Jones Gogledd Cymru
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am drin cyflyrau cronig yng Ngogledd Cymru?
Rhianon Passmore Islwyn
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i gynyddu allbwn economaidd ar gyfer cymunedau Islwyn?
Mohammad Asghar Dwyrain De Cymru
Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella economi de-ddwyrain Cymru yn ystod y pumed Cynulliad?
Russell George Sir Drefaldwyn
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sgrinio am ganser y coluddyn yng Nghymru?
Neil Hamilton Canolbarth a Gorllewin Cymru
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am lywodraethu byrddau iechyd GIG Cymru?
Caroline Jones Gorllewin De Cymru
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i atal llifogydd yng Ngorllewin De Cymru?
Llyr Gruffydd Gogledd Cymru
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau bysus yng Ngogledd Cymru?
Julie Morgan Gogledd Caerdydd
Beth y mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i wella cyfraddau bwydo ar y fron yng Nghymru?
Jane Hutt Bro Morgannwg
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bythefnos masnach deg yng nghyd-destun cefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu rhyngwladol yn Affrica a ledled y byd?
Mick Antoniw Pontypridd
Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU am ddatganoli plismona i Gymru?
http://cofnod.cynulliad.cymru/OrderPaper/OralQuestions/30-01-2018/ 2/2