Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 17/01/2018 i'w hateb ar 24/01/2018

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl Cwestiwn 2.

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid

          John Griffiths     Dwyrain Casnewydd

1      OAQ51619

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddyraniad Llywodraeth Cymru o arian cyfalaf?

          Sian Gwenllian     Arfon

2        OAQ51625 Wedi'i gyflwyno yn Gymraeg

A    wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael ag unrhyw wendidau yn y system dreth yng Nghymru?

          Adam Price     Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr

3        OAQ51590 Wedi'i gyflwyno yn Gymraeg           Tynnwyd yn ôl

A    oes gan Lywodraeth Cymru darged ar gyfer canran yr arbedion effeithlonrwydd i'w gwneud ar draws y llywodraeth bob blwyddyn?

          Angela Burns    Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro

4      OAQ51620

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y dyraniad cyllideb i'r portffolio iechyd a gwasanaethau cymdeithasol ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf?

          Leanne Wood    Rhondda

5      OAQ51629         Tynnwyd yn ôl

Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynyddu caffael cyhoeddus gan ddarparwyr sydd wedi'u lleoli yng Nghymru?

         David Melding     Canol De Cymru

6      OAQ51613

Beth oedd y newid mawr yng nghylch cyllideb 2018-19 a benderfynwyd gan y blaenoriaethau a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015?

         Janet Finch-Saunders    Aberconwy

7      OAQ51630

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar ardrethi busnes yng Nghymru?

         David Melding     Canol De Cymru

8      OAQ51612

Sut y gwnaeth Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 ddylanwadu ar ddyraniadau cyllideb Ysgrifennydd y Cabinet?

          Mick Antoniw     Pontypridd

9      OAQ51602

Pa ddarpariaeth ariannol ychwanegol a wnaed i'r portffolio economi a thrafnidiaeth i gefnogi'r gwaith o ddatblygu metro de Cymru?

          Vikki Howells     Cwm Cynon

10    OAQ51598

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddefnyddio cronfeydd strwythurol i hybu ffyniant yn y cymoedd gogleddol?

          Julie Morgan    Gogledd Caerdydd

11    OAQ51627

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyllid ar gyfer bargen ddinesig prifddinas-ranbarth Caerdydd?

          Leanne Wood    Rhondda

12    OAQ51628         Tynnwyd yn ôl

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fuddsoddiad cyfalaf Llywodraeth Cymru yn y Rhondda?

          Andrew R.T. Davies    Canol De Cymru

13    OAQ51596

Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael gydag aelodau'r cabinet am reoli cyllidebau adrannol?

          Russell George     Sir Drefaldwyn

14    OAQ51605

A oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gynlluniau i adolygu ei pholisïau caffael?

          David J. Rowlands     Dwyrain De Cymru

15    OAQ51584

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y cynnydd yn y dreth gyngor yng Nghymru?

 

Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip

          Simon Thomas     Canolbarth a Gorllewin Cymru

1      OAQ51624 Wedi'i gyflwyno yn Gymraeg

A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am ddyddiad cychwyn y cynllun olynol ar gyfer band eang cyflym iawn?

          Jayne Bryant     Gorllewin Casnewydd

2      OAQ51618

A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â safbwynt Llywodraeth Cymru ar sefydlu cofrestr o droseddwyr trais domestig?

          Julie Morgan    Gogledd Caerdydd

3      OAQ51607

Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thrais domestig?

          David Rees     Aberafan

4      OAQ51609

Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer darparu mwy o gynhwysiant digidol yn Aberafan yn 2018?

          David J. Rowlands     Dwyrain De Cymru

5      OAQ51583

A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am fesurau gwrth-gaethwasiaeth yng Nghymru?

          Jane Hutt     Bro Morgannwg

6      OAQ51606

A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf am rôl cynghorwyr cenedlaethol yn y broses o helpu i weithredu Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015?

          Hefin David     Caerffili

7      OAQ51610

A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am ddarpariaeth band eang cyflym iawn yn etholaeth Caerffili?

          Rhun ap Iorwerth     Ynys Môn

8      OAQ51626 Wedi'i gyflwyno yn Gymraeg

A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am bwysigrwydd mynediad at wasanaethau 3G/4G mewn ardaloedd gwledig?

          Mandy Jones     Gogledd Cymru

9      OAQ51611

A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad ynghylch cyflymderau band eang cyflym iawn ar draws rhanbarth Gogledd Cymru?

          Vikki Howells     Cwm Cynon

10    OAQ51597

A wnaiff Llywodraeth Cymru ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf am ei gwaith i hyrwyddo cynhwysiant digidol yng Nghymru?

          Nick Ramsay     Mynwy

11    OAQ51592

A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf am bolisïau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella darpariaeth band eang yng nghefn gwlad Cymru?

          Russell George     Sir Drefaldwyn

12    OAQ51595

A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am y Cynllun Gweithredu Ffonau Symudol i Gymru?

          Paul Davies     Preseli Sir Benfro

13    OAQ51587

A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyflwyno band eang yn Sir Benfro?

          Leanne Wood    Rhondda

14    OAQ51632         Tynnwyd yn ôl

Beth y mae Arweinydd y Tŷ yn ei wneud i wella cydlyniant cymunedol?

          Jane Hutt     Bro Morgannwg

15    OAQ51604

A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio deddfwriaeth i fynd i'r afael â'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau?

 

Comisiwn y Cynulliad

          Simon Thomas     Canolbarth a Gorllewin Cymru

1      OAQ51614 Wedi'i gyflwyno yn Gymraeg

A wnaiff y Comisiynydd ddatganiad ynglŷn â lleihau faint o blastig untro sy’n cael ei ddefnyddio ar ystâd y Cynulliad?

          Darren Millar     Gorllewin Clwyd

2      OAQ51600

Pa ystyriaeth y mae Comisiwn y Cynulliad wedi'i rhoi i sefydlu gwasanaethau caplaniaeth ar gyfer staff cymorth Aelodau'r Cynulliad ac Aelodau'r Cynulliad?

          Julie Morgan    Gogledd Caerdydd

3      OAQ51593

Pa ymdrechion sy'n cael eu gwneud i sicrhau bod y Senedd yn lle mwy cyfeillgar i deuluoedd a phlant?

          Mick Antoniw     Pontypridd

4      OAQ51603

Pa gynnydd a wnaed tuag at sicrhau bod yr holl staff a gyflogir yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol gan y Comisiwn yn cael y cyflog byw go iawn?

          Jayne Bryant     Gorllewin Casnewydd

5      OAQ51621

Pa gamau y mae'r Comisiwn yn eu cymryd i sicrhau bod ystâd y Cynulliad yn hygyrch i'r holl ymwelwyr?

          Mandy Jones     Gogledd Cymru

6      OAQ51616

A wnaiff y Comisiynydd ddatganiad am ymgysylltu â'r cyhoedd yn rhanbarth Gogledd Cymru?