Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar
03/01/2018 i'w hateb ar 10/01/2018
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Vikki Howells Cwm Cynon
Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus i drigolion Cwm Cynon yn 2018?
Rhun ap Iorwerth Ynys Môn
2 OAQ51522 Wedi'i gyflwyno yn Gymraeg
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am fudd economaidd datbygiadau seilwaith ar Ynys Môn?
Janet Finch-Saunders Aberconwy
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am effaith stormydd y gaeaf ar y rhwydweithiau ffyrdd?
Russell George Sir Drefaldwyn
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i dyfu economi canolbarth Cymru?
Angela Burns Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o nifer y busnesau yr effeithir arnynt yn andwyol gan force majeure?
David Melding Canol De Cymru
Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o sefyllfa economaidd bresennol y sector adeiladu?
Mick Antoniw Pontypridd
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am fanteision y cyflog byw i economi Cymru?
Mohammad Asghar Dwyrain De Cymru
Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella ffyrdd yn ne-ddwyrain Cymru yn 2018?
Jenny Rathbone Canol Caerdydd
Yn dilyn ymgynghoriad am wella gwasanaethau bws y llynedd, beth yw strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer sicrhau rhwydwaith bysiau cynaliadwy sy'n gwasanaethu Cymru gyfan?
Dawn Bowden Merthyr Tudful a Rhymni
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddefnyddio'r rhaglen mannau cyfyng ar yr A470 ym Merthyr Tudful?
Sian Gwenllian Arfon
11 OAQ51520 Wedi'i gyflwyno yn Gymraeg
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad ynghylch gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer economi gogledd Cymru?
Andrew R.T. Davies Canol De Cymru
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am sut y bydd polisïau economaidd Llywodraeth Cymru yn gwella'r cyflogau a gaiff eu cymryd adref yng Nghymru?
Suzy Davies Gorllewin De Cymru
Pwy sy'n cynghori Ysgrifennydd y Cabinet ar benderfyniadau i gymeradwyo ceisiadau a wneir i'r gyllideb buddsoddi cyfryngau ar hyn o bryd?
Nick Ramsay Mynwy
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi mentrau yn y sector preifat a gynlluniwyd i hyrwyddo Mynwy fel porth i dde Cymru?
John Griffiths Dwyrain Casnewydd
Sut y mae blaenoriaethu cerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus gan Lywodraeth Cymru dros geir modur preifat yn effeithio ar ddyrannu adnoddau o fewn y portffolio economi a thrafnidiaeth?
Cwnsler Cyffredinol
David Rees Aberafan
Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda chymheiriaid yn y DU mewn perthynas â chadw siarter yr UE ar hawliau sylfaenol yn rhan o gyfraith y DU yn dilyn Brexit?
Simon Thomas Canolbarth a Gorllewin Cymru
2 OAQ51493 Wedi'i gyflwyno yn Gymraeg
Pa asesiad y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o effaith Deddfau Uno 1535-42 ar gyfansoddiad Cymru?
Joyce Watson Canolbarth a Gorllewin Cymru
Yn sgil Adolygiad Lammy, a wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am amrywiaeth yn y proffesiwn cyfreithiol yng Nghymru?
Simon Thomas Canolbarth a Gorllewin Cymru
4 OAQ51494 Wedi'i gyflwyno yn Gymraeg
Pa drafodaethau y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cynnal ynglŷn a gallu Llywodraeth Cymru i ddefnyddio ei grymoedd newydd o dan Ddeddf Cymru 2017?