R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan
buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif
gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol
1. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y defnydd y mae awdurdodau lleol yng Nghymru yn ei wneud o hysbysiadau cosb benodedig? OAQ(5)0148(FLG)
2. Hannah Blythyn (Delyn): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd bargen dwf gogledd Cymru? OAQ(5)0154(FLG)
3. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Beth oedd blaenoriaethau Ysgrifennydd y Cabinet wrth ddyrannu arian i brif grŵp gwariant cymunedau a phlant yng nghyllideb derfynol 2017-18? OAQ(5)0145(FLG)
4. David J Rowlands (Dwyrain De Cymru):A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am yr arbedion a ragwelir o ganlyniad i fodel newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer llywodraeth leol? OAQ(5)0147(FLG)
5. Dawn Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni):A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am dalu'r cyflog byw sylfaen gan awdurdodau lleol yng Nghymru? OAQ(5)0155(FLG)
6. Jeremy Miles (Castell-nedd): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i asesu gwydnwch gwasanaethau cyhoeddus datganoledig yn y dyfodol yn sgil polisi cyni parhaus Llywodraeth y DU? OAQ(5)0151(FLG)
7. Mark Reckless (Dwyrain De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y gyllideb a ddyrannwyd i bortffolio'r economi a'r seilwaith mewn perthynas â Chylchffordd Cymru? OAQ(5)0152(FLG)
8. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer datganoli trethi? OAQ(5)0146(FLG)
9. Hefin David (Caerffili):A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer craffu mewn llywodraeth leol? OAQ(5)0149(FLG)
10. Sian Gwenllian (Arfon): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddiwygio llywodraeth leol? OAQ(5)0157(FLG)W
11. Eluned Morgan (Canolbarth a Gorllewin Cymru):Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ynghylch darparu gwasanaethau lleol? OAQ(5)0156(FLG)
12. Lynne Neagle (Torfaen): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddyrannu cyllid i'r portffolio addysg? OAQ(5)0153(FLG)
13. Neil McEvoy (Canol De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am bolisïau trethi lleol Llywodraeth Cymru? OAQ(5)0150(FLG)
14. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddyfodol fformiwla Barnett yn dilyn y cytundeb rhwng Llywodraeth y DU a Phlaid yr Unoliaethwyr Democrataidd? OAQ(5)0158(FLG)W
Gofyn i Gomisiwn y Cynulliad
1. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd):Pa gynnydd y mae'r Cynulliad yn ei wneud o ran tyfu bwyd ar ei ystâd? OAQ(5)008(AC)R
2. Huw Irranca–Davies (Ogwr): A wnaiff y Comisiwn archwilio rhinweddau sefydlu cynllun lleoli Llywydd er mwyn gwella argaeledd interniaethau â thâl gydag Aelodau'r Cynulliad? OAQ(5)009(AC)