R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan
buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif
gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
1. Jeremy Miles (Castell-nedd): Pa gamau y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn eu cymryd i weithredu argymhellion Comisiwn Cwmnïau Cydweithredol a Chydfuddiannol Cymru yn ymwneud ag 'Addysg ar gyfer Cydweithredu'? OAQ(5)0132(EDU)
2. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gyfleoedd profiad gwaith i ddisgyblion? OAQ(5)0131(EDU)W
3. Lynne Neagle (Torfaen): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ei blaenoriaethau ar gyfer ysgolion yng Nghymru dros y chwe mis nesaf? OAQ(5)0139(EDU)
4. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i leihau'r pwysau ar lwyth gwaith athrawon yng Nghymru? OAQ(5)0134(EDU)
5. Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg yng Ngorllewin De Cymru? OAQ(5)0133(EDU)
6. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am newidiadau i'r cwricwlwm yng Nghymru yn y dyfodol? OAQ(5)0135(EDU)
7. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am lefel y cyllid ysgolion yng Nghymru? OAQ(5)0137(EDU)
8. Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd): Pa gynnydd sy'n cael ei wneud i annog mwy o bobl ifanc i ddarllen? OAQ(5)0138(FM)
9. Lynne Neagle (Torfaen): Pa gamau y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn eu cymryd i sicrhau bod ysgolion yng Nghymru yn hyrwyddo gwydnwch emosiynol ymysg plant a phobl ifanc? OAQ(5)0140(EDU)
10. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am lefel y cyllid ar gyfer ysgolion yng Nghaerdydd? OAQ(5)0141(EDU)
11. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau hyfywedd addysg uwch? OAQ(5)0142(EDU)W
12. Vikki Howells (Cwm Cynon): Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau y gall athrawon gefnogi addysg disgyblion yn effeithiol yn ystod y cyfnod pontio rhwng addysg gynradd ac uwchradd? OAQ(5)0136(EDU)
Gofyn i'r Cwnsler Cyffredinol
1. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o'r goblygiadau cyfreithiol i Gymru o ran gorfodi rheolau Sefydliad Masnach y Byd, yn absenoldeb cytundeb masnach rhwng Llywodraeth y DU a'r UE? OAQ(5)0041(CG)
2. Huw Irranca–Davies (Ogwr): Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael ynghylch y goblygiadau cyfreithiol i Gymru o ran y bwriad i sefydlu cronfa cyd-ffyniant gan Lywodraeth y DU? OAQ(5)0040(CG)
3. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cynnal mewn perthynas â dwyn holl ddarpariaethau Deddf Cymru 2017 i rym? OAQ(5)042(CG)W