R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan
buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif
gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
1. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y broses o gyflwyno Bagloriaeth Cymru? OAQ(5)0117(EDU)
2. Huw Irranca–Davies (Ogwr): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cymorth addysgol sy'n cael ei ddarparu i blant o deuluoedd sydd yn y lluoedd arfog yng Nghymru? OAQ(5)0113(EDU)
3. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella addysg yn Sir Benfro? OAQ(5)0114(EDU)
4.David Rees (Aberafan):Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo cryfderau addysg alwedigaethol ymysg pobl ifanc 14-16 oed? OAQ(5)0125(EDU)
5. Hannah Blythyn (Delyn): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddefnyddio technolegau digidol mewn ysgolion cynradd yng Nghymru? OAQ(5)0118(EDU)
6. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y newidiadau arfaethedig i'r broses o dderbyn disgyblion i ysgolion ym Mhowys o fis Medi 2017? OAQ(5)0121(EDU)
7. Rhianon Passmore (Islwyn): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y buddsoddiad y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i adeiladau ysgolion yn Islwyn? OAQ(5)0119(EDU)
8. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi dysgwyr sydd ag anghenion gofal iechyd? OAQ(5)0115(EDU)
9. Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am addysgu hanes yn ysgolion Cymru? OAQ(5)0116(EDU)
10. Jeremy Miles (Castell-nedd): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddarpariaeth chweched dosbarth yng Nghymru? OAQ(5)0126(EDU)
11.Steffan Lewis (Dwyrain De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddiogelwch disgyblion a myfyrwyr ar deithiau maes dramor? OAQ(5)0123(EDU)
12. David Rowlands (Dwyrain De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am leoli chweched dosbarth mewn un coleg canolog? OAQ(5)0128(EDU)
13. John Griffiths (Dwyrain Casnewydd): Pa gamau pellach y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn eu cymryd i wella perfformiad addysgol mewn ysgolion sy'n gwasanaethu cymunedau mwyaf difreintiedig Cymru? OAQ(5)0129(EDU)
14. Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y ffrwd Gymraeg yn Ysgol Uwchradd Aberhonddu? OAQ(5)0127(EDU)
15. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am addysgu ieithoedd tramor modern mewn ysgolion yng Nghymru? OAQ(5)0120(EDU)
Gofyn i'r Cwnsler Cyffredinol
1. Dawn Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni): Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o'r effaith a gaiff ffioedd tribiwnlysoedd cyflogaeth ar fynediad at gyfiawnder yng Nghymru? OAQ(5)0037(CG)
2. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): Beth yw asesiad y Cwnsler Cyffredinol o'r effaith a gaiff adroddiad y cyngor cyfiawnder ar ehangu amrywiaeth farnwrol ar Gymru? OAQ(5)0034(CG)
3. Jeremy Miles (Castell-nedd): Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o ran a oes gan y Cynulliad y cymhwysedd deddfwriaethol i wahardd y defnydd o gontractau dim oriau yng Nghymru? OAQ(5)0036(CG)
4. Lynne Neagle (Torfaen): Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o'r goblygiadau cyfreithiol i Gymru yn sgil ymchwiliad 2008 Comisiwn yr UE i arferion gwrth-gystadleuol gan y diwydiant fferyllol? OAQ(5)0035(CG)
5. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau y Mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’u cynnal gyda swyddogion y gyfraith ynghylch datganoli y gyfundrefn gyfiawnder? OAQ(5)0038(CG)W
6. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa asesiad y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’i wneud ynglyn af effaith deddfwriaeth Ewropeaidd ynglyn a llygredd awyr ar Gymru? OAQ(5)0039(CG)W