Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 29 Mawrth 2017
 i'w hateb ar 5 Ebrill 2017

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig

1. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am lesiant anifeiliaid egsotig yng Nghymru? OAQ(5)0128(ERA)W

 

2. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu i hyrwyddo'r broses o gynhyrchu bwyd iachach? OAQ(5)0122(ERA)

 

3. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Sut y mae Llywodraeth Cymru yn helpu pobl sy'n byw mewn tlodi tanwydd yng Ngogledd Cymru? OAQ(5)0124(ERA)

 

4. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu'r sector amaethyddiaeth yng Nghymru? OAQ(5)0127(ERA)

 

5. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cynnal â Severn Trent ynghylch gwasanaethau dŵr yng Nghymru? OAQ(5)0125(ERA)W

 

6. Michelle Brown (Gogledd Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am safbwynt Llywodraeth Cymru o ran allforio anifeiliaid byw i gael eu lladd? OAQ(5)0130(ERA)

 

7. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Pa gynlluniau wrth gefn sydd ar waith i fynd i'r afael â'r posibilrwydd na fydd gan Lywodraeth y DU weithdrefnau yn eu lle i barhau â chymorthdaliadau ffermio'r UE ar ôl gadael yr UE?  OAQ(5)0126(ERA)

 

8. Gareth Bennett (Canol De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am effaith amgylcheddol defnyddio beiciau modur yn anghyfreithlon oddi ar y ffyrdd yng Nghymru? OAQ(5)0129(ERA)

 

9. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau allyriadau carbon? OAQ(5)0123(ERA)W

 

10. Dawn Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am drwyddedu siopau anifeiliaid anwes yng Nghymru? OAQ(5)0131(ERA) TYNNWYD YN ÔL

 

11. Lynne Neagle (Torfaen): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo i wella'r amgylchedd lleol yn Nwyrain De Cymru? OAQ(5)0132(ERA)

 

12. Leanne Wood (Rhondda): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau dyfodol ar gyfer ffermio yng Nghymru? OAQ(5)0133(ERA)

 

13. Vikki Howells (Cwm Cynon): Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella cyfraddau ailgylchu? OAQ(5)0120(ERA)

 

14. Lee Waters (Llanelli): Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ran datblygu strategaeth genedlaethol ar amaethyddiaeth fanwl? OAQ(5)0119(ERA)

 

15. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y system drwyddedu ar gyfer bridio a gwerthu anifeiliaid? OAQ(5)0121(ERA)

 

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

1. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn gallu ei gynnig i sicrhau bod pobl fyddar yn cael yr addasiadau perthnasol i'w cartrefi? OAQ(5)0130(CC)W

 

2. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Pa gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei darparu i'r sector gwirfoddol yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro? OAQ(5)0138(CC) TYNNWYD YN ÔL

 

3. Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd): Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o effaith Credyd Cynhwysol yng Nghymru? OAQ(5)0133(CC)

 

4. Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer adfywio yng Ngorllewin De Cymru? OAQ(5)0137(CC)

 

5. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa gefnogaeth sydd ar gael ar gyfer y gymuned Sipsiwn a Theithwyr yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ(5)0135(ERA)W

 

6. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am adeiladu cartrefi newydd i'w rhentu gan gynghorau Cymru? OAQ(5)0128(CC)

 

7. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ymestyn yr hawl i gael gofal plant am ddim? OAQ(5)0129(CC)

 

8. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael â gweinidogion cyfatebol yng Ngogledd Iwerddon a'r Alban ynghylch hawliadau a hawliau plant? OAQ(5)0136(CC)

 

9. Hefin David (Caerffili): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am drefniadau pontio ar gyfer Cymunedau yn Gyntaf? OAQ(5)0134(CC)

 

10. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu cynnydd o ran gwella'r broses o gasglu data ar gyfer rhaglenni cymunedau Llywodraeth Cymru? OAQ(5)0131(CC)

 

11. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro):A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer adfywio yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro? OAQ(5)0139(CC) TYNNWYD YN ÔL

 

12. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cyn-filwyr y lluoedd arfog yng Nghymru? OAQ(5)0127(CC)

 

13. David Rees (Aberafan): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi manylion y trafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael â'r Weinyddiaeth Gyfiawnder ynghylch lleoli carchar newydd ym Maglan? OAQ(5)0132(CC)

 

14. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi sefydliadau gwirfoddol ledled Cymru? OAQ(5)0125(CC)