R -
Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith
1. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am fanteision economaidd posibl morlyn llanw yng ngogledd Cymru? OAQ(5)0114(EI)
2. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu pa drafodaethau y mae wedi'u cael ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol mewn perthynas â thwf busnesau yng Nghymru? OAQ(5)0111(EI)
3. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am rôl twristiaeth ffydd? OAQ(5)0107(EI)
4. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd):Pa gynlluniau sydd gan Ysgrifennydd y Cabinet i leihau tagfeydd yng nghanol trefi? OAQ(5)0115(EI)
5. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd):Pa gynlluniau sydd gan Ysgrifennydd y Cabinet i wella mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer pobl anabl? OAQ(5)0116(EI)
6. Darren Millar (Gorllewin Clwyd):A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fuddsoddi mewn prosiectau seilwaith critigol yng ngogledd Cymru? OAQ(5)0105(EI)
7. Lynne Neagle (Torfaen):A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am fynediad pobl ifanc at drafnidiaeth? OAQ(5)0113(EI)
8. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd):Beth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud i gasglu mannau cychwyn a chyrchfannau'r 43 y cant o deithiau cerbydau o amgylch Casnewydd o lai na 20 milltir? OAQ(5)0104(EI)
9. David Melding (Canol De Cymru):Pa fesurau sydd yn eu lle i wella cynhyrchiant economi Cymru? OAQ(5)0109(EI)
10. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru):A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu ei flaenoriaethau ar gyfer gwella trafnidiaeth yn ne-ddwyrain Cymru yn 2017? OAQ(5)0101(EI)
11. Nathan Gill (Gogledd Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y seilwaith trafnidiaeth yng Ngogledd Cymru? OAQ(5)0106(EI)
12. Caroline Jones (Gorllewin De Cymru):Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella twristiaeth yng Ngorllewin De Cymru? OAQ(5)0112(EI)
13. Sian Gwenllian (Arfon):A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am weledigaeth y Llywodraeth ar gyfer datblygu economaidd teg ar draws Cymru? OAQ(5)0110(EI)W
14. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am welliannau seilwaith arfaethedig yn ninas-ranbarth Bae Abertawe? OAQ(5)0103(EI)
15. Nick Ramsay (Mynwy): Pa gamau y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn eu cymryd i gefnogi busnesau bach yn Sir Fynwy? OAQ(5)0108(EI)
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon
1. Nathan Gill (Gogledd Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y rhaglen wella ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr? OAQ(5)0109(HWS)
2. Lee Waters (Llanelli):Pa gynlluniau sydd gan Ysgrifennydd y Cabinet i ehangu'r amrywiaeth o weithwyr proffesiynol perthynol mewn gwasanaethau iechyd sylfaenol? OAQ(5)0108(HWS)
3. Neil McEvoy (Canol De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am wasanaethau meddygon teulu y tu allan i oriau yng Nghanol De Cymru? OAQ(5)0099(HWS)
4. Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd): Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud ar y cynnydd i leihau nifer y bobl a gaiff eu derbyn i'r ysbyty yn dilyn damweiniau ac achosion brys? OAQ(5)0102(HWS)
5. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu i leihau nifer yr achosion o gamddefnyddio alcohol yng Nghymru? OAQ(5)0106(HWS)
6. Caroline Jones (Gorllewin De Cymru): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau amseroedd aros ysbytai yng Ngorllewin De Cymru? OAQ(5)0114(HWS)
7. Michelle Brown (Gogledd Cymru):Pa gynnydd sy'n cael ei wneud gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr mewn cysylltiad ag amseroedd aros yn ymwneud â chanser? OAQ(5)0105(HWS)
8. Mark Reckless (Dwyrain De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am pa gyfran o feddygon teulu a gaiff eu cyflogi'n uniongyrchol gan fyrddau iechyd lleol? OAQ(5)0103(HWS)
9. Paul Davies (Preseli Sir Benfro):Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella gwasanaethau iechyd yn Sir Benfro? OAQ(5)0098(HWS)
10. Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am yr amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda? OAQ(5)0104(HWS)
11. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am yr amseroedd aros presennol ar gyfer triniaeth orthopedeg yng Nghymru? OAQ(5)0115(HWS)
12. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am asesiadau risg byrddau iechyd lleol? OAQ(5)0112(HWS)W
13. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo pobl yng Nghymru sydd â dementia? OAQ(5)0100(HWS)
14. Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drefniadau ymyriadau wedi'u targedu sy'n gymwys i Fwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg? OAQ(5)0101(HWS)
15. Leanne Wood (Rhondda):A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y driniaeth a gaiff ei chynnig gan y GIG i gleifion sydd â sglerosis ymledol? OAQ(5)0111(HWS)