R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y cwestiwn mewn
cromfachau)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effaith cau banciau ar fusnesau Cymru? OAQ(5)0322(FM)W
2. Neil McEvoy (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am Adran 68 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004? OAQ(5)0318(FM)
3. Leanne Wood (Rhondda): Pa fentrau y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio arnynt i fynd i'r afael â’r newid yn yr hinsawdd? OAQ(5)0316(FM)
4. Steffan Lewis (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gydlyniant cymunedol? OAQ(5)0309(FM)
5. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisi amaeth Llywodraeth Cymru yn sgil y penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd? OAQ(5)0320(FM)W
6. Gareth Bennett (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyllid ar gyfer Metro De Cymru? OAQ(5)0317(FM)
7. Huw Irranca–Davies (Ogwr): A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am berfformiad y gwasanaeth ambiwlans yn ne Cymru? OAQ(5)0311(FM)
8. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi ffermwyr yn Sir Benfro? OAQ(5)0308(FM)
9. Lynne Neagle (Torfaen): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr arian cyfalaf ychwanegol a bydd Llywodraeth Cymru yn ei gael yn dilyn y cyhoeddiad yn Natganiad yr Hydref Llywodraeth y DU? OAQ(5)0323(FM)
10. Rhianon Passmore (Islwyn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyflymder presennol band eangar gyfer ysgolion yn Islwyn? OAQ(5)0319(FM)
11. David Melding (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn cael ei hintegreiddio i waith Llywodraeth Cymru? OAQ(5)0307(FM)
12. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o gynigion i ad-drefnu Cyllid a Thollau EM yng Nghymru? OAQ(5)0324(FM)
13. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyllid canlyniadol Barnett i Gymru o ganlyniad i Ddatganiad yr Hydref? OAQ(5)0313(FM)
14. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi twf busnesau yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ(5)0325(FM)
15. Jeremy Miles (Castell-nedd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddatblygu cadwyni cyflenwi lleol yng Nghastell-nedd? OAQ(5)0315(FM)