R -
Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith
1. Lynne Neagle (Torfaen):A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd o ran Cylchffordd Cymru? OAQ(5)0092(EI)
2. Sian Gwenllian (Arfon):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymdrechion y llywodraeth i gefnogi busnesau bach yn Arfon? OAQ(5)0089(EI)W
3. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru):Sut y bydd y polisïau yn rhaglen Llywodraeth Cymru, 'Symud Cymru Ymlaen', yn gwella gwasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru? OAQ(5)0077(EI)
4. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith bancio stryd fawr ar fusnesau yn Ynys Môn? OAQ(5)0090(EI)W
5. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer seilwaith yn sgil Datganiad yr Hydref y Canghellor? OAQ(5)0083(EI)
6. Lee Waters (Llanelli):Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith bosibl y pedwerydd chwyldro diwydiannol ar swyddi yng Nghymru? OAQ(5)0088(EI)
7. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am adeiladau rhestredig gradd 1 yng Nghymru? OAQ(5)0079(EI)
8. Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am hyrwyddo celf a diwylliant Cymru dramor? OAQ(5)0093(EI)
9. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun Cyflymu Cymru? OAQ(5)0095(EI)
10. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am nifer yr ymwelwyr o dramor â Chymru dros y pum mlynedd diwethaf? OAQ(5)0082(EI)
11. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr ystyriaeth y mae wedi'i rhoi i ganolbarth Cymru wrth lunio strategaeth economaidd newydd Llywodraeth Cymru? OAQ(5)0087(EI)
12. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarpariaeth signal symudol yng Nghymru? OAQ(5)0094(EI)W
13. Mark Reckless (Dwyrain De Cymru):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bwerau priodol unigol Llywodraethau Cymru a'r DU o ran tollau pontydd Hafren ar ôl eu dychwelyd i'r sector cyhoeddus? OAQ(5)0084(EI)
14. Paul Davies (Preseli Sir Benfro):A wnaiff y Gweinidog amlinellu polisïau economaidd Llywodraeth Cymru ar gyfer Sir Benfro? OAQ(5)0078(EI)
15. Mark Isherwood (Gogledd Cymru):Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gwella rhagolygon o ran cyflogaeth yng Nghymru? OAQ(5)0080(EI)
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon
1. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am anhwylderau cysgu nad ydynt yn ymwneud ag anadlu? OAQ(5)0092(HWS)W
2. Leanne Wood (Rhondda):A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith parhaus i sicrhau gofal cyfartal ar gyfer cleifion y GIG ledled Cymru? OAQ(5)0093(HWS)
3. David Melding (Canol De Cymru):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am argaeledd cynlluniau mân anhwylderau mewn fferyllfeydd yng Nghanol De Cymru? OAQ(5)0078(HWS)
4. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wasanaethau orthodonteg yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda? OAQ(5)0094(HWS)W
5. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y ddarpariaeth gofal mewn unedau mân anafiadau yng Ngorllewin De Cymru? OAQ(5)0087(HWS) TYNNWYD YN ÔL
6. Steffan Lewis (Dwyrain De Cymru):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wasanaethau bydwreigiaeth yng Nghymru? OAQ(5)0079(HWS)
7. Sian Gwenllian (Arfon):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynnydd cynllun ysgol feddygol Bangor? OAQ(5)0088(HWS)W
8. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y camau y mae'n eu cymryd i wella safon gwasanaethau'r GIG yng Nghanol De Cymru? OAQ(5)0089(HWS)
9. Dawn Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am unrhyw drafodaethau a gynhaliwyd â byrddau iechyd ynghylch defnydd mwy diogel o feddyginiaethau presgripsiwn? OAQ(5)0086(HWS)
10. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe):A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen 'Cydweithrediad Rhanbarthol ar gyfer Iechyd'? OAQ(5)0080(HWS)
11. Hefin David (Caerffili): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi pobl yng Nghymru sydd â haemoffilia ar ôl cael eu heintio o ganlyniad i driniaeth hanesyddol â gwaed a chynnyrch gwaed halogedig y GIG? OAQ(5)0090(HWS)
12. Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu gofal cymdeithasol ar gyfer pobl anabl? OAQ(5)0091(HWS)
13. Mark Isherwood (Gogledd Cymru):Sut y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â'r heriau allweddol i'r gwasanaethau iechyd yng Nghymru? OAQ(5)0082(HWS)
14. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wasanaethau iechyd meddwl yn Sir Fynwy? OAQ(5)0084(HWS)
15. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Sut y bydd y polisïau yn rhaglen Llywodraeth Cymru, 'Symud Cymru Ymlaen', yn gwella iechyd plant yng Nghymru? OAQ(5)0081(HWS)