R -
Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am addysg mewn ysgolion cynradd yn Sir Benfro? OAQ(5)0050(EDU) TYNNWYD YN ÔL
2. Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru):A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr heriau sy'n wynebu Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru yn Ninbych-y-pysgod, sydd newydd gael ei hadeiladu? OAQ(5)0058(EDU)
3. Hannah Blythyn (Delyn):A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am addysg wleidyddol a dinasyddiaeth mewn ysgolion? OAQ(5)0055(EDU)
4. Russell George (Sir Drefaldwyn):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i ysgolion cynradd dwyieithog yng nghanolbarth Cymru? OAQ(5)0054(EDU)
5. Vikki Howells (Cwm Cynon):Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o waith consortia rhanbarthol o ran gwella cyrhaeddiad addysgol yng Nghwm Cynon? OAQ(5)0052(EDU)
6. Steffan Lewis (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y gall myfyrwyr sydd ag anghenion addysgol arbennig, a'u teuluoedd, gael gafael ar gyngor cyfreithiol? OAQ(5)0051(EDU)
7. Rhianon Passmore (Islwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyflymder presennol band eang ar gyfer ysgolion yn Islwyn? OAQ(5)0059(EDU) TYNNWYD YN ÔL
8. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am addysg ar gyfer plant tair oed? OAQ(5)0057(EDU)
9. Caroline Jones (Gorllewin De Cymru):Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella canlyniadau addysgol pobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol? OAQ(5)0053(EDU)
10. Darren Millar (Gorllewin Clwyd):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr arolygiaeth ysgolion yng Nghymru? OAQ(5)0049(EDU)
11. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd):Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i adolygu'r gefnogaeth sydd ar gael i lywodraethwyr ysgolion? OAQ(5)0060(EDU)
Gofyn i'r Cwnsler Cyffredinol
1. Lee Waters (Llanelli): A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am hawl Llywodraeth Cymru i ymyrryd yn yr achos yn ymwneud ag Erthygl 50 yn y Goruchaf Lys? OAQ(5)0011(CG)
2. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cynnal gyda swyddogion y gyfraith ynglŷn â Bil Cymru? OAQ(5)0013(CG)W
3. Jeremy Miles (Castell-nedd): Pa asesiad y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o effaith tebygol Bil Diddymu Mawr Llywodraeth y DU ar ddeddfwriaeth Cymru? OAQ(5)0012(CG)
4. Hannah Blythyn (Delyn): Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o effaith y Ddeddf Hawliau Dynol ar ddeddfwriaeth Cymru? OAQ(5)0010(CG)
5. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad ynglŷn â'i gyfraniad i achos apêl Erthygl 50 gerbron y Goruchaf Lys? OAQ(5)0014(CG)W
6. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): Pa sylwadau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u gwneud i Lywodraeth y DU ynghylch effaith y newidiadau arfaethedig i ymgyfreitha sifil a llysoedd hawliadau bychain? OAQ(5)0008(CG)
7. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael ynghylch hyrwyddo cydraddoldeb rhywiol yn y proffesiwn cyfreithiol yng Nghymru? OAQ(5)0009(CG)