Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 9 Tachwedd 2016
 i'w hateb ar 16 Tachwedd 2016

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

 

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

 

1. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei werthusiad o weithio mewn partneriaeth o fewn Cymunedau yn Gyntaf? OAQ(5)0065(CC)

 

2. Nick Ramsay (Mynwy):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymestyn gofal plant am ddim? OAQ(5)0067(CC)

 

3. Rhianon Passmore (Islwyn):Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynyddu'r cyflenwad o dai cymdeithasol a fforddiadwy ac ansawdd y tai hynny? OAQ(5)0071(CC)

 

4. Russell George (Sir Drefaldwyn):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am allu staff Rhentu Craff Cymru i ymateb i ymholiadau gan aelodau o'r cyhoedd? OAQ(5)0060(CC)

 

5. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei strategaethau ar gyfer gwella cyfleusterau chwarae i blant ledled Cymru? OAQ(5)0066(CC)

 

6. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru):A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen Cymunedau am Waith? OAQ(5)0068(CC)

 

7. John Griffiths (Dwyrain Casnewydd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bwysigrwydd canolfannau cymuned o ran datblygu cymunedol yng Nghymru? OAQ(5)0069(CC)

 

8. Darren Millar (Gorllewin Clwyd):Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hyrwyddo rhianta cadarnhaol? OAQ(5)0058(CC)

 

9. Jeremy Miles (Castell-nedd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wydnwch gwasanaethau gofal plant a gaiff eu darparu gan fentrau cymdeithasol? OAQ(5)0073(CC)

 

10. Darren Millar (Gorllewin Clwyd):A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn cael ei wireddu? OAQ(5)0057(CC)

 

11. Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr ymgais i adfywio'r Kingsway yn Abertawe fel canolfan fusnes a chyflogaeth? OAQ(5)0062(CC)

 

12. Russell George (Sir Drefaldwyn):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am adfywio Dyffryn Hafren? OAQ(5)0061(CC)

 

13. Rhianon Passmore (Islwyn):A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leddfu effaith andwyol y cap ar fudd-daliadau Llywodraeth y DU? OAQ(5)0070(CC)

 

14. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am safbwynt presennol Llywodraeth Cymru o ran Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn? OAQ(5)0064(CC)

 

15. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y nifer o blant sy'n byw mewn tlodi? OAQ(5)0072(CC)W