R -
Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig
1. Vikki Howells (Cwm Cynon): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi ffermwyr yng Nghwm Cynon? OAQ(5)0042(ERA)
2. Darren Millar (Gorllewin Clwyd):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y risg o lifogydd yng Ngorllewin Clwyd? OAQ(5)0040(ERA)
3. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer cymunedau gwledig ledled Canol De Cymru yn y Pumed Cynulliad? OAQ(5)0041(ERA)
4. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fio-ddiogelwch ar ffermydd Cymru? OAQ(5)0044(ERA)W
5. Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o gostau a manteision tebygol cydymffurfio â'r gyfarwyddeb nitradau ar gyfer busnesau unigol yn yr ardaloedd dynodedig arfaethedig? OAQ(5)0046(ERA)
6. John Griffiths (Dwyrain Casnewydd): Pa gamau fydd yn cael eu cymryd i ehangu mynediad i awyr agored gwych Cymru? OAQ(5)0049(ERA)
7. Lynne Neagle (Torfaen):Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd mewn perthynas ag arddangosfeydd symudol o anifeiliaid, gan gynnwys anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol? OAQ(5)0052(ERA)
8. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymchwiliad Cyfoeth Naturiol Cymru i'r tân yn safle South Wales Wood Recycling ger Heol y Cyw? OAQ(5)0039(ERA)
9. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith amgylcheddol cynlluniau'r Grid Cenedlaethol ar draws Ynys Môn? OAQ(5)0050(ERA)W
10. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am flaenoriaethau ariannu Llywodraeth Cymru ar gyfer cefnogi arfordir Cymru? OAQ(5)0048(ERA)
11. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynllun morol cenedlaethol i Gymru? OAQ(5)0043(ERA)W
12. Steffan Lewis (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am brosiectau ailgylchu yn Nwyrain De Cymru? OAQ(5)0036(ERA)
13. Caroline Jones (Gorllewin De Cymru):A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y bydd polisïau ynni Llywodraeth Cymru yn arwain at arallgyfeirio o ran y cymysgedd ynni? OAQ(5)0045(ERA)
14. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd):A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am wahardd defnyddio maglau yng Nghymru? OAQ(5)0047(ERA)
15. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y camau sy'n cael eu cymryd i rwystro afonydd rhag gorlifo? OAQ(5)0038(ERA)
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant
1. Lee Waters (Llanelli):A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fesurau i helpu pobl ifanc sy'n gadael gofal i gael mynediad at dai fforddiadwy? OAQ(5)0052(CC)
2. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Sut y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â thlodi yng Nghymru? OAQ(5)0039(CC)
3. Vikki Howells (Cwm Cynon): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella mynediad at chwarae i blant yng Nghwm Cynon? OAQ(5)0043(CC)
4. Hannah Blythyn (Delyn):A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau adfywio tai yng Nghymru? OAQ(5)0050(CC)
5. Janet Finch-Saunders (Aberconwy):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sicrhau na wahaniaethir yn erbyn pobl sy'n fyddar neu'n drwm eu clyw? OAQ(5)0054(CC)
6. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am Dechrau'n Deg? OAQ(5)0040(ERA)
7. Jeremy Miles (Castell-nedd): A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i'r YMCA yng Nghymru? OAQ(5)0050(CC)
8. John Griffiths (Dwyrain Casnewydd): Beth yw'r camau nesaf y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella profiadau blynyddoedd cynnar plant yng Nghymru? OAQ(5)0047(CC)R
9. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Sut y bydd y polisïau yn rhaglen Llywodraeth Cymru, 'Symud Cymru Ymlaen', yn gwella cymorth i gyn-filwyr yng Nghymru? OAQ(5)0037(CC)
10. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i gynyddu'r ddarpariaeth dai ar draws Canol De Cymru? OAQ(5)0042(CC)
11. Vikki Howells (Cwm Cynon): Beth yw blaenoriaethau'r Gweinidog ar gyfer hyrwyddo adfywio yng Nghwm Cynon? OAQ(5)0044(CC)
12. David Rees (Aberafan): A wnaiff y Gweinidog nodi blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer cefnogi'r sector gwirfoddol ledled Cymru yn y Pumed Cynulliad? OAQ(5)0051(CC)
13. Dawn Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni)A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fynd i'r afael â digartrefedd yng Nghymru? OAQ(5)0046(CC)
14. Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r gwahanol hawliau a roddir i denantiaid awdurdodau lleol a thenantiaid landlordiaid cymdeithasol cofrestredig? OAQ(5)0048(CC)
15. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Sut y bydd y polisïau yn rhaglen Llywodraeth Cymru, 'Symud Cymru Ymlaen', yn mynd i'r afael â chaethwasiaeth fodern yng Nghymru? OAQ(5)0038(CC)