R -
Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
1. Steffan Lewis (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ganllawiau diogelwch ar gyfer teithiau addysg dramor? OAQ(5)0020(EDU)
2. Eluned Morgan (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau i ymgynghori ar gynnig y Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru ynghylch wythnos ysgol anghymesur? OAQ(5)0031(EDU)
3. Mark Reckless (Dwyrain De Cymru): I ba raddau y mae Llywodraeth Cymru yn gwneud taliadau i ysgolion yn y sector preifat? OAQ(5)0033(EDU)
4. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ansawdd prydau ysgol yng Nghymru? OAQ(5)0028(EDU)
5. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am lefelau cyrhaeddiad yng Nghyfnodau Allweddol 1 - 3 mewn ysgolion yng Nghymru? OAQ(5)0021(EDU)
6. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y modd mae Estyn yn archwilio ysgolion yng Nghymru? OAQ(5)0019(EDU)
7. Siân Gwenllian (Arfon):A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ynghylch cynnydd Llywodraeth Cymru ar weithredu argymhellion adroddiad yr Athro Sioned Davies am ddysgu'r Gymraeg? OAQ(5)0023(EDU)W
8. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru):A wnaiff y Gweinidog nodi beth yw cynlluniau Llywodraeth Cymru o ran ymgorffori hyfforddiant iaith Gymraeg â chymwysterau galwedigaethol? OAQ(5)0024(EDU)
9. David Melding (Canol De Cymru): Pa fesurau sydd ar waith i wella presenoldeb mewn ysgolion, yn enwedig o ran disgyblion sy'n cael prydau ysgol am ddim? OAQ(5)0025(EDU)
10. Hannah Blythyn (Delyn): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am bob ymgais i fynd i'r afael â bwlio homoffobig, deuffobig a thrawsffobig mewn ysgolion? OAQ(5)0027(EDU)
11. Eluned Morgan (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y deunyddiau dysgu rhithwir newydd a fydd ar gael drwy'r fframwaith cymhwysedd digidol? OAQ(5)0032(EDU)
12. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei chynlluniau i ddatblygu addysg gynradd yng Nghanol De Cymru? OAQ(5)0029(EDU)
13. Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynghylch a ddylai pob plentyn gael yr hawl i fynychu ysgol ramadeg? OAQ(5)0030(EDU)
14. Darren Millar (Gorllewin Clwyd):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr adolygiad o bolisi Llywodraeth Cymru ar leoedd sydd dros ben mewn ysgolion? OAQ(5)0022(EDU)
15. Huw Irranca–Davies (Ogwr): Pa asesiad o gynnydd y mae'r Gweinidog wedi'i wneud gyda Her Ysgolion Cymru yn etholaeth Ogwr OAQ(5)0026(EDU)
1. Jeremy Miles (Castell-nedd): Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael â chymheiriaid yn y DU ynghylch Erthygl 50? OAQ(4)0003(CG)
2. Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd):Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru o ran amddiffyn adnoddau morol naturiol? OAQ(5)0004(CG)