R -
Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol
1. David Melding (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y broses i sefydlu meiri etholedig yng Nghymru? OAQ(5)0019(FLG)
2. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gyllideb a ddyrannwyd i'r portffolio economi a'r seilwaith mewn perthynas â chymorth busnes ym mhob un o'r 3 blynedd diwethaf? OAQ(5)0024(FLG)
3. Steffan Lewis (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y panel cynghori allanol i adael yr UE? OAQ(5)0031(FLG)
4. Sian Gwenllian (Arfon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i sicrhau bod awdurdodau lleol yn cyrraedd eu targedau? OAQ(5)0022(FLG)W
5. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer ariannu llywodraeth leol yn ystod y Pumed Cynulliad? OAQ(5)0026(FLG)
6. Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygu bargen ddinesig ar gyfer dinas-ranbarth Bae Abertawe? OAQ(5)0027(FLG)
7. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am berfformiad cynghorau Cymru? OAQ(5)0021(FLG)
8. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog amlinellu a yw Llywodraeth Cymru yn darparu canllawiau ai peidio i awdurdodau lleol ynghylch caffael cotractau rheoli gwastraff? OAQ(5)0023(FLG)
9. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyraniad cyffredinol y gyllideb i bortffolio Amgylchedd a Materion Gwledig? OAQ(5)0018(FLG)
10. Hannah Blythyn (Delyn): A wnaiff y Gweinidog fynd i'r afael â diwygio cyllid llywodraeth leol ochr yn ochr ag unrhyw gynlluniau ad-drefnu? OAQ(5)0028(FLG)
11. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd):Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael ynghylch adolygu fformiwla Barnett? OAQ(5)0029(FLG)
12. Steffan Lewis (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei asesiad o ddyfodol cronfeydd strwythurol yr UE? OAQ(5)0030(FLG)
13. Lynne Neagle (Torfaen): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael ynghylch dyraniadau cyllideb i'r portffolio Cymunedau a Phlant? OAQ(5)0025(FLG)
14. Neil McEvoy (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am setliad ariannol llywodraeth leol? OAQ(5)0020(FLG)