R -
Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig
1. Nathan Gill (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru i rwystro taflu sbwriel yng Nghymru? OAQ(5)0025(ERA)
2. Jeremy Miles (Castell-nedd): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am raglen ynni lleol Llywodraeth Cymru? OAQ(5)0028(ERA)
3. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effeithlonrwydd TAN1? OAQ(5)0024(ERA)
4. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bysgota am gregyn bylchog ym Mae Ceredigion? OAQ(5)0029(ERA)W
5. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Pa gamau y gall y Gweinidog eu cymryd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol canlyniadol ar yr amgylchedd a gaiff eu hachosi gan ddatblygiadau busnes? OAQ(5)0020(ERA)
6. Lee Waters (Llanelli): Pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud mewn perthynas ag amaeth manwl? OAQ(5)0030(ERA)
7. John Griffiths (Dwyrain Casnewydd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru i wella'r amgylchedd yng nghanol ardaloedd trefol yng Nghymru? OAQ(5)0026(ERA)
8. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Sut mae Llywodraeth Cymru yn annog creu ardaloedd coediog yng Nghymru? OAQ(5)0022(ERA)
9. Hefin David (Caerffili): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am effeithiau posibl y bleidlais ar refferendwm yr UE ar gefnogaeth i'r diwydiant bwyd a diod yng Nghymru? OAQ(5)0031(ERA)
10. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am Gynllun Gweithredu Fframwaith Cymru ar Iechyd a Lles Anifeiliaid? OAQ(5)0034(ERA)W / R
11. Caroline Jones (Gorllewin De Cymru) Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella ansawdd aer yng Ngorllewin De Cymru? OAQ(5)0018(ERA)
12. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am lefelau ailgylchu yng Nghymru? OAQ(5)0033(ERA)W
13. Hannah Blythyn (Delyn): A wnaiff y Gweinidog amlinellu beth sy'n cael ei wneud i gefnogi'r sector ffermio o gofio'r ansicrwydd yn dilyn y bleidlais i adael yr UE? OAQ(5)0021(ERA)
14. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i wella'r gefnogaeth i ffermwyr yn y Pumed Cynulliad? OAQ(5)0019(ERA)
15. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth yw asesiad y Gweinidog o adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru ym mis Gorffennaf 2016 ar reoli llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru? OAQ(5)0032(ERA)
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant
1. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ardaloedd adfywio strategol? OAQ(5)0022(CC)
2. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer sicrhau ymgysylltiad cymunedol effeithiol? OAQ(5)0026(CC)
3. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddatblygu canolfannau cymunedol? OAQ(5)0019(CC)
4. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau mae’r Gweinidog wedi’u cynnal ynglŷn â deddfwriaeth fyddai’n sicrhau bod plant yn cael eu hamddiffyn yn yr un ffordd ag oedolion rhag ymosodiadau corfforol? OAQ(5)0035(CC)W
5. David Rees (Aberafan): A wnaiff y Gweinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru wrth fynd i'r afael â threchu tlodi plant yng Ngorllewin De Cymru? OAQ(5)0021(CC)
6. Leanne Wood (Rhondda): Pa ystyriaethau y mae'r Gweinidog wedi'u rhoi i'r effaith a gaiff gadael yr UE ar hawliau pobl ifanc yng Nghymru? OAQ(5)0033(CC)
7. Mark Reckless (Dwyrain De Cymru): A wnaiff Llywodraeth Cymru barhau i flaenoriaethu darpariaeth gofal plant mewn meithrinfeydd sy'n gysylltiedig ag ysgolion dros feithrinfeydd preifat? OAQ(5)0036(CC)
8. David Rees (Aberafan): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael â gweinidogion cyfatebol yn San Steffan ynghylch cyllid adfywio yn dilyn y penderfyniad i adael yr UE? OAQ(5)0027(CC)
9. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am strategaeth Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi plant yng ngoleuni argymhellion adroddiad Sefydliad Joseph Rowntree yr wythnos diwethaf, We Can Solve Poverty in the UK? OAQ(5)0034(CC)
10. Lynne Neagle (Torfaen): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am effaith diwygiadau lles Llywodraeth y DU ar Gymru? OAQ(5)0030(CC)
11. Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu lleoedd llewyrchus llawn addewid yng Ngorllewin De Cymru? OAQ(5)0020(CC)
12. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am denantiaethau masnachol a gaiff eu gosod gan awdurdodau lleol? OAQ(5)0023(CC)
13. Nathan Gill (Gogledd Cymru): Beth yw cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer adfywio yn ystod y Pumed Cynulliad? OAQ(5)0025(CC)
14. Steffan Lewis (Dwyrain De Cymru): Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith ar ei blaenoriaethau polisi yn ymwneud â phlant a phobl ifanc pe bai'n ennill pwerau ychwanegol dros blismona a chyfiawnder troseddol? OAQ(5)0024(CC)
15. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun 10 mlynedd arfaethedig ar gyfer y gweithlu blynyddoedd cynnar, gofal plant a chwarae yng Nghymru? OAQ(5)0032(CC)