Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 15 Mehefin, 2016
i'w hateb ar 22 Mehefin 2016

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

 

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig

1. Sian Gwenllian (Arfon):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynglŷn â rôl prosiectau ynni cymunedol fel rhan o strategaeth newid hinsawdd Llywodraeth Cymru? OAQ(5)0014(ERA)W

 

2. Darren Millar (Gorllewin Clwyd):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gamau sy'n cael eu cymryd i leihau'r risg o lifogydd yng Ngorllewin Clwyd? OAQ(5)0005(ERA)

 

3. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â TB mewn gwartheg? OAQ(5)0002(ERA)W

 

4. Rhianon Passmore (Islwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y pwysigrwydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi ar sicrhau bod amgylchedd ffisegol Cymru yn agored i bawb? OAQ(5)0008(ERA)

 

5. Neil McEvoy (Canol De Cymru): Sut y bydd cynllun datblygu lleol Caerdydd yn gwella'r amgylchedd lleol? OAQ(5)0006(ERA)

 

6. Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am pa mor bwysig yw cymorthdaliadau cyhoeddus i ffermwyr Cymru? OAQ(5)0009(ERA)

 

7. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn):A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar y cynllun datblygu gwledig? OAQ(5)0012(ERA)W

 

8. Rhianon Passmore (Islwyn):A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod awdurdodau lleol yn cynnal lefelau ansawdd aer? OAQ(5)0010(ERA)

 

9. Vikki Howells (Cwm Cynon):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddulliau Llywodraeth Cymru o atal llifogydd yng Nghwm Cynon? OAQ(5)0007(ERA)

10. John Griffiths (Dwyrain Casnewydd):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad yn amlinellu pa strategaeth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei dilyn i gynyddu bioamrywiaeth yng Nghymru? OAQ(5)0011(ERA)

 

11. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru):A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y digwyddiad pan lifodd biswail i lednant afon Taf yn Sir Gaerfyrddin ym mis Mai, gan ladd 230 o bysgod? OAQ(5)0016(ERA)

 

12. Andrew RT Davies (Canol De Cymru):  A wnaiff y Gweinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer materion gwledig yn y pumed Cynulliad? OAQ(5)0004(ERA)R

 

13. Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am lefelau llygredd traffig mewn ardaloedd gwledig? OAQ(5)0013(ERA)

 

14. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd):A wnaiff y Gweinidog gadarnhau nad oes rhwystrau statudol yn atal cyflwyno deddfwriaeth Gymreig i wahardd defnyddio maglau yng Nghymru? OAQ(5)0017(ERA)

 

15. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fwriadau'r Llywodraeth i ddwysáu ymdrechion i amddiffyn rhywogaethau sydd o dan fygythiad? OAQ(5)0015(ERA)W

 

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

1. Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o ran dyfodol mentrau adfywio cymunedol pe bai'r DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd? OAQ(5)0013(CC)

 

2. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynglŷn â deddfwriaeth yn ymwneud â chael gwared ar amddiffyniad Cosb Resymol? OAQ(5)0012(CC)W

 

3. Steffan Lewis (Dwyrain De Cymru): Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael ynghylch effaith newidiadau i nawdd cymdeithasol ar gymunedau yng Nghymru? OAQ(5)0001(CC)

4. Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd):Sut y mae'r Gweinidog yn bwriadu gweithio gyda'r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn cymunedau yng Nghymru?  OAQ(5)0016(CC)

 

5. Mark Isherwood (Gogledd Cymru):Sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu mynd i'r afael â thlodi yng Nghymru? OAQ(5)0008(CC)

 

6. Vikki Howells (Cwm Cynon):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol y ddarpariaeth Dechrau'n Deg yng Nghwm Cynon? OAQ(5)0010(CC)

 

7. John Griffiths (Dwyrain Casnewydd): A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa strategaeth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei dilyn i fynd i'r afael â thlodi yn ystod y pumed Cynulliad? OAQ(5)0015(CC)

 

8. Hefin David (Caerffili):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi yng Nghaerffili? OAQ(5)0018(CC)

 

9. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei flaenoriaethau ar gyfer y portffolio cymunedau a phlant yn ystod y pumed Cynulliad? OAQ(5)0005(CC)

 

10. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am hynt y gwasanaethau mabwysiadu yng Nghymru? OAQ(5)0017(CC)

 

11. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyllid Teuluoedd yn Gyntaf? OAQ(5)0007(CC)W

 

12. David Melding (Canol De Cymru):Pa flaenoriaeth y bydd y Gweinidog yn ei rhoi ar bolisïau i wella canlyniadau ar gyfer plant sy'n derbyn gofal? OAQ(5)0003(CC)

 

13. Vikki Howells (Cwm Cynon):Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod tai yng Nghymru yn diwallu anghenion pobl anabl? OAQ(5)0009(CC)

 

14. Caroline Jones (Gorllewin De Cymru) A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyflwyno taliadau gwasanaeth ar gyfer tenantiaid tai cymdeithasol? OAQ(5)0011(CC)

 

15. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wasanaethau mabwysiadu yng Nghymru? OAQ(5)0004(CC)