R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi'r ymgyrch i gadw dydd Sul yn arbennig ('Keep Sunday Special')? OAQ(4)2712(FM)
2. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael ag amseroedd aros y GIG yng Nghanol De Cymru? OAQ(4)2711(FM)
3. Lindsay Whittle (Dwyrain De Cymru): Beth yw polisi presennol Llywodraeth Cymru ar gyllid ar gyfer hosbisau yng Nghymru? OAQ(4)2709(FM)
4. Gwenda Thomas (Castell-nedd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddatblygu busnesau sy'n allforio? OAQ(4)2702(FM)
5. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i helpu cleifion canser pancreatig yng Nghymru? OAQ(4)2707(FM)
6. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau iechyd meddwl yng ngogledd Cymru? OAQ(4)2714(FM)
7. Gwyn Price (Islwyn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cynnydd y mae'r GIG wedi'i wneud tuag at gynllun cyflawni ar gyfer strôc Llywodraeth Cymru ? OAQ(4)2708(FM)
8. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cymorth sydd ar gael i gymunedau yr effeithir arnynt gan ddatblygu ffermydd solar? OAQ(4)2705(FM)
9. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gymorth i ffermwyr Cymru o dan y cynllun datblygu gwledig? OAQ(4)2715(FM)W
10. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): Pa waith y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud tuag at gais gemau'r Gymanwlad? OAQ(4)2704(FM)
11. Christine Chapman (Cwm Cynon): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella iechyd pobl yng Nghwm Cynon? OAQ(4)2710(FM)
12. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Phrif Weinidog y DU ynghylch refferendwm yr UE? OAQ(4)2713(FM)
13. Keith Davies (Llanelli): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ymrwymiad Llywodraeth Cymru i drafnidiaeth gymunedol? OAQ(4)2716(FM)W
14. Elin Jones (Ceredigion):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyllido prifysgolion yn y flwyddyn ariannol 2016-17? OAQ(4)2703(FM)W
15. Mick Antoniw (Pontypridd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fanteision bod aelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd i Bontypridd a Thaf Elái? OAQ(4)2706(FM)