R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Sandy Mewies (Delyn):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i wella gwasanaethau triniaeth yn y gymuned ar gyfer pobl sy'n dioddef o gyflyrau llygaid, gan gynnwys dirywiad macwlaidd gwlyb sy'n gysylltiedig ag oedran? OAQ(4)2681(FM)
2. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y ddarpariaeth iechyd i bobl sydd â hemoffilia yng Nghymru? OAQ(4)2685(FM)R
3. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella economi Sir Benfro? OAQ(4)2670(FM)
4. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ail-fapio masnachfraint rheilffyrdd Cymru a'r Gororau? OAQ(4)2675(FM)
5. Altaf Hussain (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella'r broses o recriwtio a chadw meddygon yng Nghymru? OAQ(4)2673(FM)
6. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am economi rhanbarth bae Abertawe? OAQ(4)2669(FM)
7. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hyrwyddo twristiaeth yng Nghymru? OAQ(4)2674(FM)
8. David Rees (Aberafan):A wnaiff y Prif Weinidog wneud datganiad am y cynnydd a wnaed gan y tasglu a sefydlwyd yn dilyn y cyhoeddiad am golli swyddi yn Tata Steel ym Mhort Talbot? OAQ(4)2678(FM)
9. Mick Antoniw (Pontypridd):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am arloesi yn GIG Cymru? OAQ(4)2680(FM)
10. John Griffiths (Dwyrain Casnewydd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar fynediad i addysg uwch? OAQ(4)2684(FM)
11. Gwyn Price (Islwyn):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wariant y pen ar iechyd yng Nghymru? OAQ(4)2676(FM)
12. Aled Roberts (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyllid ar gyfer y iaith Gymraeg yn y dyfodol? OAQ(4)2677(FM)W
13. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol gwasanaethau iechyd yn Sir Benfro? OAQ(4)2683(FM)W
14. Alun Ffred Jones (Arfon):A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau atal llifogydd yn Arfon? AQ(4)2679(FM)W
15. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Sut y mae Llywodraeth Cymru yn helpu pobl sydd ag anhwylderau'r sbectrwm awtistig? OAQ(4)2672(FM)