R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru)Pa fesurau arbennig y maeLlywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi ffermwyr sy'n aros am daliadau o dan gynllun y taliad sylfaenol? OAQ(4)2657(FM)W
2. Altaf Hussain (Gorllewin De Cymru): Beth yw cynlluniau Llywodraeth Cymru i wella'r ddarpariaeth o ofal cymdeithasol yng Nghymru? OAQ(4)2661(FM)
3. Keith Davies (Llanelli): A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi ymhlith pobl hŷn yng Nghymru? OAQ(4)2665(FM)W
4. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effaith cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-17 ar brosiectau ymchwil prifysgolion? OAQ(4)2659(FM)
5. Gwyn Price (Islwyn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ynghylch a yw'n gyfansoddiadol bod Llywodraeth y DU yn gosod y Bil Undebau Llafur ar Gymru heb gydsyniad y Cynulliad hwn? OAQ(4)2656(FM)
6. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fanteision economaidd aelodaeth y DU o'r Undeb Ewropeaidd i Ganolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ(4)2667(FM)
7. Lynne Neagle (Torfaen): Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU am ddatganoli'r lwfans gweini i Gymru? OAQ(4)2663(FM)
8. David Rees (Aberafan): Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd dros weddill tymor y Cynulliad hwn i ddatblygu economi Gorllewin De Cymru? OAQ(4)2662(FM)
9. Lindsay Whittle (Dwyrain De Cymru):Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ostwng lefelau gordewdra ymhlith plant yng Nghymru? OAQ(4)2652(FM)
10. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y dulliau a ddefnyddir gan Lywodraeth Cymru i asesu ei pherfformiad yn erbyn y camau gweithredu a nodwyd yn y rhaglen lywodraethu? OAQ(4)2658(FM)
11. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fancio mewn ardaloedd gwledig? OAQ(4)2664(FM)W
12. Mick Antoniw (Pontypridd):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y camau a gymerwyd o fewn ardal Taf Elái i drechu tlodi? OAQ(4)2653(FM)
13. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddarparu adroddiad cynnydd ar y camau gweithredu a nodir yn y cynllun cyflawni interim ar anhwylderau’r sbectrwm awtistig ar gyfer 2015-16, a gyhoeddwyd ym mis Mai y llynedd? OAQ(4)2651(FM)
14. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu ei flaenoriaethau mewn perthynas â bargen dinas r Caerdydd? OAQ(4)2655(FM)
15. Gwenda Thomas (Castell-nedd):Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i godi ymwybyddiaeth o berygl llyncdyllau? OAQ(4)2650(FM)