R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan
buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif
gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
Gofyn i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
1. Elin Jones (Ceredigion): Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o sgîl-effaith debygol y toriadau arfaethedig i'r cyllid i gefnogi cyhoeddi llyfrau ar y diwydiant cyhoeddi ac argraffu? OAQ(4)0661(EST)W
2. Gwenda Thomas (Castell-nedd):Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu amgueddfeydd i gyflawni statws achrediad? OAQ(4)0655(EST)
3. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y camau a gymerwyd i gynorthwyo datblygiad busnesau ym Mhort Talbot? OAQ(4)0660(EST)
4. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am barodrwydd ar gyfer y gaeaf ar draws seilwaith trafnidiaeth Cymru? OAQ(4)0659(EST)
5. Nick Ramsay (Mynwy):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddiogelwch ffordd gyswllt yr A466 yng Nghas-gwent? OAQ(4)0658(EST)
6. Keith Davies (Llanelli):A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddinas-ranbarth bae Abertawe? OAQ(4)0669(EST)
7. Altaf Hussain (Gorllewin De Cymru): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi’r diwydiant dur yng Nghymru? OAQ(4)0666(EST)
8. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effeithiolrwydd ardaloedd menter yng Nghanol De Cymru? OAQ(4)0662(EST)
9. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cynnal ynglŷn â datblygu economi tref Caerfyrddin? OAQ(4)0668(EST)W
10. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y datblygiad SA1 yn Abertawe? OAQ(4)0657(EST)
11. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddatganiad am ddatblygu polisi gwyddoniaeth yng Nghymru? OAQ(4)0665(EST)
12. Gwyn Price (Islwyn): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer busnesau bach? OAQ(4)0663(EST)
13. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am hyrwyddo'r economi forol yng Nghymru? OAQ(4)0667(EST)
14. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr isadeiledd trafnidiaeth o fewn rhanbarth bae Abertawe? OAQ(4)0656(EST)
15. Gwyn Price (Islwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i deithio llesol yng Nghymru? OAQ(4)0664(EST)
Gofyn i'r Cwnsler Cyffredinol
1. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru):Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion y gyfraith eraill ynglŷn â’r goblygiadau cyfreithiol i Gymru o'r Bil Undebau Llafur? OAQ(4)0091(CG)W
2. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru):Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cynnal gyda swyddogion y gyfraith eraill am y 'prawf angenrheidrwydd' ym Mil Cymru drafft? OAQ(4)0092(CG)W
3. Mick Antoniw (Pontypridd): Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gydag aelodau o'r proffesiwn cyfreithiol ynghylch cynnwys cyfrifoldeb am beiriannau hapchwarae ods sefydlog ym Mil Cymru drafft? OAQ(4)0089(CG)
4. Mick Antoniw (Pontypridd): Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda chydweithwyr yng Ngogledd Iwerddon a'r Alban am y Bil Undebau Llafur? OAQ(4)0090(CG)