Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 26 Tachwedd 2015 i'w hateb ar 1 Rhagfyr 2015

 

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

 

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

 

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

 

1. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru)A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effaith yr adolygiad o wariant Llywodraeth y DU ar y sector ynni adnewyddadwy yng Nghymru? OAQ(4)2613(FM)W

 

2. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu ei flaenoriaethau ar gyfer y GIG yng ngogledd Cymru? OAQ(4)2597(FM)

 

3. Lynne Neagle (Torfaen):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effaith bosibl adolygiad o wariant Llywodraeth y DU ar lywodraeth leol yng Nghymru? OAQ(4)2611(FM)

 

4. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am argaeledd gwasanaethau bws ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed? OAQ(4)2598(FM)

 

5. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu annog meddygon teulu i weithio yng nghanolbarth Cymru? OAQ(4)2602(FM)

 

6. Elin Jones (Ceredigion):Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU am ddyfodol S4C? OAQ(4)2606(FM)W

 

7. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Pa neges y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei chyfleu i uwchgynhadledd newid hinsawdd y Cenhedloedd Unedig ym Mharis? OAQ(4)2612(FM)

 

8. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am flaenoriaethau cyllidebol Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol?  OAQ(4)2608(FM)

 

9. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am brosiectau cyfalaf yn Nwyrain De Cymru? OAQ(4)2607(FM)

 

10. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod ei chanllawiau ar dryloywder ac atebolrwydd o fewn llywodraeth leol yn cael eu dilyn? OAQ(4)2600(FM)

 

11. Mick Antoniw (Pontypridd):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gysylltiadau trafnidiaeth ym Mhontypridd ac ardal Taf Elái? OAQ(4)2604(FM)

 

12. Alun Ffred Jones (Arfon):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am rôl Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru parthed arolygu safonau cartrefi nyrsio? OAQ(4)2609(FM)W

 

13. Janet Haworth (Gogledd Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i gefnogi cynlluniau ynni cymunedol yng Nghymru? OAQ(4)2605(FM)

 

14. Altaf Hussain (Gorllewin De Cymru): Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith y bydd ei chynigion ar gyfer llywodraeth leol yn ei chael ar ofal cymdeithasol? OAQ(4)2610(FM)

 

15. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): Pa waith ymgynghori y mae Llywodraeth Cymru wedi'i ymgymryd ag ef mewn perthynas â’r ardaloedd cynnyrch ehangach is a ddefnyddir yn y cyfrifiad? OAQ(4)2596(FM)