Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 19 Tachwedd 2015 i'w hateb ar 24 Tachwedd 2015

 

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

 

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

 

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

 

1. Altaf Hussain (Gorllewin De Cymru): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella'r seilwaith technoleg gwybodaeth sydd ar gael i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru? OAQ(4)2590(FM)

 

2. Christine Chapman (Cwm Cynon):Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella canlyniadau addysgol yng Nghwm Cynon? OAQ(4)2587(FM)

 

3. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Prif Weinidog nodi amserlen ar gyfer dychwelyd Maes Awyr Caerdydd i'r sector preifat? OAQ(4)2594(FM)

 

4. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am nifer y cleifion o Gymru sy'n cael triniaeth canser yn Lloegr? OAQ(4)2585(FM) TYNNWYD YN ÔL

 

5. Mick Antoniw (Pontypridd):Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â'r blaenoriaethau i Gymru yn natganiad hydref y Canghellor? OAQ(4)2579(FM)

 

6. Elin Jones (Ceredigion): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am Lyfrgell Genedlaethol Cymru? OAQ(4)2592(FM)W

 

7. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am baratoadau ar gyfer ffoaduriaid o Syria a fydd yn cyrraedd yng Nghymru? OAQ(4)2593(FM)

 

8. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella cyfraddau goroesi canser yng Nghymru? OAQ(4)2578(FM)

 

9. David Rees (Aberafan): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddenu meddygon i ddod i weithio yn y GIG yng Nghymru? OAQ(4)2595(FM)

 

10. Gwenda Thomas (Castell-nedd):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ymdrechion i hyrwyddo masnach ryngwladol i gwmnïau o Gymru? OAQ(4)2589(FM)

 

11. Keith Davies (Llanelli):Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch y Bil Undebau Llafur? OAQ(4)2588(FM)RW

 

12. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y broses o optio allan o roi organau yng Nghymru? OAQ(4)2582(FM)

 

13. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ffedereiddio ysgolion fel dewis amgen yn hytrach na'u cau ar raddfa eang? OAQ(4)2586(FM)

 

14. Aled Roberts (Gogledd Cymru):A yw Llywodraeth Cymru wedi derbyn unrhyw wybodaeth am gynlluniau ar gyfer y gaeaf oddi wrth Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a fyddai’n torri yn ôl ar driniaethau yn ystod y cyfnod hwnnw? OAQ(4)2591(FM)W

 

15. Janet Haworth (Gogledd Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyflwyno band eang cyflym iawn ar draws Gogledd Cymru? OAQ(4)2583(FM)