Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

 

Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn

 

Dydd Mawrth 29 Medi 2015 a dydd Mercher 30 Medi 2015

Dydd Mawrth 6 Hydref 2015 a dydd Mercher 7 Hydref 2015

Dydd Mawrth 13 Hydref 2015 a dydd Mercher 14 Hydref 2015

 

 

Dydd Mawrth 29 Medi 2015

 

Busnes y Llywodraeth

 

·         Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)

·         Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)

·         Dadl Cyfnod 3 ar y Bil Llywodraeth Leol (Cymru) o dan Reol Sefydlog 26.44 (180 munud)

Os bydd y Cynulliad yn cytuno ar y cynnig o dan Reol Sefydlog 26.36 caiff y gwelliannau eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn ymddangos yn y cynnig.  Os nad yw’r Cynulliad yn cytuno ar y cynnig, caiff y gwelliannau eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn ymddangos yn y Bil.

 

 

Dydd Mercher 30 Medi 2015

 

Busnes y Llywodraeth

 

·         Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud)

·         Cwestiynau i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau (45 munud)

 

 

Busnes y Cynulliad

 

·         Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Deisebau – Atal Recriwtio i’r Fyddin mewn Ysgolion (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

·         Dadl fer - Mark Isherwood (Gogledd Cymru) (30 munud)

 

Dydd Mawrth 6 Hydref 2015

 

Busnes y Llywodraeth

 

·         Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)

·         Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)

·         Datganiad gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol: Manteision a ddarperir drwy'r Rhaglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol (30 munud)

·         Datganiad gan y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi: Yr Argyfwng Ffoaduriaid (30 munud)

·         Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod y canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân: 

·         Rheoliadau Trawsblannu Dynol (Deunydd Perthnasol a Eithrir) (Cymru) 2015 – i'w gwneud o dan Adran 7 o'r Ddeddf (10 munud)

·         Rheoliadau Trawsblannu Dynol (Cynrychiolwyr Penodedig) (Cymru) 2015 – i'w gwneud o dan Adran 8 o'r Ddeddf (10 munud)

·         Rheoliadau Trawsblannu Dynol (Personau nad yw’r Galluedd Ganddynt i Gydsynio) (Cymru) 2015 – i'w gwneud o dan Adran 9 o'r Ddeddf (10 munud)

·         Cod Ymarfer yr Awdurdod Meinweoedd Dynol (10 munud)

·         Dadl Cyfnod 4 ar y Bil Llywodraeth Leol (Cymru) (15 munud)

 

 

Dydd Mercher 7 Hydref 2015

 

Busnes y Llywodraeth

 

·         Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol (45 munud)

·         Cwestiynau i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi (45 munud)

 

 

Busnes y Cynulliad

 

·         Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Deisebau – Deddfwriaeth Orfodol yng Nghymru i Sicrhau Bod Diffibrilwyr ar Gael Ym Mhob Man Cyhoeddus (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud)

·         Dadl Fer - Mike Hedges (Dwyrain Abertawe) (30 munud)

 

 

Dydd Mawrth 13 Hydref 2015

 

Busnes y Llywodraeth

 

·         Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)

·         Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)

·         Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth: Rhaglenni Cydweithio a Strategaeth Tiriogaethol Ewropeaidd (30 munud)

·         Datganiad gan y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi: Trechu Tlodi trwy Gymorth Cyflogadwyedd (30 munud)

·         Datganiad gan y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus: Cynllun Gweithredu Mentrau Cydweithredol a Chydfuddiannol (30 munud)

·         Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg: Gweithredu'r Strategaeth Gwaith Ieuenctid Cenedlaethol (30 munud)

·         Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Y Pŵer i Ddiystyru Hawddfreintiau a Cheisiadau gan Ymgymerwyr Statudol) (Cymru) 2015 (15 munud)

 

 

Dydd Mercher 14 Hydref 2015

 

Busnes y Llywodraeth

 

·         Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth (45 munud)

·         Cwestiynau i’r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus (45 munud)

 

Busnes y Cynulliad

 

·         Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar ei Ymchwiliad i Dlodi yng Nghymru - Tlodi ac Anghydraddoldeb (60 munud)

·         Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

·         Dadl Fer - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) (30 munud)