R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch bancio yng Nghymru? OAQ(4)2446(FM)
2. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella lles cyffredinol plant yng Nghymru? OAQ(4)2454(FM)
3. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr adroddiad diweddar a gyhoeddwyd gan y Sefydliad Diogelwch ar y Ffyrdd? OAQ(4)2450(FM)
4. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn ymdrin â methiannau yn system y GIG yng Nghymru? OAQ(4)2437(FM)
5. John Griffiths (Dwyrain Casnewydd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynnydd tuag at weithredu Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013? OAQ(4)2455(FM)
6. Jeff Cuthbert (Caerffili):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y mae Cymru'n cael budd o aelodaeth y Deyrnas Unedig o'r Undeb Ewropeaidd? OAQ(4)2447(FM)
7. Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd): Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda llywodraethau eraill yn y DU am effaith y digwyddiadau diweddar yng Ngogledd Iwerddon ar Gymru? OAQ(4)2445(FM)W
8. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cyflog byw? OAQ(4)2439(FM)
9. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU am gynnydd o ran datganoli pellach i Gymru? OAQ(4)2453(FM)
10. Sandy Mewies (Delyn):A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynllun cyflawni Llywodraeth Cymru ar gyfer gofal iechyd llygaid? OAQ(4)2452(FM)
10. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ei flaenoriaethau ar gyfer y GIG yn Nghanol De Cymru am weddill y pedwerydd Cynulliad? OAQ(4)2442(FM)
12. Keith Davies (Llanelli):Pa ystyriaeth y mae'r Prif Weinidog wedi'i rhoi i effaith adolygiad siarter y BBC ar Gymru? OAQ(4)2449(FM)W
13. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth y DU ar ffracio ac echdynnu methan gwely glo yng Nghymru? OAQ(4)2440(FM)
14. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ardrethu annomestig busnesau hunanarlwyo yng Nghymru? OAQ(4)2443(FM)
15. Gwyn Price (Islwyn):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am faint o swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu a leolir yn Islwyn? OAQ(4)2441(FM)