Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 10 Medi 2015 i'w hateb ar 15 Medi 2015

 

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

 

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

 

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

 

1. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ganlyniadau TGAU ysgolion sy'n dod o dan raglen Her Ysgolion Cymru? OAQ(4)2421(FM)

 

2. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â cham-drin plant yn rhywiol yng Nghymru? OAQ(4)2429(FM)

 

3. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisi gaffael cyhoeddus Llywodraeth Cymru? OAQ(4)2436(FM)

 

4. Ann Jones (Dyffryn Clwyd): A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymateb Cymru i argyfwng y ffoaduriaid o Syria? OAQ(4)2434(FM)

 

5. Sandy Mewies (Delyn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ei ymweliad diweddar â Japan? OAQ(4)2435(FM)

 

6. Jeff Cuthbert (Caerffili): Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddelio â'r argyfwng ffoaduriaid a dyngarol yn Ewrop? OAQ(4)2422(FM)

 

7. Lynne Neagle (Torfaen): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am raglen Ysgolion y 21ain Ganrif? OAQ(4)2427(FM)

 

8. Janet Haworth (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella cysylltedd band eang yng nghefn gwlad Cymru? OAQ(4)2432(FM)

 

9. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am Orchymyn Ardrethu Annomestig (Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2015? OAQ(4)2424(FM)

 

10. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol Dechrau'n Deg? OAQ(4)2419(FM)

 

10. Mick Antoniw (Pontypridd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fynediad i gyfiawnder yng Nghymru? OAQ(4)2420(FM)

 

12. John Griffiths (Dwyrain Casnewydd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am rôl Llywodraeth Cymru o ran derbyn ffoaduriaid o Syria yn dilyn cyhoeddiad diweddar Llywodraeth y DU y bydd y DU yn cymryd hyd at 20,000 o ffoaduriaid o Syria yn ystod oes senedd presennol y DU? OAQ(4)2430(FM)

 

13. Christine Chapman (Cwm Cynon): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi pobl sydd â chyfrifoldebau gofalu yng Nghymru? OAQ(4)2431(FM)

 

14. David Rees (Aberafan): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi diwydiannau gweithgynhyrchu yng Nghymru? OAQ(4)2423(FM)

 

15. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Pa effaith y bydd penderfyniad Llywodraeth y DU i gael gwared ar y rhwymedigaeth ddi-garbon ar gyfer cartrefi newydd yn ei chael ar gynlluniau Llywodraeth Cymru i greu cartrefi cynnes a fforddiadwy ledled Cymru? OAQ(4)2433(FM)