R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. John Griffiths (Dwyrain Casnewydd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am strategaeth wastraff Llywodraeth Cymru? OAQ(4)2413(FM)
2. Peter Black (Gorllewin De Cymru): Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch trydaneiddio'r brif linell rhwng Llundain ac Abertawe? OAQ(4)2403(FM)
3. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fuddsoddiad yn GIG Cymru? OAQ(4)2411(FM)
4. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru)A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol ynni gwynt ar y tir yng Nghymru? OAQ(4)2407(FM)W
5. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd yn 2015 i fynd i'r afael â cham-drin domestig yng Nghymru? OAQ(4)2416(FM)
6. Alun Ffred Jones (Arfon):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynnal gwasanaethau obstetreg dan arweiniad meddygon ymgynghorol ar safle'r tri ysbyty cyffredinol yng ngogledd Cymru? OAQ(4)2408(FM)W
7. Janet Haworth (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo twristiaeth yng Nghymru? OAQ(4)2404(FM)R
8. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am bolisïau Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygiadau ffermydd gwynt ar y tir? OAQ(4)2402(FM)
9. Ann Jones (Dyffryn Clwyd):Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effaith cyllideb Llywodraeth y DU ar deuluoedd yn Nyffryn Clwyd? OAQ(4)2410(FM)
10. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Beth yw'r arwyddocâd i Gymru o ganolfan rhagoriaeth gyntaf y DU ar gyfer lled-ddargludyddion cyfansawdd ym Mhrifysgol Caerdydd? OAQ(4)2418(FM)
11. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am hyfforddi nyrsys ar gyfer y sector gofal? OAQ(4)2415(FM)W
12. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol addysg uwchradd ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed yn sgil adroddiad Donaldson? OAQ(4)2406(FM)
13. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddatblygu economaidd yn Sir Fynwy? OAQ(4)2405(FM)
14. Mick Antoniw (Pontypridd):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr effaith y bydd cyllideb Llywodraeth y DU yn ei chael ar lefelau o dlodi yng Nghymru? OAQ(4)2414(FM)
15. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cynnydd a wnaed mewn perthynas â’r fargen dinas arfaethedig ar gyfer Caerdydd? OAQ(4)2417(FM)