R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Elin Jones (Ceredigion):Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer hyrwyddo twristiaeth yng ngorllewin Cymru? OAQ(4)2376(FM)W
2. Alun Ffred Jones (Arfon):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am strategaeth ganser Llywodraeth Cymru? OAQ(4)2370(FM)W
3. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddenu llongau gwyliau i Gymru? OAQ(4)2377(FM)W
4. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fynediad i ofal cynradd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ(4)2381(FM)
5. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod ei rhaglenni tlodi plant yn ymgysylltu'n llawn â rhieni? OAQ(4)2371(FM)
6. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed yng ngogledd Cymru? OAQ(4)2378(FM)
7. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol nodyn cyngor technegol 8? OAQ(4)2373(FM)
8. Keith Davies (Llanelli):A wnaiff y Prif Weinidog roi trosolwg o'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i amddiffyn a chefnogi treftadaeth leol? OAQ(4)2379(FM)W
9. Christine Chapman (Cwm Cynon):Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hyrwyddo'r cyflog byw? OAQ(4)2375(FM)
10. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella gwasanaethau iechyd yn Sir Benfro? OAQ(4)2365(FM)
11. Nick Ramsay (Mynwy):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisïau Llywodraeth Cymru ar gyfer ad-drefnu llywodraeth leol? OAQ(4)2372(FM)
12. Ann Jones (Dyffryn Clwyd):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth ar gyfer gwasanaethau sy'n darparu cyngor ar ddyled yng Nghymru? OAQ(4)2374(FM)
13. Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyfleusterau Cymru ar gyfer cynnal digwyddiadau a chynadleddau mawr? OAQ(4)2369(FM)
14. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi'r gymuned lluoedd arfog yng Nghymru? OAQ(4)2367(FM)
15. Gwenda Thomas (Castell-nedd):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am adfywio'r iaith Gymraeg? OAQ(4)2380(FM)W