Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 10 Mehefin 2015 i'w hateb ar 17 Mehefin 2015

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

1. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am weithredu’r strategaeth ddŵr i Gymru? OAQ(4)0314(NR)W

2. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd):Pa gamau y bydd y Gweinidog yn eu cymryd i gynyddu nifer y prosiectau ynni adnewyddadwy ar raddfa fach yng Nghymru? OAQ(4)0312(NR)

3. Jeff Cuthbert (Caerphilly):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am weithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015? OAQ(4)0315(NR)

4. Andrew RT Davies (Canol De Cymru):  A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei flaenoriaethau rheoli gwastraff ar gyfer y dyfodol agos yng Nghanol De Cymru? OAQ(4)0323(NR)

5. Alun Ffred Jones (Arfon):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynllun gofodol morol? OAQ(4)0325(NR)W

6. Christine Chapman (Cwm Cynon):Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella lles anifeiliaid domestig yng Nghymru? OAQ(4)0309(NR)

7. William Graham (Dwyrain De Cymru):A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei ystyriaethau mewn perthynas â chreu ardaloedd menter bwyd? OAQ(4)0321(NR)

8. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynllun y taliad sylfaenol? OAQ(4)0318(NR)

9. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru):Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella lles anifeiliaid yng Nghymru yn 2015? OAQ(4)0308(NR)

10. William Graham (Dwyrain De Cymru):A yw'r Gweinidog yn bwriadu adolygu safbwynt Llywodraeth Cymru ar gnydau a addaswyd yn enetig? OAQ(4)0322(NR)

11. Russell George (Sir Drefaldwyn):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am weithgareddau Amgylchedd Cymru? OAQ(4)0319(NR)

12. Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am reoli gwastraff? OAQ(4)0311(NR)

13. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd):Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i hybu ffermio organig yng Nghymru? OAQ(4)0313(NR)

14. Russell George (Sir Drefaldwyn):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar drwyddedu cafnau golchi defaid yng Nghymru? OAQ(4)0320(NR)

15. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y rheol gwaharddiad symud chwe diwrnod ar gyfer anifeiliaid byw? OAQ(4)0317(NR)

 

Gofyn i'r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

1. Jeff Cuthbert (Caerffili):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i dai cymdeithasol yng Nghaerffili? OAQ(4)0337(CTP)

2. Janet Haworth (Gogledd Cymru):A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i adfywio'r stryd fawr? OAQ(4)0339(CTP)

3. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y fframwaith Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid? OAQ(4)0341(CTP)

4. William Graham (Dwyrain De Cymru):A wnaiff y Gweinidog amlinellu trafodaethau y mae wedi'u cynnal gyda chydweithwyr yn y Cabinet ar gefnogi'r sector gwirfoddol yng Nghymru? OAQ(4)0340(CTP)

5. Elin Jones (Ceredigion):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer tai mewn ardaloedd gwledig? OAQ(4)0342(CTP)W

6. Mick Antoniw (Pontypridd):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y ddarpariaeth o'r cynllun Dechrau'n Deg yn Nhaf Elái? OAQ(4)0334(CTP)

7. Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gweddill tymor y Cynulliad hwn mewn perthynas â phrosiectau adfywio yng ngorllewin Cymru? OAQ(4)0345(CTP)

 

 

class=WordSection2>

8. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru):Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â'r prinder gofal plant mewn ardaloedd gwledig? OAQ(4)0336(CTP)W

9. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am bolisi Llywodraeth Cymru ynghylch adfywio tir diffaith? OAQ(4)0332(CTP)

10. Janet Haworth (Gogledd Cymru):A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau nad yw pobl yng Ngogledd Cymru yn cael eu hallgáu'n ddigidol? OAQ(4)0338(CTP)

11. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r potensial i fynd i'r afael â'r angen o ran tai drwy ailsefydlu fflatiau gwag yng nghanol trefi? OAQ(4)0344(CTP)

12. Mark Isherwood (Gogledd Cymru):Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod ei rhaglenni cymorth i deuluoedd yn ymgysylltu'n llawn â rhieni? OAQ(4)0333(CTP)

13. Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd):Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Gweinidogion eraill Cymru ynglŷn â chydlynu materion sy'n ymwneud â threchu tlodi? OAQ(4)0349(CTP)W

14. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd):Beth yw asesiad Llywodraeth Cymru o gynnig Llywodraeth y DU i orfodi cymdeithasau tai i werthu eu heiddo presennol o dan y cynllun hawl i brynu? OAQ(4)0346(CTP)

15. Altaf Hussain (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer cynhwysiant digidol dros y 12 mis nesaf? OAQ(4)0335(CTP)