Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 27 Mai 2015
 i'w hateb ar 3 Mehefin 2015

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i'r Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

1. John Griffiths (Dwyrain Casnewydd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynnydd a wnaed mewn perthynas â datganoli cyfrifoldeb ariannol i Lywodraeth Cymru? OAQ(4)0561(FIN)

2. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am drosglwyddo asedau cymunedol? OAQ(4)0568(FIN)W

3. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyrannu cyllid i'r portffolio iechyd a gwasanaethau cymdeithasol? OAQ(4)0569(FIN)

4. Christine Chapman (Cwm Cynon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wariant ataliol ar draws adrannau Llywodraeth Cymru? OAQ(4)0556(FIN)

5. John Griffiths (Dwyrain Casnewydd): Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r goblygiadau i gyllideb Llywodraeth Cymru o ethol Llywodraeth newydd y Deyrnas Unedig? OAQ(4)0562(FIN)

6. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa ffactorau y gwnaeth y Gweinidog eu hystyried wrth ddyrannu cyllid i'r portffolio addysg a sgiliau? OAQ(4)0563(FIN)W

7.Nick Ramsay (Mynwy): Pa flaenoriaethau y gwnaeth y Gweinidog eu hystyried wrth ddyrannu cyllid i'r portffolio iechyd a gwasanaethau cymdeithasol? OAQ(4)0559(FIN)

8.Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): Sut y mae'r Gweinidog yn adolygu asesiadau effaith ariannol mewn memoranda esboniadol sy'n cyd-fynd â deddfwriaeth ddrafft? OAQ(4)0564(FIN)

9.Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y trafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch setliad ariannol Cymru? OAQ(4)0565(FIN)W

10. Alun Ffred Jones (Arfon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyhoeddi ystadegau cenedlaethol? OAQ(4)0560(FIN)W

11. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu'r cyfraniad a wnaed i Ddwyrain De Cymru gan brosiectau menter cyllid preifat? OAQ(4)0558(FIN)

12.Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyrannu cytundebau caffael cyhoeddus? OAQ(4)0566(FIN)W

13. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): Pa ganllawiau y mae Llywodraeth Cymru yn eu darparu mewn perthynas â rheoli cyllidebau? OAQ(4)0567(FIN)

14.Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Pa ystyriaeth y rhoddodd y Gweinidog i ddatblygu economaidd wrth ddyrannu cyllid i bortffolio'r economi, gwyddoniaeth a thrafnidiaeth? OAQ(4)0557(FIN)

Gofyn i’r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

1. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth barhaus i gymunedau a fydd yn cymryd yr awenau gan awdurdodau lleol o ran rhedeg gwasanaethau cyhoeddus? OAQ(4)0570(PS)

2. John Griffiths (Dwyrain Casnewydd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer diwygio gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru? OAQ(4)0571(PS)

3. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed? OAQ(4)0575(PS)

4. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa ganllawiau sydd ar waith i helpu i reoli maint cronfeydd ariannol awdurdodau lleol yn ystod cyfnod o galedi? OAQ(4)0567(PS)W

5. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddiogelwch cymunedol yn Sir Benfro? OAQ(4)0563(PS)

6. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r effaith y bydd toriadau yn y sector cyhoeddus yn ei chael ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru? OAQ(4)0574(PS)

7. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): Sut y mae Llywodraeth Cymru yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i awdurdodau lleol am newidiadau perthnasol i'r gyfraith? OAQ(4)0568(PS)

8. John Griffiths (Dwyrain Casnewydd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer gweithio mewn partneriaeth gydag awdurdodau lleol yng Nghymru? OAQ(4)0572(PS)

9. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei weledigaeth ar gyfer gwasanaethau llywodraeth leol yng Nghymru? OAQ(4)0573(PS)W

10. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y broses uno gwirfoddol ar gyfer awdurdodau lleol Cymru? OAQ(4)0566(PS)

11. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am lefelau treth cyngor yng Nghymru? OAQ(4)0569(PS)

12. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): Faint o argymhellion Comisiwn Williams sydd wedi cael eu rhoi ar waith? OAQ(4)0565(PS)

13. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am rôl cynghorau tref a chymuned yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ(4)0564(PS)