R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effaith canlyniad etholiad cyffredinol y DU ar bolisïau Llywodraeth Cymru? OAQ(4)2262(FM)
2. Alun Ffred Jones (Arfon): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cynnydd a wnaed dros y pedair blynedd diwethaf mewn perthynas â strategaeth iaith Gymraeg Llywodraeth Cymru? OAQ(4)2264(FM)W
3. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisïau Llywodraeth Cymru i gefnogi ein seilwaith ffyrdd? OAQ(4)2265(FM)
4. Keith Davies (Llanelli): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu prif amcanion y ddarpariaeth o wasanaethau orthodontig yng Nghymru? OAQ(4)2261(FM)W
5. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y disgwyliadau ar gyfer economi wledig Cymru yn y dyfodol? OAQ(4)2268(FM)
6. Gwenda Thomas (Castell-nedd): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi'r sector manwerthu annibynnol? OAQ(4)2271(FM)W
7. Gwyn Price (Islwyn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wneud y gorau o'r manteision a fydd yn deillio o gemau Cwpan Rygbi'r Byd 2015 a gaiff eu chwarae yng Nghaerdydd? OAQ(4)2269(FM)
8. Sandy Mewies (Delyn): A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynllun cyflawni Llywodraeth Cymru ar gyfer gofal iechyd llygaid? OAQ(4)2272(FM)
9. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi pobl hŷn i ddychwelyd i'r gweithle? OAQ(4)2266(FM)
10. Russell George (Sir Drefaldwyn): Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi twf busnesau yn Sir Drefaldwyn? OAQ(4)2263(FM)
11. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa gamau sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru i roi hwb i economi Canol De Cymru? OAQ(4)2267(FM)
12. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Pa asesiad sydd wedi'i wneud o'r effaith y bydd Llywodraeth newydd y DU ei chael ar allu Llywodraeth Cymru i gefnogi busnesau bach yng Nghaerdydd? OAQ(4)2270(FM)
13. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am flaenoriaethau iechyd Llywodraeth Cymru ar gyfer Sir Benfro? OAQ(4)2258(FM)
14. Ann Jones (Dyffryn Clwyd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effaith y dreth ystafell wely ar bobl Dyffryn Clwyd? OAQ(4)2260(FM)
15. Peter Black (Gorllewin De Cymru): Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael ynghylch dyfodol fformiwla Barnett? OAQ(4)2257(FM)