R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 3.
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Lynne Neagle (Torfaen): Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch effaith diwygiadau lles ar bobl sy'n byw yng Nghymru? OAQ(4)2235(FM) TYNNWYD YN ÔL
2. Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y drefn gwynion Gweithio i Wella a ddefnyddir mewn byrddau iechyd yng Nghymru? OAQ(4)2228(FM)
3. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau i wella GIG Cymru? OAQ(4)2230(FM)
4. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am weithredu’r cynllun bathodyn glas? OAQ(4)2224(FM)
5. Sandy Mewies (Delyn): A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynyddu'r cyflenwad tai yng Nghymru? OAQ(4)2226(FM)
6. Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am addysg bellach yn sir Gaerfyrddin? OAQ(4)2231(FM)
7. John Griffiths (Dwyrain Casnewydd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y system metro ar gyfer trafnidiaeth yn ne Cymru? OAQ(4)2236(FM)
8. Ann Jones (Dyffryn Clwyd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau gynaecoleg ac obstetreg yn Ysbyty Glan Clwyd? OAQ(4)2229(FM)
9. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Beth yw strategaeth y Llywodraeth ar gyfer cynhyrchu a defnyddio ynni adnewyddadwy yn lleol? OAQ(4)2237(FM)
10. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol Twf Swyddi Cymru? OAQ(4)2233(FM)W
11. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wella tryloywder y wybodaeth a ddarperir mewn ymateb i geisiadau rhyddid gwybodaeth? OAQ(4)2225(FM)
12. Keith Davies (Llanelli): A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am effaith costau byw cyfredol ar bobl yng Nghymru? OAQ(4)2239(FM)W
13. Janet Finch-Saunders (Aberconwy):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gymorth iechyd meddwl yng ngogledd Cymru? OAQ(4)2232(FM)
14. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella canlyniadau economaidd yng Nghanol De Cymru? OAQ(4)2234(FM)
15. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar gloddio glo brig?OAQ(4)2227(FM)